Pum munud gydag Anni Llŷn: Dod i adnabod yr awdur a'r cyflwynydd

  • Cyhoeddwyd
Anni Llŷn

Mae hi'n awdur ac yn wyneb cyfarwydd ar raglenni plant, a drwy gydol Gorffennaf Anni Llŷn fydd Bardd y Mis Radio Cymru.

Mae gennych chi gyfrol barddoniaeth ar fin dod o'r wasg - eich cyntaf i oedolion - sut ydych chi'n teimlo wrth gyhoeddi unrhyw waith newydd?

Nerfus wrth reswm, ond mae'n gwneud i mi deimlo mod i eisiau mynd yn syth i sgwennu mwy. Roedd hi'n braf canolbwyntio ar farddoniaeth am gyfnod ac mae'r awch yndda i rŵan, eisiau dal ati i ddatblygu a sgwennu'r holl gerddi 'na sy'n arnofio'n fy meddwl!

Ar ôl 12 mlynedd o fyw yng Nghaerdydd rydych chi rŵan yn byw yn ôl ym Mhen Llŷn, ydy'r newid byd wedi newid yr awen?

Dwi'm yn siŵr. Os ydi o, tydi'r newid ddim wedi bod yn amlwg i mi. Dwi wedi dod yn fam i ddwy yn ystod y cyfnod o fudo i'r gogledd hefyd, mae'n debyg fod hynny wedi cael mwy o effaith ar yr awen!

Ffynhonnell y llun, Anni Llyn
Disgrifiad o’r llun,

Martha ac Eigra, plant Anni

Mae gallu byw o fewn ein cymunedau cynhenid wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar gyda'r brotest Hawl i Fyw Adra, â Phen Llŷn yn ganolbwynt i'r protestio. Ydych chi'n berson - ac yn fardd - gwleidyddol?

Dwi ddim yn meddwl mod i'n amlwg-wleidyddol ond dwi'n trio adlewyrchu fy ngwleidyddiaeth yn y ffordd dwi'n byw. Dwi'n credu fod angen economi leol iach a chymdeithas uchelgeisiol ac felly dwi'n trio fy ngorau i gefnogi busnesau a mentrau lleol.

Dwi'n credu fod angen rhoi ymdrech wrth adeiladu a chynnal cymunedau ac felly dwi'n trio bod yn rhan o ddigwyddiadau cymunedol. Dwi'n credu fod angen defnyddio a hyrwyddo'r iaith Gymraeg, cefnogi addysg Gymraeg ac annog meddyliau creadigol, a dwi'n teimlo mod i'n gallu cyfrannu at hynny drwy fy ngwaith fel awdur plant.

O ran barddoni'n benodol, dwi ddim yn meddwl fy mod i'n mynd ati i sgwennu yn fwriadol wleidyddol, ond am wn i y gellir dehongli rhai o fy ngherddi felly. Mae gan bawb ei ffordd ei hunan o fod yn wleidyddol ac mae angen yr amrywiaeth hynny i gefnogi ymgyrchoedd.

Beth ydy'r un peth ydych chi'n methu am fywyd dinas?

Yng Nghaerdydd, pan oedd hi'n noson stecen, tra yr oedd y gŵr yn ei choginio ro'n i'n rhedeg rownd y gornel i nôl bag o sglodion o'r siop chips! Tydi hynny ddim yn bosib yng Ngarnfadryn yn anffodus!

Fel un o gast cyfres boblogaidd Ysbyty Hospital a sgriptiwr teledu, beth ydy eich hoff gyfres deledu erioed?

Disgrifiad o’r llun,

Inside No 9 - un o nifer o hoff gyfresi teledu Anni

Mae'n gas gen i gwestiynau fel hyn…! Does gen i byth ateb pendant! Fedra i ddim gwadu mod i'n ffan o glasuron Cymraeg fel C'mon Midffîld, Jini Mê Jones, Porc Peis Bach.

Mae cyfresi fel Inside No.9 yn ddifyr. Dwi hefyd yn gallu ymgolli mewn cyfresi fel Ozark neu Game of Thrones. Ond dwi'n meddwl fod hiwmor oesol yr hen gyfres Fraiser sydd dal yn cael ei ddangos yn wych! Ti'n gweld… does gen i ddim ateb pendant!

Fel un sydd efo blynyddoedd o brofiad yn gweithio efo plant ac yn gyn-Fardd Plant Cymru, sut mae annog diddordeb mewn cerddi - a beth wnaeth eich denu chi at eiriau pan oeddech yn iau?

Yn fy ngweithdai, dwi eisiau i blant deimlo yn hyderus wrth ddefnyddio geiriau i ddehongli, i ddweud, i rannu ac mae barddoniaeth yn ffordd berffaith o wneud hynny. Mae defnyddio'r dychymyg mor rhydd ag y gallwn hefyd yn bwysig.

Straeon llafar a llyfrau da wnaeth fy nenu i, felly mae hi'n hanfodol ein bod ni drwy'r amser yn cefnogi a datblygu'r diwydiant cyhoeddi ac yn dal ar i rannu straeon gyda phlant drwy bob cyfrwng a chelfyddyd.

Petai chi'n gallu bod yn unrhyw fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Ffynhonnell y llun, Casgliadau John Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch i godi cerflun yn Llangrannog i'r forwraig, bardd, newyddiadurwraig, pregethwraig ac ymgyrchydd Sarah Jane Rees, neu Cranogwen

Cranogwen, dwi'm yn meddwl y gwna ni fyth ddallt yn iawn pa mor arloesol oedd hi yn mynnu dal ati i wneud beth oedd hi eisiau. Ond nid yn unig hynny, gweithiodd i fod y gorau mewn meysydd yr oedd cymdeithas yn dweud na ddylai hi ac na allai hi wneud am ei bod hi'n ferch. Mi fasa'n ddifyr cael cip ar sut un oedd hi go iawn.

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu a pham?

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Y Prifardd Gerallt Lloyd Owen, fu'n lais Y Talwrn ar Radio Cymru am dros 30 mlynedd

Dwi'n cael y teimlad yna'n aml! Yn enwedig yn ddiweddar wrth feirniadu Llyfr y Flwyddyn, mae 'na feirdd arbennig wedi cyhoeddi yn ddiweddar! Ond dwi'n cofio llefaru detholiad o awdl Cilmeri Gerallt Lloyd Owen flynyddoedd nôl ac mae honno'n dal i fod yn impresif iawn, felly mi fasa'n braf iawn cael dweud mai fi sgwennodd yr awdl honno!

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

Cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth ac felly edrych mlaen i lansio a hyrwyddo honno! Sawl llyfr yn cael ei gyhoeddi eleni gan gynnwys nofel i ddysgwyr, llyfr stori arbennig i blant am Cranogwen gyda Llyfrau Broga, llyfr Cyw arall.

Cyd-weithio gyda'r Senedd a Llenyddiaeth Cymru ar gyfres o weithdai barddoni. Digwyddiad cyffrous ar y gweill ar gyfer Eisteddfod AmGen i'r teulu hefyd! Digon i 'neud!

Hefyd o ddiddordeb:

Fy stafell i: Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru