'Cymru ddim yn gallu ymdopi â thon newydd o ddigartrefedd'
- Cyhoeddwyd
Fydd y system ddigartrefedd yng Nghymru ddim "yn gallu ymdopi" gyda'r "don newydd" o alw allai ddod o ganlyniad i godi'r gwaharddiad ar orchymyn tenantiaid i adael eu cartrefi, yn ôl elusen.
Dywedodd Shelter Cymru y gallai penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn y gwaharddiad, a gyflwynwyd i amddiffyn tenantiaid yn ystod y pandemig, effeithio ar "gannoedd" o bobl.
Dywedodd y llywodraeth fod y penderfyniad wedi'i wneud "yn unol â chodi cyfyngiadau eraill".
Daeth y gwaharddiad ar orchymyn tenantiaid i adael eu cartrefi, dolen allanol i rym yng Nghymru ym mis Rhagfyr "i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chefnogi tenantiaid".
Cafodd ei ymestyn tan ddiwedd mis Mawrth i ddechrau, ac yna tan ddiwedd mis Mehefin.
Mae gweinidogion bellach wedi cadarnhau na fydd yn cael ei ymestyn ymhellach "yn unol â chodi cyfyngiadau eraill gan ein bod ni ar lefel rhybudd un".
Fodd bynnag bydd yn rhaid i landlordiaid barhau i roi chwe mis o rybudd i denantiaid cyn eu bod nhw'n gorfod gadael.
Daeth gwaharddiad tebyg yn Lloegr i ben ar 31 Mai.
Dywedodd Jennie Bibbings, Pennaeth Ymgyrchoedd Shelter Cymru, fod y gwaharddiad wedi "achub bywydau".
Pan ofynnwyd iddi faint o bobl y gallai'r newid effeithio arnynt, dywedodd Ms Bibbings wrth raglen Politics Wales y BBC: "Rydyn ni'n credu ei bod yn debygol o fod yn y cannoedd yn hytrach na'r miloedd.
"Fodd bynnag nid yw'n ymwneud yn unig â'r rhai sydd eisoes yn y system, mae'n ymwneud â'r holl orchmynion newydd sy'n mynd i ddechrau dod trwodd unwaith y bydd landlordiaid yn cael y neges bod y gwaharddiad yn cael ei godi."
Dywedodd Ms Bibbings, pe bai trydedd don o'r firws, byddai'n rhaid ailgyflwyno'r gwaharddiad ac "mae'n rhaid i ni i gyd obeithio nad oes gormod o ddifrod wedi'i wneud yn y cyfamser".
"Ni fydd ein system yng Nghymru yn ymdopi â thon newydd o ddigartrefedd," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y bydd "cynllun newydd i ddarparu cefnogaeth bellach i bobl sy'n ei chael yn anodd talu eu rhent" oherwydd y pandemig yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon.
"Yn y cyfamser, rydym yn parhau i annog unrhyw un sy'n profi problemau i siarad â'u landlord a chysylltu â Chyngor ar Bopeth Cymru neu Shelter Cymru i gael cyngor a chefnogaeth bellach."
Mae Sarah Davies, sy'n byw yn Ynys-wen ger Ystradgynlais gyda'i merch bum mlwydd oed, yn gorfod gadael ei chartref.
Dywedodd ei bod hi wedi rhoi'r gorau i dalu rhent ar ôl i'r landlord anwybyddu ceisiadau i wneud gwaith cynnal a chadw ar y tŷ.
Mae'r landlord yn gwrthod yn chwyrn y fersiwn honno o ddigwyddiadau.
Nawr mae Ms Davies yn aros am gnoc ar y drws.
"Rwy'n hanner-barod ar ei gyfer," meddai.
"Yn amlwg dydw i ddim eisiau cynhyrfu fy merch felly mae gen i ffrindiau yn eu lle os yw hynny'n digwydd a gallan nhw ddod i'w chasglu hi fel nad oes raid iddi fynd trwy'r trawma hwnnw.
"Byddai'n braf cael ychydig mwy o amser."
Dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru "edrych ar y darlun ehangach".
"Os oes cyfnod clo eto a'r llefydd gwely a brecwast yn cau eto, beth ydych chi'n mynd i'w wneud?
"Byddwn ni i gyd allan ar y stryd."
Y stori yn llawn ar Politics Wales ar BBC1 Cymru am 10:00 ddydd Sul.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020