'Malurion coed' oedd prif achos llifogydd Pentre
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad wedi cadarnhau bod llifogydd yn y Rhondda ym mis Chwefror y llynedd wedi eu hachosi gan "falurion coed" yn rhwystro ffos.
Cafodd Pentre yn y Rhondda ei daro gan lifogydd ar bum achlysur gwahanol yn 2020, gan effeithio ar 159 o gartrefi a 10 busnes. Y tro cyntaf oedd yn ystod Storm Dennis ar 15 a 16 Chwefror.
Yr adeg hynny fe wnaeth "glaw digynsail" achosi lefel yr afon i godi i'r lefel uchaf erioed, gan achosi'r llifogydd gwaethaf yn y Rhondda ers y 1970au.
Yn fuan wedi'r digwyddiad, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei bod yn debygol mae coed yn rhwystro'r draeniau oedd achos mwyaf tebygol y llifogydd, a nawr mae adroddiad gan Gyngor Rhondda Cynon Taf wedi cadarnhau hynny.
Daeth y malurion coed o ganlyniad i ddymchwel coed llarwydd heintiedig, a Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol am hynny, ac am gyflwr y ffos.
Ddydd Iau, dywedodd CNC: "Rydym yn llwyr sylweddoli'r effaith ddybryd a gafodd stormydd Chwefror 2020 ar gymunedau yn Rhondda Cynon Taf. Roedd maint effeithiau strwythurol a dynol y llifogydd yn enbydus ac roedd y torcalon i'w weld yn amlwg yn y cymunedau hynny.
"Rydym yn dal i gydymdeimlo'n fawr â'r rhai y cafodd eu tai eu difrodi, y rhai y bygythiwyd eu bywoliaeth a'r rhai sy'n dal i adfer ac ailadeiladu heddiw.
"Rydym yn derbyn y gallai deunydd pren a gafodd ei olchi oddi ar y mynyddoedd uwchben Pentre fod wedi cyfrannu at rwystrau i'r system gwlferi, a oedd hefyd yn cynnwys cryn dipyn o bridd a chreigiau. Fodd bynnag, roedd cyfran o'r malurion pren ddim yn gysylltiedig â gweithrediadau cwympo CNC ac fe'u golchwyd i lawr o ganlyniad naturiol i ddigwyddiad mor eithafol.
"Felly mae CNC yn anghytuno â chasgliad yr adroddiad mai ei weithrediadau cynaeafu oedd prif achos y llifogydd yn ystod Storm Dennis.
"Mae newid yn yr hinsawdd yn arwain at dywydd mwy eithafol, ac rydym yn sicr o weld mwy o'r mathau o stormydd a welsom yn 2020 yn y dyfodol. Dyna pam y dylai'r gwersi a ddysgwyd gan bob awdurdod rheoli perygl llifogydd sy'n rhan o'r ymateb i ddigwyddiadau mis Chwefror fod yn gatalydd ar gyfer y camau pendant sydd eu hangen i addasu i heriau'r dyfodol."
'Glaw digynsail'
Cafodd adroddiad Cyngor Rhondda Cynon Taf ei gyhoeddi ddydd Iau yn dilyn ymchwiliad gan yr awdurdod.
Fel rhan o'r ymchwiliad fe wnaeth y cyngor siarad gyda thîm rheoli risg llifogydd yr awdurdod a chlywed straeon gan drigolion ynghyd ag ystyried gwybodaeth a gasglwyd gan y tîm iechyd cyhoeddus, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.
Fe ddywed yr adroddiad bod mewnlif un ffos, sy'n berchen i Ystadau Coediog Llywodraeth Cymru ac yn cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wedi'i rwystro gan falurion oedd wedi llifo o'r mynydd gerllaw, gan gynnwys ardal lle'r oedd coed wedi eu dymchwel gan CNC.
"Roedd hyn," medd yr adroddiad, "wedi lleihau capasit dŵr y ffos yn ddifrifol."
Wrth adolygu'r ffos roedd tystiolaeth ddigamsyniol y byddai wedi gallu delio gyda'r storm pe na bai wedi'i rhwystro.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, bod yr ymchwiliad bod bod yn un cadarn.
Meddai: "Mae'n amlwg bod rhwystro'r ffos gan falurion coed wedi effeithio'n fawr ar allu'r isadeiledd draenio i ddelio gyda'r glaw digynsail a welwyd."
Ychwanegodd fod CNC wedi dweud fod y gwaith o ddymchwel coed ar y safle wedi cael ei wneud "yn unol gyda'r ymarfer gorau yn genedlaethol" a bod tywydd Storm Dennis "yn eithafol, ac mae'n annhebygol y byddai llifogydd o ddigwyddiad tebyg yn gallu cael eu hatal yn llwyr".
Cynlluniau atal llifogydd
Ymhlith y camau i leihau'r risg o lifogydd yn y dyfodol, mae'r ffos ar Ffordd Pentre wedi ei huwchraddio, a systemau gorlif wedi eu gosod rhag ofn y bydd yn cael ei rhwystro eto.
Mae system larwm 24/7 a chamera cylch cyfyng wedi eu gosod ger y ffos fel bod y cyngor yn cael gwybod am unrhyw broblem.
Fe fydd cynlluniau rheoli dŵr a choedwigoedd CNC yn cael eu hadolygu, gan gynnwys trin malurion sy'n agos i systemau draenio cyffredin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2020