Damcaniaeth newydd am ddirgelwch Côr y Cewri
- Cyhoeddwyd
Mae Côr y Cewri yn ddirgelwch sy'n peri penbleth i archeolegwyr ers cyn cof.
Sut yn y byd y llwyddodd pobl gyntefig i symud cerrig anferthol o fynyddoedd y Preselau i greu Côr y Cewri 180 o filltiroedd i ffwrdd ar Wastadedd Caersallwg (Salisbury), a hynny filoedd o flynyddoedd yn ôl?
Cred rhai bod y cerrig gleision ar gylch mewnol y Côr wedi cael eu llusgo yno gan bobl, tra bod eraill yn cynnig mai gwartheg oedd yn gwneud y gwaith tynnu.
Ond mae gan ddyn o Sir Ddinbych ddamcaniaeth arall.
Mae Steven Tasker yn credu fod pobl wedi defnyddio peiriant i wneud y gwaith, dyfais y mae cyfeiriad ato - o bosib - yn y Beibl.
Mae arbenigwyr hanes yr Aifft yn credu y gallai'r ddamcaniaeth egluro sut yr oedd cofadeiliau'n cael eu symud gan ein hynafiaid.
"Efallai ei fod o'n edrych fel rhywbeth allan o Last of the Summer Wine," meddai Mr Tusker, "ond rydym wedi codi traean o dunnell efo fo ac mewn theori gallai symud unrhyw bwysau".
Mae gan y gosodwr carpedi, 66 oed, o Lanrhaeadr-yng-Nghinmeirch ddiddordeb mawr yn hen hanes yr Aifft a thra'r oedd ar daith yn Cairo yn 2004, dechreuodd gwestiynu gwir bwrpas rhai o'r hen greiriau a welodd yno.
Er enghraifft, gallai'r hyn oedd yn ymddangos fel potiau colur llygaid, fod yn rholeri i symud gwrthrychau o gwmpas.
A gallai'r hyn oedd yn ymddangos fel slediau fod yn siglwyr - darnau y mae Steven Tusker yn credu oedd yn rhan o beiriant cymhleth.
"Mi wnes i glymu'r siglwyr o dan 'styllen o bren i geisio gweithio allan sut y gallen nhw fod wedi cael eu defnyddio," meddai.
"Trwy ddefnyddio pwyntiau colyn (pivot points) ro'n i yn gallu gwrthbwyso rholyn o garped yn pwyso 60kg ar y top, a mynd a fo ar draws y lôn gan ddefnyddio'r siglwyr.
"Mae lluniau o ddelwau yn cael eu llusgo ar slediau. Ond mae cefn pob delw yn fflat, felly byddai'r peiriant yma'n ffordd rwydd o'u symud, beth bynnag fo'r pwysau. Gallai tîm bychan o ddynion wneud y gwaith."
Er gwaetha'r ddamcaniaeth, bu prototeip Steven Tusker yn hel llwch yn ei garej tan 2018 pan aeth ar daith gyda Dr Campbell Price, curadur un o gasgliadau Eifftoleg mwyaf y DU, yn Amgueddfa Manceinion.
Roedd Dr Price yn hoffi'r ddamcaniaeth a rhoddodd wahoddiad iddo roi sgwrs ar y ddyfais, a ysgogodd Mr Tusker i barhau â'i ymchwil.
Trwy gyd-ddigwyddiad, wrth bori mewn copi o'r Hen Destament tra'r oedd yn aros mewn bwthyn gwyliau, daeth ar draws cyfeiriad a'i helpodd i lunio darlun cliriach o'r ddyfais yn ei feddwl.
Mewn un darn mae'r proffwyd Eseciel yn disgrifio gweledigaeth o Dduw yn cael ei gario gan bedwar creadur, gyda phedair adain "yr oedd eu coesau yn syth a gwadnau eu traed fel gwadnau llo". (Es, 1: 5-7)
Mae Steven yn credu mai pedair 'styllen bren yn symud ar y naill ochr a'r llall oedd y "pedair adain", tra bod y syniad o draed llo wedi ei gynorthwyo i ddatblygu ei brototeip ymhellach.
"Maen nhw [y traed] yn rhan bwysig o'r peiriant achos bod canol y llwyth yn cael ei gadw uwch eu pennau," meddai.
"Mae'n rhoi'r argraff bod y peiriant yn herio disgyrchiant."
O ble daeth y peiriant?
Cafodd delwau'n pwyso 1,200 tunnell eu symud yn yr hen Aifft, sy'n ei arwan i gredu mai yno y cafodd y peiriant gwreiddiol ei greu.
Ond, mae'r meini hirion Stenness, ar Ynysoedd Erch, sy'n chwe metr (19 troedfedd) o daldra, yn dyddio o 3,200CC - 400 mlynedd cyn y pyramidiau.
Daeth yr Eifftolegwr Laird Scranton o hyd i DNA anifeiliaid a phlanhigion ar Ynysoedd Erch, oedd yn ei arwain i gredu bod offeiriaid o'r Aifft wedi cyrraedd gogledd Yr Alban, a rhannau eraill, er mwyn sefydlu canolfannau dysg.
Roedden nhw yn dysgu'r boblogaeth leol am y tymhorau, ffermio ac amaethu, awgrymodd.
"I wneud hyn mae angen cloc tymhorol arnoch chi," meddai Steven Tusker:
"Yn eu hanfod dyna ydi Côr y Cewri a chylchoedd cerrig."
Sut y cafoddCôr y Cewri ei greu?
Cred Steven bod cerrig anferthol wedi cael eu symud drwy Brydain gyfan i'w defnyddio fel clociau, calendrau a themlau, gyda Chôr y Cewri yr un mwyaf sylweddol.
Mae'n amcangyfrif y gallai'r peiriant deithio 1.5 milltir y dydd, sy'n golygu y byddai hi wedi bod yn bosibl i symud cerrig o'r Preselau o fewn misoedd.
Yr hyn sy'n gosod Côr y Cewri ar wahân yw'r cylch o'i amgylch sy'n cynnwys 56 pydew sialc, sy'n cael eu hadnabod fel Tyllau Aubrey.
Mae Steve Tusker yn credu y gallai hwn fod yn ddeiagram anferth o'r bwrdd yng nghanol y peiriant.
Byddai'r Tyllau Aubrey yn cynrychioli peli traul (ball bearings) a ddefnyddid i ddal y delwau yn eu lle, tra'r oedd ymdrechion yn mynd ymlaen i'w wella.
Barn yr arbenigwyr?
Dywedodd y peiriannydd Shaun Whitehead, a arweiniodd archwiliad robotig o'r Pyramid Mawr ei fod yn aml yn clywed syniadau gan bobl ynglŷn â sut y cafodd y strwythurau yma eu codi.
"Dwi'n ofalus i beidio gwrthod y rhain heb wneud dipyn o feddwl, ond mae'n bosibl dangos bod y rhan fwyaf yn anymarferol ac yn anodd i'w weithredu."
"Er hynny, mae damcaniaethau Steven ar sut y gallai gwrthrychau anferth gael eu symud yn dangos meddylfryd peirianyddol creadigol ac ymarferol."
Ychwanegodd na wyddai neb i sicrwydd sut y cafodd y cerrig eu symud, ond bod syniad Steven Tusker "cystal ag unrhyw un, ac yn well na'r rhan fwyaf".
Dywedodd Dr Campbell Price nad oedd symudiad "effeithlon nifer fawr o henebion" erioed wedi cael ei egluro'n llawn.
"Mae arbrofion Steven yn rhoi perspectif gwahanol i ni o sut yr oedd pobl hynafol yn gallu cynllunio llinellau y gwrthsafiad lleiaf, ac i drin a thrafod grymoedd naturiol," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2015