'Y gefnogaeth yn sâl' i rieni sydd ag anableddau dysgu
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni bregus sydd ag anableddau dysgu "yn wynebu methiant" ac o bosib yn debygol o golli'r hawl i ofalu am eu plant, medd elusen.
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn rhybuddio nad oes cymaint o gyfleoedd wedi bod i gyflwyno sgiliau gofal i rieni yn sgil y pandemig a bod nifer o blant yn gorfod gadael eu rhieni yn ddiangen.
Does dim canllaw ar hyn o bryd ar sut y dylid cefnogi rhieni bregus.
Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ariannu canllaw ac yn darparu adnoddau hwylus.
Effaith y pandemig
Yn ôl Samantha Williams, rheolwr polisi a chyfathrebu Anabledd Dysgu Cymru, mae'r gefnogaeth i rieni sydd ag anableddau dysgu yn sâl a does dim digon o hyfforddiant i weithwyr cymdeithasol.
Dywedodd bod teuluoedd bregus angen cael mynediad i gyrsiau, a'u bod hefyd angen digon o amser i ddysgu gan y gall gymryd mwy o amser i rai ddysgu sgiliau newydd a chofio'r sgiliau hynny.
"Amserlen o 26 wythnos sydd 'na ar gyfer dysgu sgiliau bod yn rhieni - amser hynod o fyr i riant sydd ag anableddau dysgu i ddod yn gyfarwydd â'r sgiliau angenrheidiol ac i ddangos bod ganddyn nhw'r galluoedd sydd eu hangen ar gyfer cadw eu plant," medd Ms Williams.
"Mae modd i'r amserlen gael ei hymestyn mewn rhai amgylchiadau os yw'r llys yn credu bod angen hynny ond dyw hynny ddim yn digwydd rhyw lawer."
Dywed Ruth Northway, sy'n athro ar yr adran nyrsio pobl ag anableddau dysgu ym Mhrifysgol De Cymru, bod pandemig Covid-19 wedi cael cryn effaith ar bobl ag anableddau dysgu.
Dywedodd bod nifer o anghyfartaleddau wedi dod yn fwy i'r amlwg - yn eu plith gofal iechyd ac unigedd cymdeithasol.
"Mae yna enghreifftiau lle mae rhieni ag anableddau dysgu yn cael cefnogaeth dda ond yn anffodus mae nhw'n brin a dyw'r gefnogaeth ddim ar gael ymhob man, medd yr Athro Northway.
"Rhaid i gefnogaeth o'r fath gael ei theilwra ar gyfer pob teulu yn unigol gan ystyried nifer o ffactorau sy'n gallu cael effaith ar fod yn rhiant - yn eu plith tlodi, tai, mynediad i rwydweithiau cymdeithasol a gwybodaeth.
"Efallai bod yn rhaid cael cefnogaeth fwy cyson neu ar adegau penodol - er enghraifft pan mae plentyn yn cychwyn ysgol."
Nifer uchel mewn gofal
Ar hyn o bryd Cymru sydd â'r nifer fwyaf o blant yn y DU sy'n cael gofal i ffwrdd o'r cartref, sef 7,170 - 1.14% o blant, sy'n gynnydd cyson ers 2003.
Dywed Llywodraeth Cymru bod gostwng nifer y plant mewn gofal yn flaenoriaeth ond dyw niferoedd y rhieni sydd ag anableddau dysgu ddim yn cael eu cofnodi gan adrannau cymdeithasol ar draws Cymru nac yn ganolog.
"Mae gan Gymru nifer uchel iawn o blant mewn gofal ac ry'n yn credu y gallwn ostwng y ffigyrau yna petai ni'n gallu darparu y gefnogaeth angenrheidiol i rieni sydd ag anableddau dysgu."
'Cael fy marnu o beidio bod yn abl'
Dywed un rhiant, nad yw am gael ei henwi: "Fe gafodd fy mhlentyn ei gymryd oddi arnaf yn yr ysbyty ac rwyf ond yn gallu ei weld pan mae rhywun arall yn fy arolygu.
"Dwi erioed wedi cael unrhyw gyfle neu hyfforddiant i gadw fy mhlentyn. Yn syml roeddwn i'n cael fy marnu o beidio bod yn abl.
"Mae fy nghyn-bartner yn dreisgar ac wedi bod yn y carchar - ac eto mae e'n cael yr hawl i gael cysylltiad â'n plentyn bedwar diwrnod yr wythnos - o ddydd Llun tan ddydd Iau.
"Rwy'n teimlo'n ddiymadferth gan fod hyn mor annheg - ond dwi'm yn gallu 'neud dim byd. Does neb yn gwrando arna'i."
Dywedodd un arall: "Mi ges i asesiad bump awr mewn ystafell yn y llyfrgell.
"Roedd hi'n anodd diddori fy mhlentyn mewn lle dieithr o dan arolygiaeth gyson. Fe gafodd hi ddigon.
"Fe wnaeth y cyfan wneud fi'n nerfus iawn gan bo fi gymaint o ofn gwneud dim o'i le - fe fyddwn yna yn cael fy meirniadu, er nad oedd y sefyllfa yn un naturiol."
Beth all gweithwyr cymdeithasol ei wneud?
Mae agweddau cymdeithas fel petaent yn awgrymu bod anabledd dysgu yn rhwystr i fagu teulu, medd Ms Williams.
"Yn rhy aml, mae rhieni sydd ag anabledd dysgu yn wynebu methiant. Yn gyffredinol mae cymdeithas ag agweddau negyddol tuag atynt ac yn anffodus pobl broffesiynol hefyd.
"Yn rhy aml mae rhywun yn cymryd yn ganiataol nad yw person sydd ag anabledd dysgu yn gallu edrych ar ôl plentyn mewn modd diogel - ond does dim tystiolaeth fod unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng bod yn rhiant gwael ac IQ."
Mae angen cyfathrebu'n well gyda rhieni, meddai, a sicrhau bod gwybodaeth sy'n gallu bod yn gymhleth yn cael eu drosglwyddo'n iawn.
"Yn aml dyw cefnogaeth ddim yn cael ei deilwra i anghenion unigolion a does dim ystyriaeth i'r ffaith bod eu hanabledd yn golygu y gall hi gymryd mwy o amser iddynt ddysgu pethau newydd neu gofio'r wybodaeth. 26 wythnos o gymorth sydd yna ac yn aml mae'r cyfnod yn llai na hynny."
'Cadw teuluoedd gyda'i gilydd'
Fe gafodd y canllawiau i weithwyr cymdeithasol yn Lloegr eu cyhoeddi yn 2007 a'u diweddaru yn 2016. Yn yr Alban fe'u cyhoeddwyd yn 2009 a'u diweddaru yn 2015.
Hyd yma does dim canllawiau wedi'u cyhoeddi yng Nghymru.
Wrth groesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau, dywedodd Ms Williams bod gobaith i rieni os yw'r gefnogaeth briodol ar gael.
"Mae cadw teuluoedd gyda'i gilydd, pan fo hynny'n bosib, yn hynod o bwysig ac mae ymchwil yn dangos bod symud plant yn cael effaith negyddol ar blant a'u rheini," meddai.
Dywedodd yr Athro Northway y dylai'r canllawiau helpu gweithwyr proffesiynol i ganfod pa deuluoedd ag anableddau dysgu sydd angen cefnogaeth.
Ychwanegodd y gallai "cefnogaeth effeithiol mewn da bryd" helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gweithwyr cymdeithasol ynghyd â'r holl sector gofal wedi darparu gwasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig.
"Er gwaethaf y pwysau mae awdurdodau lleol wedi parhau i gynnal gwasanaethau o'r radd flaenaf i blant bregus a'u teuluoedd.
"Rydym wedi comisiynu Prifysgol De Cymru i ddatblygu canllaw cenedlaethol newydd a fydd yn rhoi arweiniad ar sut y gall gweithwyr cymdeithasol gefnogi rhieni sydd ag anableddau dysgu yn well. Gobeithiwn gyhoeddi'r canllawiau yn yr hydref."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2021