Carcharu dyn am 18 mlynedd am lofruddiaeth yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Bary BagnallFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bagnall ei ddisgrifio fel 'unigolyn peryglus' gan y barnwr

Mae dyn 42 oed o Wrecsam wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar, wedi iddo ei gael yn euog o lofruddio ei ffrind gyda morthwyl.

Roedd Barry Bagnall wedi ei gyhuddo o lofruddio Terence Edwards, oedd yn 60 oed, yn ei gartref ar stad Parc Caia.

Daethpwyd o hyd i Mr Edwards yn farw mewn gwely yn yr eiddo ar stryd Pont Wen ar 1 Mehefin 2020.

Roedd Bagnall hefyd wedi ei gael yn euog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn ystod yr achos yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug fe awgrymodd patholegydd y Swyddfa Gartref bod rhywbeth tebyg i forthwyl wedi ei ddefnyddio i daro Mr Edwards ar ei ben ddwywaith.

Ar y pryd roedd Mr Edwards, oedd yn fregus ac ond yn pwyso saith stôn a hanner, wedi bod yn ceisio dod oddi ar gyffuriau.

Ffynhonnell y llun, Crimestoppers
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Mr Edwards ei ddarganfod yn ei gartref ym mis Mehefin y llynedd

Cafodd olion DNA Bagnall eu darganfod ar wely Mr Edwards, ac ar ganiau o alcohol o fewn ei gartref.

Clywodd y llys hefyd bod Bagnall yn gwadu cyfaddef llofruddio Mr Edwards wrth siarad gyda charcharor yng Ngharchar Y Berwyn tra roedd yn y ddalfa cyn i'r achos ddod i'r llys.

Cafodd Bagnall, oedd yn gaeth i gyffuriau, ei ddisgrifio gan y barnwr Rhys Rowlands fel unigolyn "peryglus oedd heb ddangos unrhyw edifeirwch am yr hyn gafodd ei wneud i Mr Edwards".

Ychwanegodd y barnwr y byddai'n rhaid i Bagnall dreulio o leiaf 18 mlynedd dan glo cyn y byddai modd ystyried unrhyw gais am barôl.

Pynciau cysylltiedig