Diddymu euogfarn cyn-bostfeistr: 'Wnes i ddim o'i le'
- Cyhoeddwyd
Mae euogfarn yn erbyn cyn-is-bostfeistr o Gymru a oedd yn rhan o sgandal rhaglen gyfrifiadurol Horizon wedi ei ddiddymu mewn llys.
Cafodd Tim Brentnall, o bentref Y Garn yn Sir Benfro, ei erlyn yn 2010 ar ôl i system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post ddangos bod £22,000 ar goll o'r siop.
Mae Mr Brentnall yn un o dros 700 o gyn-weithwyr Swyddfa'r Post a gafodd eu herlyn ar gam oherwydd system gyfrifiadurol Horizon.
Mae Mr Brentnall yn un o'r grŵp diweddaraf i gael eu clirio yn y Llys Apêl, gan ddilyn sawl un arall o Gymru.
Dywedodd ei fod wedi cymryd 16 o flynyddoedd i glirio ei enw.
Gobaith Mr Brentnall oedd gallu aros i fyw yn ei ardal leol pan brynodd y swyddfa gyda'i rieni. Ond yn 2009 fe wnaeth archwilwyr honni bod arian ar goll.
"Fe ges i fy ngwahardd yn syth ac o fewn cwpl o ddyddie o'n i lawr yng ngorsaf heddlu Hwlffordd i gael fy holi", meddai.
"Roedd e'n ofnadwy. O'n i'n teimlo fy mod i ben fy hun yn llwyr."
Cafodd ei erlyn yn fuan wedyn, ac fel sawl un arall, cafodd ei gynghori i bledio'n euog.
Cafodd ddedfryd 18 mis a gorchymyn i wneud 200 awr o waith yn y gymuned.
Dywedodd Mr Brentnall ei fod yn amhosib cael gwaith wedyn, a bod pobl yn ei feirniadu.
"Do'n i ddim ishe mynd i'r dafarn gan fod pobl yn siarad amdanai, yn dweud 'Mae o'n dweud bod o heb wneud dim, ond wnaeth o bledio'n euog, mae rhywbeth yn mynd ymlaen'."
Ychwanegodd: "Fe wnes i golli cwsg am nifer o flynyddoedd, colli ffrindiau, ac oll gan fod pobl ddim yn fy nghredu."
Problemau gyda'r system oedd yn gyfrifol am yr arian oedd i fod ar goll, a rhwng 2000 a 2014 fe gafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn.
Mae Mr Brentnall ymysg y grŵp diweddaraf o 31 i wrthdroi euogfarnau yn y llys ddydd Llun.
Mae llawer yn dal i glywed a fyddan nhw'n derbyn iawndal am yr hyn ddigwyddodd.
I Tim Brentnall, dywedodd y gallai deimlo'n falch o'i hun unwaith eto, a dweud "dydw i ddim wedi gwneud unrhyw beth o'i le".
Ychwanegodd: "Mae 'na bobl oedd yn gwybod beth oedd yn digwydd ond sydd wedi ceisio cuddio hynny.
"Dydw i ddim am orffwys nes eu bod nhw wedi eu dal i gyfri'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021