Alun Wyn Jones yn ôl i'r Llewod tair wythnos wedi anaf

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn Jones wedi anafuFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd capten rygbi Cymru, Alun Wyn Jones, yn arwain y Llewod yn y gêm brawf gyntaf yn erbyn De Affrica, lai na mis ers cael anaf difrifol.

Datgymalodd ei ysgwydd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Japan ar 26 Mehefin, cyn dechrau'r daith, ond mae wedi synnu nifer gyda'i adferiad cyflym.

Mae dau Gymro arall - y maswr Dan Biggar a'r prop Wyn Jones - yn y tîm fydd yn dechrau'r gêm, ac mae dau arall ar y fainc, yr asgellwr Liam Williams a'r bachwr Ken Owens.

Er syndod, ac yntau wedi sgorio wyth cais ar y daith hyd yma, nid oedd lle i asgellwr Cymru, Josh Adams.

Ar ôl gwella mor gyflym o'i anaf, Alun Wyn Jones fydd y chwaraewr cyntaf yn y cyfnod proffesiynol i ennill 10 cap yn olynol i'r Llewod.

Mae'r tîm felly'n cynnwys wyth o Saeson, a thri yr un o Gymru, Iwerddon a'r Alban.

Dewis anodd i'r hyfforddwr

Roedd dewis y 15 i ddechrau'r gêm "yn anhygoel o anodd" yn ôl prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland.

"Yn fy mhedair taith fel hyfforddwr Y Llewod hwn oedd y dewis anoddaf o ddigon," meddai.

"Ni allwn fod wedi gofyn am fwy gan y chwaraewyr hyd yma; maen nhw i gyd wedi rhoi eu dwylo i fyny a gwneud dewis y tîm i ddechrau'r gêm mor anhygoel o anodd.

"Byddwn wedi bod yn hapus gyda nifer o wahanol gyfuniadau yn y 23. Ond rydym yn falch iawn o'r tîm yr ydym wedi ei ddewis."

Y tîm yn llawn: 15. Stuart Hogg; 14. Anthony Watson; 13. Elliot Daly; 12. Robbie Henshaw 11. Duhan van der Merwe; 10. Dan Biggar; 9. Ali Price; 1. Wyn Jones; 2. Luke Cowan-Dickie; 3. Tadhg Furlong; 4. Maro Itoje; 5. Alun Wyn Jones (Capt.); 6. Courtney Lawes; 7. Tom Curry; 8. Jack Conan.

Eilyddion: Ken Owens; Rory Sutherland; Kyle Sinckler; Tadhg Beirne; Hamish Watson; Conor Murray; Owen Farrell; Liam Williams