Llion Williams: Lloches ar ynysoedd yr Alban
- Cyhoeddwyd
Wedi cyfnod anodd i'r diwydiant theatr a ffilm mae'r actor Llion Williams yn esbonio pam iddo hel ei bac dros wal Hadrian i fyw ar Ynysoedd Heledd am gyfnod, a pham nad oes ffoi rhag problemau'r farchnad dai a'r pryder am ddyfodol iaith a diwylliant ar ynysoedd yr Alban chwaith.
'Bydd glaswellt ar fy llwybrau i gyd... cyn delwyf i Gymru nôl.'
Greddf cynhenid dyn ydi ceisio lloches mewn storm; ac yn ôl yr hanes nid y fi oedd y cyntaf (na'r olaf chwaith mae'n siŵr), i anelu am Yr Ynys Hir (Ynys Skye) i geisio lloches o'r fath.
Yma y dihangodd y tywysog bonheddig Siarl (Bonnie Prince Charlie) amser maith yn ôl. Wedi ei wisgo fel morwyn, llwyddodd i ddianc o grafangau y gelyn i'r ynys niwlog (Eilean a Cheo - The Misty Isle) a chadw ysbryd gwrthryfelgar y Gael yn fyw hyd heddiw.
Llurguniwyd ei gân o falchder cenedlaethol yn Oes Fictoria, pan ddisodlwyd y geiriau gwreiddiol gyda geiriau rhamantus, sentimental a adwaenir bellach fel y ffefryn Over The Sea To Skye. Ond mae'r cof am Siarl yn fyw yma. Mae pob penrhyn a bae ar yr ynys yn honni mai yn eu hogof hwy y bu Bonnie Prince Charlie yn 'mochal!
Byth ers dyddiau'r Prins, mae'r ynyswyr yn cyfarch ymwelwyr gyda dau gwestiwn penodol: "be' ddaw â chi yma?" ac yn amlach, "be' ydach chi'n ffoi oddi wrtho?"
Colli gwaith
Yn fy achos i, fel yn achos y 'Bonnie Prince', roedd digon i gilio oddi wrtho; ond yn gefnlen i'r cwbl, roedd cyfnod tywyll y Cofid a'i effaith enbyd ar fyd y celfyddydau y treuliais fy oes waith yn rhan ohono: 80,000 yw'r amcangyfrif bellach, o hunan-liwtwyr yn sector y celfyddydau ym Mhrydain, sydd wedi colli eu gwaith fel canlyniad i'r Clo Mawr.
Dyma achub ar y cyfle felly i geisio am swydd gyda Skye Bridge Studios, a gynigiai waith yn yr awyr agored yma ar yr Ynys Hir.
Mynd ati wedyn i weithio ar sgript oedd yn cyfuno'r hen chwedlau Celtaidd a stori hen Gymro o Gonwy o'r enw Morgan McKinnon, ddaeth yma yn ŵr ifanc, dros 40 mlynedd yn ôl, i chwilio am ei wreiddiau; ac a arhosodd yma, gan weithio ar y cychod fyth ers hynny.
(Cyn i chi ddweud bod yr enw Morgan McKinnon yn un rhyfeddol i Gymro, mi nodaf fy mod wedi byw drws nesa i fferm y McKinnons ym Mhontrug, Caernarfon, a hwythau yn Gymry glân gloyw ers cenedlaethau!)
Rhybuddion i Gymru
Buan y deuais i sylweddoli, wedi setlo yma, fod yma adleisiau a rhybuddion clir i Gymru; ac ambell beth y mae'n amhosib ffoi oddi wrthynt.
Bûm yn siarad â physgotwr ifanc ar benrhyn hyfryd Sleat y dydd o'r blaen ac roedd ei gŵyn yn un cyfarwydd: doedd dim gobaith mul mewn Grand National ganddo i brynu bwthyn yn ei filltir sgwâr, gan fod cyfoeth De Lloegr yn ei brisio o'r farchnad.
Mi ydach chi'n fwy tebyg o weld Bentleys a Mercs na chychod bach pysgota ym mhentre bach glan y môr Am Ploc (Plockton) ar y tir mawr cyfagos bellach.
Yma ym mhentre Caol Acain (Kyleakin) yn ne'r ynys, cyfarfum â hen ŵr a gredai mai ef oedd yr olaf o drigolion y pentre i fedru'r Gaeleg yn rhugl. Daeth Cwm-yr-Eglwys yn Sir Benfro i'r meddwl, ac aeth ias i lawr fy nghefn.
O holl Ynysoedd Heledd (Hebrides), ymddengys bellach mai dim ond ar ynysoedd pellennig Lewis, Harris a Barra y clywir y Gaeleg fel iaith y stryd.
Ydi, mae'n ymdebygu i Abersoch yma, o dan gysgod pont enwog Skye; ond o leia' dwi heb weld yr un jetski felltith eto! Efallai bod Nicola wedi eu halltudio dros nos! Ia, Ms Sturgeon sy'n teyrnasu yma, yn bendant, a Llundain a Westminster yn teimlo cyn belled â Timbuktu! Ond yr un yw'r problemau, serch hynny.
Wrth geisio ysbrydoliaeth i'r ysgrif fach hon, 'rwy'n sefyll heno ar gopa Ben Na Caillich (Mynydd yr Hen Wraig), lle claddwyd corff Mairi, merch y Brenin Haken o Norwy; gyda'i phen yn gwyro tua'r gogledd, fel bod awelon Sgandinafia yn chwythu drosti. Mae'n rhaid fod tywysogesau hardd, fel hen actorion blinedig, yn cael pwl o hiraeth am y famwlad o dro i dro!
Gyda llaw, mae hi'n symol am farbwrs ar yr Ynys Hir. Mae hynny o wallt sydd gen i ar ôl yn tyfu'n wyllt! Rhois gynnig ar dorri fy ngwallt fy hun; fasa waeth i mi fod wedi ei dorri â chyllall a fforc!
Dydi hyd yn oed barbwrs Twrci heb fentro cyn belled. Allai'm eu beio. Bu bron i mi a rhoi y ffidil yn y to ar daith o 12 awr a mwy i geisio cyrraedd yma; ond bois bach, am olygfeydd cwbl odidog i gadw dyn ar ei drywydd!
'A thra bo ngwallt yn tyfu', siawns bod hi'n hen bryd i'r awelon fy hebrwng innau adra lawr y culfor. Gwylia drobyllau Corryvreckan a Chraig y Foneddiges. Heibio'r Mull o' Kintyre a draw am Ynys Manaw. Cymru ar y gorwel fydd hi o fan honno 'mlaen!
'Cyn delwyf i Gymru nôl fy ffrind,
Cyn delwyf i Gymru nôl.
Bydd fy mwng hyd at fy ffera'n wir!
Cyn delwyf i Gymru nôl!'
Hefyd o ddiddordeb: