Galw am ddymchwel tai ar 'stryd mwyaf llygredig' Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a fu'n byw ar y stryd lle mae'r llygredd aer gwaethaf drwy Gymru, wedi galw ar y cyngor lleol i ddymchwel y tai ar unwaith.
Roedd Martin Brown yn byw ar y stryd am 50 mlynedd, ac mae'n dweud iddo fod yn ei ddagrau wrth weld fideos diweddar o bobl yn mynd o gwmpas ei hen gartref, ar ffordd yr A472, Hafodyrynys, rhwng Pontypŵl a Chrymlyn.
Dywedodd bod eraill yn cymryd cyffuriau yn y tai ac yn ysbeilio'r adeiladau (looting).
Mae'r tai wedi bod yn wag ers blwyddyn, ac roedd y gwaith o'u dymchwel i fod i gychwyn tua chanol Gorffennaf, ond hyd yma nid oes contractwr wedi'i benodi.
Covid wedi cael effaith
Dywed Cyngor Sir Caerffili bod y pandemig, "yn anorfod, wedi cael effaith ar y cynllun".
Yn ôl llefarydd roedd y cyngor yn cadw golwg wythnosol ar y mater, ac y dylai'r gwaith gychwyn yn yr hydref.
Cytunodd y cyngor i brynu'r tai yn 2019, pan gofnodwyd y lefelau uchaf o nitrogen deuocsid mewn unrhyw le yn y DU ar wahân i ganol Llundain.
Gadawodd Martin Brown ei gartref yn Ionawr 2020, a gadawodd y trigolion olaf yr haf diwethaf.
"Mae'n dorcalonnus," meddai Mr Brown.
"Rwyf wedi gweld llefydd tu mewn i'r tai, ac maen nhw wedi cael eu rhwygo'n ddarnau.
"Mae rhai wedi bod yn dringo ar ben y toeau ac yn rhwygo'r plwm i ffwrdd.
"Mae pobl wedi bod yn cysgu yn rhai o'r tai, mae cyffuriau'n rhemp yno, ac mae 'na lygod mawr ymhobman."
Mae'r tai hefyd wedi dod i sylw rhai pobl sy'n ffilmio eu hunain yn edrych o gwmpas hen adeiladau a adawyd yn wag.
Mae Martin Brown wedi gweld nifer o bobl yn ei hen dŷ dros y misoedd diwethaf.
"Mae e'n peri gofid i fi weld pobl yn fy nhŷ fi, fel yr wyf yn dal i'w alw - pobl yn mynd yno heb ganiatâd, yn mynd i mewn a ffilmio fideos.
"Maen nhw wedi gwneud hyn i lawr y stryd i gyd, a dyw e ddim yn iawn."
Mae ffensys wedi cael eu codi i geisio atal pobl rhag mynd i mewn i'r eiddo, ac mae arwyddion yn rhybuddio bod camerâu cylch cyfyng yno.
Mae lluniau fideo a dynnwyd gan rai yn ddiweddar yn awgrymu nad yw'r tai yn ddiogel, gyda lloriau a nenfydau wedi diflannu a hen geblau trydan yn hongian i lawr.
Mae Martin Brown nawr yn disgrifio'r tai fel "slyms".
"Dwi'n gofyn am ddymchwel y tai hyn. Rydym wedi cael gwybod gan ein cynghorydd lleol bod Covid wedi bwrw'r cynlluniau i ddymchwel y tai yn ôl, ac nid oes contractwr wedi ei benodi i'w tynnu nhw i lawr. Maen nhw'n slyms - plîs tynnwch nhw i lawr."
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn cwblhau'r broses tendro ar gyfer dymchwel yr eiddo, ac mae'n debygol o fod angen cais cynllunio pellach ar gyfer gwaith peirianyddol yn dilyn ymchwiliad geotechnegol sy'n cael ei wneud.
"Mae hwn yn brosiect sylweddol a chymhleth sy'n cynnwys mwy na dim ond dymchwel yr eiddo. Rydym yn dilyn y broses angenrheidiol sy'n cynnwys y broses caffael a thendro er mwyn sicrhau contracwr i ymgymryd â'r gwaith mor fuan â phosib.
"Rydym yn rhagweld y bydd y cynllun yn dechrau yn yr hydref.
"Mae'r cyngor wedi cyflogi cwmni i warchod yr eiddo a gwneud archwiliadau wythnosol o'r safle, ond rydym yn cydnabod bod digwyddiadau'n parhau yno ac rydym yn gweithio'n galed i'w rhwystro.
"Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i wella diogelwch a bydd mwy o batrolau diogelwch cymunedol yn yr ardal."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd22 Awst 2017