Theatr Ardudwy: Addewid i ailagor a gwario £500k yn 'gelwydd'

  • Cyhoeddwyd
Theatr ArdudwyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theatr Ardudwy yn Harlech wedi bod ar gau ers 2017

Mae cynhyrchydd theatr ifanc oedd yn addo gwario £500,000 ar ailagor theatr yn y gogledd orllewin wedi ei alw yn "dwyllodrus" ac yn "siarlatan".

Roedd Kallum O'Sullivan, 22, wedi addo ailagor drysau Theatr Ardudwy yn Harlech a sicrhau y byddai'r theatr yn un "broffesiynol, nid cymunedol" dan ei arweiniad.

Ond mae ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C wedi canfod nad yw nifer o honiadau cyhoeddus Mr O'Sullivan yn wir.

Ar wefan Theatr Ardudwy, lle roedd rhif ffôn symudol Mr O'Sullivan yn ymddangos, roedd honiad bod £500,000 am gael ei wario ar adnewyddu'r theatr - sydd ar gau ers 2017 - gyda thalp o'r arian yn dod gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Loteri Genedlaethol.

Cadarnhaodd y ddau gorff yma wrth Newyddion S4C nad oedden nhw wedi rhoi grant i gwmni Mr O'Sullivan - KMD Productions Ltd - nac ychwaith wedi rhoi unrhyw arian i Theatr Ardudwy yn ddiweddar.

Er hyn, roedd KMD Productions Ltd wedi hysbysebu nifer o gynyrchiadau yn Harlech.

Ar eu cyfrif Instagram, roedden nhw hefyd wedi hysbysebu perfformiadau mewn theatrau ar draws Cymru a Lloegr.

Roedd hefyd cynhyrchiad o 'The Snow Queen' yn cael ei hysbysebu yn Theatr Pafiliwn Dulyn.

Yn ôl un o gyfarwyddwyr y theatr honno, Hugh Murray, "does dim syniad gyda ni pwy yw'r cwmni".

'Un o ddihirod mwyaf ei genhedlaeth'

Yn dechrau ar ei daith fel actor, fe wnaeth Aaron Barker o Lerpwl, sydd yn 24 oed, ymateb i hysbyseb ar wefan Facebook i chwarae rhan Buttons mewn cynhyrchiad o Cinderella gan KMD Productions Ltd i'w berfformio yn Warwick Arts Centre, Coventry.

Ond yn fuan iawn, roedd ganddo gwestiynau am y cwmni a Mr O'Sullivan.

"Roedd e'n addo'r byd i gymaint o bobl. Roedd e'n addo byddai selebs yn rhan o'r cynhyrchiad, ond do'n nhw ddim yn bresennol ar y galwadau fideo," meddai Mr Barker.

"Wrth edrych ar wefan Warwick Arts Centre, roedd hi'n amlwg nad oedd y sioe am gael ei chynnal yno.

"Dyw'r holl sioeau eraill ddywedodd e wrtha'i oedd am ddigwydd mewn lleoliadau eraill ddim am ddigwydd chwaith.

"Dwi'n credu ei bod hi'n saff i fi ddweud o fy mhrofiad i gyda Mr O'Sullivan ei fod yn dwyllodrus, yn siarlatan ac yn un o ddihirod mwyaf ei genhedlaeth o ran y theatr.

"Roedd cymaint o addewidion a geiriau gwag ac ni wnaeth e ddelifro."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kallum O'Sullivan wrth BBC Cymru ym mis Mehefin ei fod yn gobeithio ailagor Theatr Ardudwy ym mis Awst

Fe wnaeth Theatr Fach y Rhyl gadarnhau wrth Newyddion S4C eu bod wedi trafod dod â phantomeim gan KMD Productions Ltd i'w safle y Nadolig yma.

Er iddyn nhw gwrdd â Mr O'Sullivan sawl gwaith dros y we, fe stopiodd dderbyn eu galwadau ac ni chafodd contract ei arwyddo.

Fisoedd yn ddiweddarach, cafon nhw wybod bod Mr O'Sullivan yn dal i hysbysebu'r perfformiadau.

Yn ôl cyfarwyddwraig a chyd-reolwraig y Theatr Fach, Arlena Thornton, roedd actorion hefyd yn cysylltu â nhw yn dweud bod ganddyn nhw gontractau i berfformio yno.

Mae'n dweud iddi gysylltu â Mr O'Sullivan gan ofyn iddo fe ddileu hysbysebion am gynyrchiadau oedd dal i fodoli ar Instagram a Facebook.

Dywedodd Arlena Thompson: "Petaen ni heb ymateb yn gyflym a sicrhau cynhyrchydd arall, byddai wedi'n taro ni'n galed. Os nad yw panto Nadolig yn digwydd, yn enwedig i theatr gymunedol, all hynny fod yn ergyd ariannol enfawr."

'Triniaeth canser'

Mae tudalen ar wefan GoFundMe yn casglu arian ar gyfer Mr O'Sullivan, gan nodi bod ganddo ganser yr anws a'i fod ar restr aros chwe mis o hyd am driniaeth.

Mae £171 o darged o £10,000 wedi ei godi.

Yn y cyfamser, roedd tocynnau ar gyfer cynyrchiadau KMD Productions Ltd yn cael eu gwerthu drwy wefan Eventbrite.

Dywedodd llefarydd Eventbrite wrth BBC Cymru: "Ddaethon ni'n ymwybodol o gwestiynau am y trefnydd hwn yr wythnos ddiwethaf ac fe ddechreuwyd yn syth ar adolygiad i ddyfarnu dilysrwydd y digwyddiadau.

"Yn y cyfamser, rydyn ni wedi cloi'r cyfrif ac wedi dad-gyhoeddi yr holl ddigwyddiadau cysylltiedig o'n platfform i rwystro gwerthiant tocynnau pellach.

"Mae ein proses adolygu bron â dod i ben ac os ydyn ni'n cadarnhau bod y digwyddiadau yn annilys, bydd ad-daliad i unrhyw un archebodd docynnau drwy Eventbritte yn uniongyrchol."

'Celwydd llwyr'

Ar wefan Facebook wythnos yma, dywedodd dyn o'r enw Tony Stringfellow bod Theatr Ardudwy bellach wedi torri cysylltiad â Mr O'Sullivan.

Dywedodd nad oes unrhyw sioeau wedi eu trefnu ar hyn o bryd ond bod gwaith dechreuol wedi cychwyn er mwyn gallu ail-ddefnyddio'r adeiladau yn y dyfodol.

Pan gysylltodd BBC Cymru â Mr Stringfellow, nid oedd am ddweud rhagor.

Disgrifiad o’r llun,

Gwynfor Owen: 'Dwi'n flin iawn hefo Kallum am be' mae o wedi ei wneud i'r gymuned leol'

Wrth gyfeirio at Mr O'Sullivan, dywedodd y cynghorydd sir lleol, Gwynfor Owen: "Mae'n siom bod rhywun wedi ceisio camarwain y gymuned leol.

"A dwi'n teimlo bechod dros y rhai oedd o wedi ceisio eu camarwain ac yn flin iawn hefo Kallum am be' mae o wedi ei wneud i'r gymuned leol - wedi codi gobeithion y byddai gwaith yn digwydd yn y theatr ac y byddai pethau yn digwydd yn fuan.

"Ond mae o wedi troi allan i fod yn gelwydd llwyr."

Pan ofynnwyd i Kallum O'Sullivan - sydd hefyd yn defnyddio'r enw Kallum Douglas - i ymateb i'r honiadau, dywedodd y byddai ei gyfreithiwr yn ymateb.

Pynciau cysylltiedig