Llyfr y Flwyddyn: Enillwyr categorïau plant a ffeithiol

  • Cyhoeddwyd
Enillwyr CategoriFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Cofiant i O M Edwards sydd wedi ennill categori ffeithiol Llyfr y Flwyddyn 2021 a stori am golli'r bws ysgol sydd ar frig y categori plant a phobl ifanc.

Bydd yr awduron - Hazel Walford Davies a Rebecca Roberts - yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a'i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Gwaith Hazel Walford Davies yw'r cofiant llawn cyntaf i O M Edwards (Gwasg Gomer) a rhoir sylw manwl yn y gyfrol i'w yrfa ddisglair a'i "fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru".

Yn y gyfrol hefyd mae sylw i fywyd preifat O.M. a cheir tipyn o sylw i'w obsesiynau a'r ergydion a brofodd fel gŵr a thad. Fe'i cyhoeddwyd ar ganmlwyddiant marwolaeth Syr O M Edwards yn 2020.

Ffynhonnell y llun, keith morris
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith Hazel Walford Davies yw'r cofiant llawn cyntaf i O M Edwards

Cafodd Hazel Walford Davies ei magu yng Nghwm Gwendraeth ac addysgwyd hi ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.  Bu'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro ym Mhrifysgol De Cymru, a threuliodd gyfnodau fel Athro Ymweliadol mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau. 

Mae hi wedi bod yn aelod o sawl sefydliad - yn eu plith Cyngor Celfyddydau Cymru, bwrdd yr Academi Gymreig, bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru a bwrdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.  Mae hi hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae'r cofiant a #helynt (Gwasg Carreg Gwalch) - enillydd y categori i blant a phobl ifanc yn gymwys am Wobr Barn y Bobl Golwg360 a Phrif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru nos Fercher.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

#helynt yw ail nofel Rebecca Roberts o Brestatyn

Nofel am sut y gall colli bws i'r ysgol newid bywyd rywun yw #helynt. Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre'r Rhyl yn hytrach na mynd adref gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr. Yno, mae hi'n cyfarfod â Shane, dyn golygus, llawn dirgelwch sy'n gwybod rhywbeth am ei gorffennol… cyfrinach allai chwalu ei theulu.

Cafodd yr awdur Rebecca Roberts  ei magu ym Mhrestatyn ac mae'n parhau i fyw yn y dref.

Mae hi wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, cyfieithydd a gweinydd digrefydd. Hi oedd enillydd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2017 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Mudferwi  oedd ei nofel gyntaf, ac mae ei hail nofel, #helynt yn rhan o gyfres i bobl ifanc. Dywed bod ysgrifennu "yn cymryd dipyn go lew o'i hamser", ond ei bod hi hefyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth roc, darllen a mynd i gerdded.

Mae'r gwobrau yn cael eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu'r llyfrau Cymraeg eleni roedd y bardd a'r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn-Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a'r darlithydd Tomos Owen; a'r comedïwr a'r awdur, Esyllt Sears.

'Ymfalchïo yng nghampau aruthrol awduron'

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Anni Llŷn: "Roedd hi wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron.

"Mae gan pob un o rhain rhywbeth o werth i'w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i'w darllen. Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o'r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin.

"Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu. Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020. Ond dylem i gyd ymfalchïo yng nghampau aruthrol yr awduron hyn."

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd enillwyr gwobrau Barn y Bobl a Llyfr y Flwyddyn 2021 yn cael eu cyhoeddi nos Fercher

Roedd y categori Plant a Phobl Ifanc yn newydd y llynedd a'r nod yw annog cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac awduron creadigol ac "atgyfnerthu'r neges bod llenyddiaeth ar gyfer plant o'r un safon ag unrhyw lenyddiaeth ar gyfer oedolion".

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Dyma ddwy gyfrol haeddiannol iawn. Mae #helynt eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth wrth ennill Gwobr Tir na n-Og 2021 yn gynharach eleni, a dyma gadarnhad pellach o werth y nofel hon wrth iddi gipio'r categori Plant a Phobl Ifanc eleni.

"Dyma hefyd gydnabyddiaeth haeddiannol i gofiant arbennig O.M. - gŵr yr oedd y rhan helaeth ohonom yn adnabod ei enw, ond bellach, diolch i'r cofiant arbennig hwn, gŵr yr ydym yn gwybod cymaint yn fwy amdano."

Nos Lun cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Megan Angharad Hunter oedd enillydd y categori ffuglen eleni gyda'i nofel tu ôl i'r awyr ac mai Marged Tudur oedd yn cipio prif wobr y categori barddoniaeth am ei chyfrol Mynd.

Pynciau cysylltiedig