Dyn o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddio'i chwaer
- Cyhoeddwyd
![Matthew Selby yn cyrraedd y llys ddydd Mawrth](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10BB4/production/_119723586_selbycourt.jpg)
Matthew Selby yn cyrraedd y llys ddydd Mawrth
Mae dyn 19 oed wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ar gyhuddiad o lofruddio ei chwaer mewn carafán ger Abergele.
Mewn gwrandawiad a barodd ddau funud, cadarnhaodd y diffynnydd, Matt Selby o Ashton-under-Lyne, ei enw a'i gyfeiriad, a'i fod yn deall y cyhuddiad.
Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio ei chwaer 15 oed, Amanda Selby, mewn carafán ar faes carafanau Tŷ Mawr yn Nhowyn ger Abergele, ddydd Sadwrn.
Ar orchymyn y Barnwr Rhanbarth Gwyn Jones, cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug, ddydd Mercher, 4 Awst.
Nid wnaed cais am fechnïaeth.
![Yr heddlu tu allan i garafan ar y safle](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F35A/production/_119689226_f5445dea-465f-4f47-8df4-e0c473e74a9a.jpg)
Bu farw merch 15 oed yn dilyn digwyddiad ym mharc carafanau Ty Mawr, ger Abergele
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021
- Cyhoeddwyd1 Awst 2021