Corau heb ailddechrau: Peryglu 'traddodiad y Cymry'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Bydd hi'n drist iawn os gollwn ni rai o'r corau 'ma"

Mae gofid am ddyfodol canu corawl yng Nghymru yn dilyn y pandemig, gyda'r mwyafrif o'r corau eto i ailymgynnull.

Fe ddywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Ceredigion bod pryder am ddylanwad hynny ar gystadlu'r flwyddyn nesaf.

Mae'r cyfyngiadau presennol yn caniatáu i'r corau ailddechrau os ydynt yn gwisgo masgiau ac yn dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Goblygiadau hynny yw bod nifer wedi penderfynu oedi eu hymarferion am beth amser eto.

'Byddai hi'n drist iawn'

Pryder rhai yw y bydd corau'n diflannu wrth iddynt gael trafferth denu aelodau yn ôl i ymarfer.

"Yn sicr maen ofid, o ran beth yw dyfodol canu corawl yng Nghymru a sut bydd hyn yn dylanwadu ar yr Eisteddfod Genedlaethol yn benodol," meddai Delyth Hopkins Evans, cadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

"Dwi yn poeni am rai corau mwy gwledig, sy'n hŷn eu hoedran ac mi fydd 'na elfen o boeni dwi'n meddwl mewn rhai ardaloedd o ran beth sy'n mynd i ddigwydd i'r corau hynny.

"Byddai hi'n drist iawn colli rhai o'r corau hyn sydd wedi, yn draddodiadol, cefnogi'r agwedd gymdeithasol o ganu corawl yng Nghymru yn ogystal â'r elfen gystadleuol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Côr Soar wedi bod yn ymarfer mewn maes parcio yn Nhregaron

Mae oddeutu dwy filiwn o bobl yn canu'n rheolaidd mewn côr, gydag amcan bod 70,000 o gorau gwahanol yn bodoli ar draws y DU.

Pan darodd coronafeirws yn ôl ym Mawrth 2020, daeth ymarferion y corau i ben.

Blwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae'r mwyafrif eto i ailgydio ar eu cyrddau wythnosol.

Yng Nghymru, mae rheolau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i 30 o bobl ymarfer dan do gyda 50 yn cael cwrdd y tu allan.

'Traddodiad y Cymry'

Mae Côr Meibion Aberystwyth wedi bod yn cynnal ymarferion dros Zoom yn ystod y cyfnod, ac er ei fod yn gyswllt cymdeithasol gwerthfawr, ychydig o ymarfer canu sy'n gallu cael ei gynnal dros y cyfrwng.

Fe ddywedodd Alwyn Evans: "Mae rhai o fewn ein côr sy'n dipyn hŷn ac maen nhw'n dal i fod eisiau cadw draw ar hyn o bryd.

"Ond dwi'n credu bod hi'n amser. Mae'n rhaid i ni ddod 'nôl i ryw fath o drefn neu beth sy'n mynd i ddigwydd ydy bod y corau yma yn mynd i ddarfod a dyna draddodiad ni'r Cymry yn dod i ben."

Yn Nhregaron, mae merched Côr Soar yn benderfynol o fod yn barod ar gyfer yr Eisteddfod leol gan gynnal ymarferion ym maes parcio'r dref.

Yn griw bach ond selog, dywedodd cadeirydd y côr Bethan Evans: "Dwi'n credu bod patrwm bywyd ni wedi newid shwt gymaint â hwnnw fi'n credu yw'r hurdle mwyaf ni'n gweld ar hyn o bryd, yw dod 'nôl i'r arfer yna.

"Wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf, mae'r elfen yna o gystadlu yn denu mwy i'r ymarferion felly erbyn mis Medi gobeithio bydd patrwm mwy wythnosol yn gallu digwydd lle bydd pinacl i ni anelu ato fe."

Ychwanegodd Carys Mai, arweinydd dros dro Merched Soar ei bod "yn gobeithio bod traddodiad canu yng Nghymru ddigon cryf i oroesi unrhyw bandemig ac unrhyw gyfnod anodd, heriol".

Pynciau cysylltiedig