Logan Mwangi: Dyddiad ar gyfer achos llofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi, sydd hefyd yn cael ei admnbaod fel Logan Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Logan yn afon Ogwr ddydd Sadwrn

Mae dyn 39 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio ei lys-fab 5 oed, yn dilyn ymddangosiad gerbron Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener.

Mae John Cole o Sarn hefyd wedi'i gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd corff Logan Mwangi ei ddarganfod yn afon Ogwr, Penybont ar-Ogwr, ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl i Mr Cole ddychwelyd i Lys y Goron Casnewydd ar 12 Tachwedd, bledio i'r cyhuddiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Williamson a John Cole yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â llofruddiaeth Logan Mwangi

Ymddangosodd mam Logan, Angharad Williamson, 30, o flaen y llys trwy gyswllt fideo.

Mae Ms Williamson wedi'i chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron y llys ar 12 Tachwedd, er mwyn cofnodi ple.

Ymddangosodd trydydd diffynnydd, bachgen 13 oed, o flaen y llys, wedi ei gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Gorchmynwyd ei gadw yntau yn y ddalfa a bydd yn pledio i'r cyhuddiad ar 12 Tachwedd.

Mae disgwyl i'r achos llawn gael ei gynnal ar 31 Ionawr, 2022.