Bron i hanner graddau Safon Uwch yn A* neu A

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yr ymateb ym Mro Myrddin i ganlyniadau Safon Uwch

Mae bron i hanner graddau Safon Uwch yng Nghymru eleni yn A* neu A, medd ffigyrau swyddogol.

Roedd 48.3% o'r graddau, a oedd yn seiliedig ar asesiadau, yn A* neu A mewn amgylchiadau sydd wedi cael eu disgrifio gan ddosbarthwyr graddau fel rhai "hynod o heriol" oherwydd Covid-19.

Roedd yna gynnydd yn nifer y rhai a gafodd A* - eleni fe gafodd 21.3% o ymgeiswyr y radd o'i gymharu â 16.3% yn 2020.

Fe gafodd 99.1% raddau A* i E.

Fe gafodd canlyniadau swyddogol Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol eu cyhoeddi yn swyddogol ddydd Mawrth ond roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion a myfyrwyr wedi cael gwybod ym mis Mehefin beth fyddai eu graddau.

Safon Uwch: Graddau yng Nghymru. % canlyniadau fesul gradd.  .
  • Fe gafodd 48.3% y graddau uchaf, canran uwch na'r llynedd ac yn sylweddol uwch na'r 27% a gafodd raddau A* neu A yn 2019;

  • Fe gafodd 6.2% yn fwy o ferched raddau A na bechgyn. 0.9% oedd y gwahaniaeth yng ngraddau A* ac roedd y ganran a wnaeth basio yn debyg.

  • Roedd 37.1% o raddau lefel AS yn A yng Nghymru - llynedd 29.5% oedd y ganran.

  • Fe wnaeth 82.9% basio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion yn dathlu yn ysgol annibynnol Ysgol Ffynone House yn Abertawe

Roedd disgwyl i ganlyniadau ar draws Cymru fod yn uwch na'r rhai cyn y pandemig wrth i arholiadau gael eu canslo a'r graddau terfynol gael eu penderfynu ar sail asesiadau athrawon.

Roedd osgoi "anhrefn" canlyniadau'r llynedd yn flaenoriaeth eleni ar ôl i brotestiadau arwain at dro pedol gan wleidyddion a'u gorfodi i gefnu ar y defnydd o algorithm wnaeth israddio miloedd o raddau.

Fe ganmolodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ddisgyblion a myfyrwyr gan ddweud eu bod wedi gorfod aberthu llawer.

"Rwy'n gobeithio bod pawb a dderbyniodd eu graddau heddiw yn hynod o falch o'r hyn y maent wedi ei gyflawni," meddai.

Dywedodd Mr Miles bod y cynnydd yn nifer y graddau uchaf yn "ddarlun gymharol debyg" mewn gwahanol rannau o'r DU.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gweinidog addysg bod myfyrwyr o Gymru yn yr un sefyllfa â myfyrwyr o Loegr a rhannau eraill o'r DU

"Yn Lloegr a Chymru, er enghraifft, mae'r darlun yn gymharol debyg o ran lefel y cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn," meddai. "Rwy'n credu bod myfyrwyr o Gymru yn yr un sefyllfa â myfyrwyr o Loegr a rhannau eraill o'r DU.

"Bu newidiadau yn y ffordd o ddysgu ac asesu eleni a bydd rhai myfyrwyr yn gwneud yn well o dan amodau arholiad, tra bydd myfyrwyr eraill yn gwneud yn well o dan asesiadau eraill.

"Ond y cwestiwn yw: A oes gennym ni system y gallwn fod â hyder ynddi, a fydd yn adlewyrchu cyrhaeddiad dysgwyr unigol? Yr ateb i hynny yw oes."

Dywedodd prif weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, bod hon yn "flwyddyn academaidd na welwyd ei thebyg".

Dywedodd mai'r flaenoriaeth oedd "canfod y ffordd decaf mewn amgylchiadau eithriadol".

Dadansoddiad ein Gohebydd Addysg a Theulu, Bethan Lewis

Roedd diwrnod canlyniadau yng Ngholeg Gŵyr, ar adegau, yn teimlo fel y dyddiau cyn y pandemig.

Roedd grwpiau o bobl ifanc yn eu harddegau wedi casglu y tu allan yn yr haul, amlenni yn eu dwylo, nifer yn tynnu lluniau a thrafod cynlluniau.

Ond roedd mesurau Covid llym yn dal i fod mewn grym y tu mewn a llai o nerfau ymhlith y myfyrwyr Safon Uwch ac AS gan eu bod nhw wedi derbyn eu graddau dros ddeufis yn ôl.

Mae pawb o fewn y sector addysg yn pwysleisio'r llwyddiannau unigol hynny.

Ond bydd yn rhaid i weinidogion a chyrff cymwysterau edrych ar sgil effeithiau'r systemau dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda'r chwyddiant sylweddol mewn graddau.

Beth sy'n digwydd y flwyddyn nesaf os yw arholiadau'n cael eu hail gyflwyno?

Dywedodd y gweinidog addysg Jeremy Miles wrthai mai'r flaenoriaeth, fel eleni, fydd sicrhau nad yw pobl ifanc yn wynebu unrhyw anfantais.

Ond fel digwyddodd y llynedd, mae llawer o beryglon wrth geisio sicrhau cydbwysedd rhwng llwyddiant unigolion a chadw hygrededd y system.

Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Bro Myrddin yn derbyn eu canlyniadau fore Mawrth

Mae'r undebau addysg yn llongyfarch disgyblion a myfyrwyr a chanmol ymdrechion staff ysgol gyda'r drefn asesu.

Ar ran Undeb NAHT Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Laura Doel: "Mae arweinwyr ysgolion ac athrawon wedi dangos eu hymrwymiad i ddysgwyr ac, heb os, wedi arddangos proffesiynoldeb yn ystod eleni.

"Mae siarad am y cynnydd yn y graddau yn tanseilio gwaith caled dysgwyr ac ymroddiad athrawon.

"Mae eleni yn dangos bod modd asesu mewn ffyrdd gwahanol i'r drefn arholiadau draddodiadol ac wrth i'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru ddod i rym rydym yn galw am newid y drefn o asesu."

'Dim modd cymharu'

Ond dywedodd llefarydd ar ran Undeb yr ASL na ddylid cymharu canlyniadau gwahanol flynyddoedd oherwydd bod y drefn o asesu myfyrwyr eleni yn wahanol i arholiadau swyddogol a threfn y llynedd.

Ar ran Undeb yr NASUWT dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Dr Patrick Roach, bod penderfyniad y gweinidog addysg ar dynged arholiadau wedi bod yn hwyr, a bod hynny wedi cael cryn effaith ar lwyth gwaith athrawon.

O ran blwyddyn nesaf ychwanegodd: "Bydd angen meddwl am beth ddylid ei gynnwys mewn cyrsiau - mae athrawon a phobl ifanc angen trefn realistig ac un sy'n parhau i ymateb i effaith pandemig ar addysg myfyrwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen system arholiadau sy'n gwneud mwy i annog datblygiad a dysgu parhaus, medd Sally Holland

Dywedodd y Comisiynydd Plant, Sally Holland bod angen bod yn falch o'r hyn mae pobl ifanc wedi ei gyflawni eleni.

"Mae risg y bydd unrhyw ffocws negyddol ar 'chwyddiant' graddau yn gwrthod cydnabod y dysgu a'r profiad unigryw mae plant wedi cael eleni, a'r sgiliau ac agwedd anhygoel maen nhw wedi datblygu yn y cyfnod, tra hefyd yn anwybyddu yr anghydraddoldebau sydd wastad wedi bod yn rhan o'r system arholiadau.

"Dwi'n gobeithio byddwn ni'n gallu adeiladu ar bopeth rydyn ni wedi dysgu eleni i ddatblygu system arholiadau sy'n gwneud mwy i annog datblygiad a dysgu parhaus, ac un sy'n galluogi i bob person ifanc i symud ymlaen yn bositif gyda chyflawniadau maen nhw'n falch ohonynt."

Pynciau cysylltiedig