Beth ydy'r drefn canlyniadau arholiad eleni?

  • Cyhoeddwyd
Hand holding pencilFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pawb yn gobeithio am ddiwrnod canlyniadau cwbl wahanol eleni.

Y llynedd, bu'n rhaid i weinidogion wneud tro pedol dramatig ar ôl i raddau safon uwch gael eu hisraddio.

Eleni ni fydd algorithm yn cael ei ddefnyddio fel y llynedd i 'safoni' graddau.

Ac yn hollbwysig, mae'r mwyafrif helaeth o ddisgyblion Cymru eisoes yn gwybod eu canlyniadau.

Sut fydd y diwrnod yn wahanol?

Mae diwrnod canlyniadau Safon Uwch ar 10 Awst a TGAU ar 12 Awst. Mae hyn yn gynharach na'r arfer oherwydd amseru'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr.

Y bwriad yw sicrhau bod digon o amser i brosesu apeliadau. Fe gafodd arholiadau eu canslo eleni gydag ysgolion a cholegau yn penderfynu ar raddau ar sail cyfuniad o asesiadau yn y 'stafell ddosbarth a thystiolaeth arall o waith disgyblion.

A fyddwn ni'n gweld dagrau o hapusrwydd neu dristwch wrth i amlenni gael eu hagor?

Mae'n annhebygol. Fe gafodd disgyblion eu graddau dros dro gan eu hysgolion a'u colegau fis Mehefin, ac roedd modd apelio bryd hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Disgybl yn derbyn canlyniadau dros dro yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst

Ond dim ond ar ddiwrnod y canlyniadau y bydd y graddau'n swyddogol.

Mae rhai ysgolion a cholegau yn parhau i wahodd disgyblion mewn i dderbyn eu graddau'n ffurfiol ond bydd eraill yn anfon cadarnhad drwy e-bost.

Sut mae'r graddau wedi eu dyfarnu ar ôl canslo arholiadau?

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y llynedd y byddai arholiadau'r haf 2021 yn cael eu canslo oherwydd effaith parhaus y pandemig ar addysg.

Fe gafodd system arall o asesiadau ei chyflwyno ond bu'n rhaid rhoi'r gorau iddi pan gaeodd ysgolion eto fis Ionawr.

Yn hytrach, penderfynwyd bwrw 'mlaen gyda graddau oedd yn cael eu pennu gan ganolfannau, gydag athrawon a darlithwyr yn rhoi'r graddau.

Roedd nifer o ganolfannau wedi trefnu cyfres o asesiadau wedi'r Pasg ac roedd rhai disgyblion yn honni mai arholiadau oedd y rhain - mewn popeth ond enw.

Fe gafodd pryderon eu codi hefyd am y pwysau ar ddisgyblion a llwyth gwaith athrawon.

Oes 'na ddefnydd o algorithm eleni?

Nac oes. Fe gafodd algorithm ei ddefnyddio y llynedd er mwyn safoni graddau ac fe arweiniodd hyn at anfodlonrwydd mawr.

Ar ddiwrnod canlyniadau safon uwch 2020 fe ddaeth i'r amlwg bod degau o filoedd o ddisgyblion wedi cael graddau is na'r hyn oedd wedi ei asesu gan athrawon. Fe drodd yn ffrae wleidyddol fawr ledled y DU ac fe arweiniodd hyn at dro pedol cyn diwrnod canlyniadau TGAU.

Wedi hyn fe gafodd y disgyblion TGAU y graddau oedd wedi eu pennu gan eu hathrawon.

Eleni fe allai CBAC ofyn i ysgolion roi tystiolaeth am eu systemau graddio pe baent yn amrywio'n sylweddol i'r blynyddoedd blaenorol ond does gan y corff ddim hawl i newid y graddau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwrdd arholi CBAC wedi cefnogi cyhoeddiad Llywodraeth Cymru

Beth sy'n digwydd yn rhannau eraill o'r DU?

Rhywbeth tebyg ond mae 'na wahaniaethau. Am y tro cyntaf mae pob rhan o'r DU yn rhyddhau graddau swyddogol ar yr un diwrnod, maen nhw'n gynt yn Yr Alban fel arfer.

Mae pob gwlad yn cymryd agwedd debyg sy'n seiliedig ar raddau athrawon ond mae gwahaniaethau.

Yn Lloegr ni chafodd disgyblion raddau dros dro - maen nhw'n cael graddau a'r cyfle i apelio ar ddiwrnod swyddogol y canlyniadau.

Bydd disgyblion BTEC a'r rhai sy'n gwneud cymwysterau galwedigaethol yn cael eu canlyniadau ar 10 Awst ac yn wahanol i'w cyfoedion safon uwch - fyddan nhw ddim wedi derbyn canlyniadau dros dro.

Sut siâp fydd ar y ffigyrau ledled Cymru?

Dim ond am 09:30 ddydd Mawrth bydd hynny'n amlwg. Ond gallwn fod yn eithaf sicr y byddant yn uwch na'r blynyddoedd cyn y pandemig.

Roedd mwy o'r graddau uchaf wedi eu dyfarnu'n 2020 pan oedden nhw'n seiliedig ar asesiadau athrawon - roedd 41% o'r graddau yn A* ac A o gymharu â 26% yn 2019.

Mae nifer y rhai sydd wedi cwblhau cyrsiau safon uwch wedi cynyddu'r flwyddyn hon. Roedd y nifer yn 36,140 - 16% yn uwch na'r un cyfnod y llynedd.

Gallai hynny fod yn rhannol oherwydd poblogaeth uwch o bobl yn eu harddegau, ac efallai bod graddau uwch yn AS y llynedd wedi annog rhai i barhau â phwnc ychwanegol i safon uwch.

Pynciau cysylltiedig