'Sarhad o fenywod mewn gwleidyddiaeth yn gwaethygu'
- Cyhoeddwyd
Mae sarhad o fenywod mewn gwleidyddiaeth yn mynd yn "waeth ac yn waeth", yn ôl cyn-Weinidog Addysg Cymru.
Dywedodd Kirsty Williams wrth bodlediad Walescast BBC Cymru nad oedd hi'n teimlo ei bod yn gallu cadw ei theulu yn ddiogel rhag y gamdriniaeth roedd hi'n ei ddioddef ar gyfryngau cymdeithasol.
Ychwanegodd, er na fyddai hi'n annog ei merched i beidio â mynd i fyd gwleidyddiaeth, y byddai hi'n poeni pe bydden nhw'n mynd i'r maes hwnnw.
Yn ôl Ms Williams, yn anffodus, mae'r fath sarhad yn rhywbeth sydd yn gorfod cael ei dderbyn gan wleidyddion benywaidd.
'Balch iawn' o fod yn fenyw flaenllaw
Ms Williams oedd aelod y Democratiaid Rhyddfrydol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed ers dechrau'r Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, yn 1999.
Hi oedd y fenyw gyntaf i arwain plaid wleidyddol yng Nghymru yn 2008, ac fel yr unig aelod o'i phlaid yn y Senedd ar ôl etholiad 2016 bu'n rhan o gabinet Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ms Williams, wnaeth ddim ymgeisio yn yr etholiad fis Mai, ei bod yn "falch iawn" o fod yn fenyw flaenllaw ym myd gwleidyddiaeth.
Ond ychwanegodd ei bod wedi poeni am effaith hynny ar ei theulu dros y blynyddoedd.
"Mae wedi mynd yn fwyfwy anodd, yn waeth ac yn waeth - ac nid i fi yn unig ond i lawer o fy nghyfoedion gwleidyddol," meddai Ms Williams, sydd â thair merch gyda'i gŵr, Richard.
"Rwy'n meddwl ei fod yn anodd yn enwedig i fenywod - mae 'na elfen misogynistic, cas ofnadwy i'r hyn a ddaw dros gyfryngau cymdeithasol.
"Ar gyfer llawer gormod o fy nghyfoedion, mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn mai dyma'r pris ar gyfer gwneud y swydd maen nhw eisiau ei wneud."
'Ypsetio rhywun llawer mwy'
Wrth siarad gydag ITV Cymru yn ddiweddar dywedodd Ms Williams ei bod wedi derbyn bygythiadau am ei bywyd, ond dywedodd "mewn rhai ffyrdd" ei bod yn fwy anodd delio gyda chamdriniaeth ar gyfryngau cymdeithasol.
"Mae'n hollol ofnadwy, ond mae'r heddlu yn delio gyda hynny'n effeithiol ac amserol," meddai.
Ond dywedodd nad oedd hi'n teimlo ei bod yn gallu cadw ei theulu yn ddiogel rhag y sylwadau roedd hi'n ei dderbyn ar-lein, a bod y rheiny yn "ypsetio rhywun llawer mwy na'r bygythiadau am fy mywyd".
Er hynny, dywedodd y cyn-weinidog na fyddai hi fyth yn annog ei merched i beidio bod yn wleidyddion, ond y byddai hi "bendant" yn poeni amdanynt pe bydden nhw'n dewis hynny.
"Mae 'na ran ohona i yn teimlo y bydden i'n hoffi iddyn nhw wneud cyfraniad," meddai.
"Ond fe fyddai rhan arall ohona i yn meddwl, mewn gwirionedd, y byddai'n well gen i eu gweld nhw yn gwneud rhywbeth llai cyhoeddus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd24 Mai 2020
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019