Y Gymraes tu ôl i grysau Brasil, Barça a'r All Blacks

  • Cyhoeddwyd
ffion

Y penwythnos yma mae tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru ac Uwch Gynghrair Lloegr yn dechrau.

Mae tymhorau Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd eisoes wedi cychwyn, mae timau Cymru sydd wedi bod yn cystadlu yng nghystadlaethau Ewrop hefyd wedi chwarae'n barod, a bydd Wrecsam yn chwarae eu gêm gyntaf yn y Gynghrair Genedlaethol y penwythnos nesaf.

Mae Ffion Appleton Jones yn ddylunydd dillad sy'n gweithio gyda rhai o gwmnïau ffasiwn mwya'r byd, gan ddylunio dillad sy'n cael eu gwisgo gan rai o sêr enwocaf chwaraeon ac adloniant.

Mae Ffion hefyd wedi dylunio nifer fawr o grysau chwaraeon i glybiau mwya'r byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Thierry Henry yn gwisgo crys Arsenal gafodd ei ddylunio gan Ffion

"Nes i ddylunio crys Arsenal ar gyfer y tymor yn dathlu 120 mlwyddiant y clwb yn 2006, ac hefyd honna oedd y flwyddyn 'nathon nhw adael Highbury am y stadiwm newydd. Mae pobl yn hoff o siarad am y crys coch tywyll 'na."

Yn wreiddiol o Aberystwyth mae Ffion bellach yn byw yn Llundain, ac mae hi wedi dylunio crysau pêl-droed, crysau rygbi a gwahanol fathau o ddillad hamdden gwahanol (Athleisure).

Barça, Brasil a Juve

Mae'r clybiau a'r gwledydd mae Ffion yn dylunio ar eu cyfer yn ddibynnol ar y cytundebau gyda'r cwmnïau chwaraeon mawr.

"Tra o'n i'n creu dillad i Adidas o'n i'n dylunio crysau Real Madrid a Ffrainc. Ond wedi imi fynd i weithio efo Nike o'n i'n dylunio i Brasil, Barcelona, AC Milan, Manchester United a Juventus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lionelo Messi ifanc yn chwarae dros Barcelona yn y Camp Nou mewn crys a ddyluniodd Ffion, 1 Chwefror 2006

"O'n i'n mynd i Cwpan y Byd a'r Euros ac yn gweld y timau yma'n gwisgo'r kits 'ma. Chi'n gweithio 18 mis ar y crysau ac o'dd e'n neis cael bach o amser i fwynhau gweld nhw ynddyn nhw."

Cyfle i fod yn greadigol?

Mae disgwyl i Frasil chwarae mewn melyn, ac i Manchester United chwarae mewn coch - felly faint o gyfle sydd gan Ffion i arbrofi wrth ddylunio crysau o'r fath?

"Mae'n dibynnu ar y ffederasiwn neu'r clwb i fod yn onest - efallai bod nhw eisiau newid neu eisiau edrychiad mwy modern. Dwed bod nhw wedi bod yn chwarae'n wael a bod y clwb eisiau anghofio'r crys oedden nhw'n gwisgo, mae'r hawl yn cael ei roi imi newid dipyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Ó Fenómeno'; Ronaldo yn lliwau eiconig Brasil, crys y gwnaeth Ffion ei ddylunio

"Ond mae'n anodd efo crys fel Brasil am ei fod e mor eiconig. I fi y crys Brasil gorau yw'r un mwyaf plaen a retro, coler crwn.

"Dwi'n cofio wnaethon ni grys Yr Iseldiroedd, ac fe wnaethon ni e mewn oren mwy llachar. Roedd hynny'n fodern a chyffrous, ac oedden nhw'n edrych yn dda ar y cae. Dwi'n meddwl bod newid y crysau 'chydig bach yn gallu cael effaith ar y chwaraewyr - maen nhw'n edrych mwy fel athletwyr ac maen nhw'n teimlo'n gyfforddus."

Y Llewod a'r Crysau Duon

"Pan gychwynnais i gyda Adidas, crysau rygbi nes i ddylunio gyntaf yn yr wythnos gyntaf. Gyda chrys y Llewod oedd rhaid ni wneud e bach yn wahanol fel rhoddes i'r tri streip ar y llewys.

"Erbyn hyn dwi'n meddwl bod yn well cadw pethau yn fwy traddodiadol, ond pan ti'n dylunio mae rhaid ateb gofynion y brief 'da chi'n cael."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y maswr Neil Jenkins yn chwarae mewn gêm brawf dros y Llewod yn Awstralia, 2001

"Roedden nhw eisiau i fathodyn yr All Blacks fod yn fwy na'r bathodyn Adidas, ac i beidio cael streipiau ar yr ochrau, gan mai dyna oedd yn bwysig iddyn nhw.

"Felly oedd 'da ti brief, a beth o'n i'n canolbwyntio arno oedd sut bydde'r crys yn ffitio, sut bydde'r coler ddim yn amharu ar y ffordd chi'n chwarae lle bod neb yn gallu ymestyn a thynnu'r coler.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o fawrion hanes rygbi, Jonah Lomu, yn gwisgo fersiwn Ffion o grys enwog Seland Newydd

"Roedden ni'n trio newid y ffordd oedd y crysau rygbi'n cael eu cynllunio - newid y deunydd, a'i wneud yn fwy cyfforddus ac yn fwy modern."

Mae Ffion wedi dylunio i Under Armour, Kappa a Asics yn y gorffennol, gan greu dillad i ymarfer yn ogystal â rhai mae cefnogwyr yn ei weld ar y cae chwarae.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewr Lloegr, Elliot Daly o'r Wasps yn gwisgo crys a ddylunwyd gan Ffion

Y ffefryn?

O'r holl grysau mae Ffion wedi ei ddylunio, pa un mae hi fwyaf balch ohono?

"Dwi'n credu mai'r un Juventus wnes i yn 2004. Dwi'n hoff o hwnna am fod e'n eitha' traddodiadol, wnaethon ni ddim newid e gormod.

"O'n i'n edrych nôl ar John Charles a beth oedd e'n gwisgo; dyna oedd y dylanwad felly 'nes i drio cadw'n agos i hwnna."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fabio Cannavaro a Pavel Nedvěd yn dathlu gôl i Juventus yn erbyn Inter Milan, 28 Tachwedd, 2004

Oes yna grys y bydde Ffion yn hoffi ei ddylunio rhyw ddydd?

"Un Cymru, yn sicr, byswn i'n dwli gwneud un Cymru - roedden nhw gyda Kappa pan o'n i'n dylunio i Adidas a Nike. Dwi'n gwybod y byddwn i falle mwy pryderus yn gwneud un Cymru a dwi'n gwybod sut mae ffans yn gallu ymateb, yn bositif neu yn negatif - byswn i'n bryderus iawn o sut bydde cefnogwyr Cymru'n teimlo.

"Dwi'n meddwl bod Adidas yn gwneud job dda iawn efo crysau Cymru, heblaw am yr un llwyd adeg yr Euros. Mae gormod o ffasiwn yn y crys 'na, a dim digon Cymreig; gall fod yn grys unrhyw dîm."

Dillad chwaraeon oddi ar y cae

Bellach, mae Ffion yn gweithio gyda chwmni Off-White, un o gwmnïau ffasiwn mwyaf y byd, sydd yn gwerthu dillad chwaraeon sydd ddim yn cael eu gwisgo ar y cae.

"Maen nhw'n gwerthu hoodies sy'n costio hyd at £500-£600," eglura Ffion. "Mae chwaraewyr pêl-droed, pan nad ydynt ar y cae chwarae, yn gwisgo'r dillad.

"Mae'n gyffrous, dwi'n mynd i Baris i'r Sioe Ffasiwn - mae sioe 'da ni fanna. Mae fy ffocws i wedi troi o'r byd chwaraeon i'r byd ffasiwn gan fod gymaint o ddiddordeb mewn ffasiwn dillad chwaraeon.

"Mae Athleisure mor boblogaidd heddiw, gyda dylanwad dillad pêl-droed a dillad chwaraeon i'w weld gyda phobl yn gwisgo crysau a hoodies chwaraeon.

"Yn ddiweddar rwyf wedi gweithio i frand newydd o'r enw Castore sy'n gwneud dillad tenis Andy Murray a dwi hefyd yn gwneud tenis a golff i Off-White. Mae Off-White wedi gwneud dillad i Serena Williams wrth gydweithio gyda Nike."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andy Murray yn gwisgo dillad Castore yn Wimbledon eleni

Beth mae Ffion yn feddwl o'r byd ffasiwn a'r bobl yn y diwydiant?

"O'n i'n amheus o fynd mewn i'r byd ffasiwn i ddechrau, achos dwi'n hoffi'r awyrgylch o weithio i gwmnïau chwaraeon fel Nike ac Adidas, es i i goleg ffasiwn ac mae'r agwedd yno'n gallu bod eithaf caled gydag awyrgylch gystadleuol ddim mor neis.

"Ond dwi'n ffeindio'r bobl dwi'n gweithio efo nawr yn hollol lyfli, ac maen nhw'n hawdd siarad efo nhw a bod yn agored - mae'n wych."

Hefyd o ddiddordeb: