Cyn-gynghorydd yn methu â chael iawndal am sŵn awyrennau

  • Cyhoeddwyd
John Arthur Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Arthur Jones ei garcharu yn 2016 am beryglu awyrennau'r Awyrlu drwy anelu goleuadau at beilotiaid

Mae cyn-gynghorydd o Ynys Môn a'i wraig wedi methu yn eu hymdrech i hawlio dros £250,000 mewn iawndal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn gan ddadlau bod sŵn awyrennau'r Awyrlu yn amharu ar eu heiddo a'u hawliau dynol.

Roedd John Arthur Jones, 71, a'i wraig Rhian wedi cwyno am y cynnydd yn nefnydd llain lanio Mona gan yr Awyrlu ers 2007.

Roedden nhw hefyd yn ceisio atal awyrennau'r Awyrlu rhag hedfan ger safle Parc Cefni ym Modffordd - safle y mae'r cwpl yn berchen arno - oni bai bod argyfwng.

Ond fe wnaeth y barnwr Uchel Lys, Craig Sephton wrthod cais y cwpl, gan ddweud bod "sŵn awyrennau'n defnyddio RAF Mona wedi bod yn rhan o fywyd pob dydd yn y rhan yma o Ynys Môn am tua 70 mlynedd".

Dyna'n union oedd dadl y Weinyddiaeth Amddiffyn, oedd wedi dweud bod peilotiaid wedi hyfforddi o feysydd awyr yr Awyrlu ym Mona a'r Fali ers y 1950au.

Cyfnod yn y carchar

Cafodd Mr Jones ei ddedfrydu i 18 mis o garchar yn 2016 ar ôl i Lys y Goron Yr Wyddgrug ei gael yn euog o 13 o gyhuddiadau o beryglu awyrennau'r Awyrlu drwy anelu goleuadau llachar at beilotiaid oedd yn eu hedfan.

Fe brynodd Mr a Mrs Jones eu cartref a thir Parc Cefni yn 2003, gan sefydlu parc busnes ar y tir a chael caniatâd cynllunio i godi parc gwyliau yn cynnwys 22 o gabanau pren, carafanau, salon iechyd a harddwch ac ardal chwarae i blant.

Ffynhonnell y llun, Yr Awyrlu Brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr nad ydy sŵn yr awyrennau wedi gwaethygu ers 2007

Roedd y cwpl yn dweud ei bod wedi bod yn amhosib gwerthu'r safle ers iddo gael ei roi ar y farchnad am dros £2m yn 2016.

Roedden nhw hefyd yn honni bod sŵn yr awyrennau yn aml dros 100 desibel, a chymaint â 130 desibel ar brydiau, sydd yn "ormodol ac annioddefol" yn ôl y cwpl.

Roedd Mr a Mrs Jones wedi gofyn am ddatganiad cyfreithiol fyddai'n atal yr Awyrlu rhag hedfan o fewn 550 o fetrau i'w tir oni bai bod argyfwng.

'Dyw'r sŵn heb waethygu'

Roedd y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dadlau bod nifer yr hediadau wedi gostwng yn gyson ers 2003, a bod peilotiaid yn ymwybodol na ddylen nhw hedfan dros Barc Cefni.

Roedden nhw hefyd yn nodi nad oedd y cwpl wedi cwyno tan Hydref 2010, ar ôl newid defnydd Parc Cefni - safle yr oedden nhw wedi'i brynu gan wybod bod yr Awyrlu yn gweithredu yn yr ardal.

Cytuno gyda hynny wnaeth y Barnwr Sephton, gan ddweud: "Yn anffodus, roedd y busnes y dechreuodd Mr a Mrs Jones ym Mharc Cefni pan symudon nhw yno yn fwy sensitif i sŵn.

"Yn groes i honiadau'r cwpl, ni wnaeth y sŵn waethygu yn 2007. Dydy'r ardal ddim wedi mynd yn fwy swnllyd ers iddyn nhw symud i mewn.

"Ar ben hynny, mae swyddogion RAF Fali wedi cymryd pob cam rhesymol i addasu i anghenion Mr a Mrs Jones."

Dywedodd ei fod yn dod i'r casgliad nad oedd gan y cwpl hawl am iawndal niwsans, na chwaith yn eu cais bod y sŵn yn torri eu hawliau dynol.