Huw Edwards: 'Dwi'n dal mor egnïol a phositif'
- Cyhoeddwyd
Ni fydd y darlledwr Huw Edwards yn parhau i gyflwyno prif raglen newyddion y BBC "am gyfnod hir i ddod", oherwydd oriau'r swydd.
Yn siarad ar Raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru, dywedodd ei fod "dal mor egnïol a phositif o safbwynt gwaith a theulu a bywyd", ond bod y nosweithiau hwyr "yn gallu bod yn dreth".
Roedd Edwards edrych ymlaen at ben-blwydd nodedig yr wythnos nesaf, pan fydd y darlledwr o Gymru yn dathlu troi'n 60.
Ond nid yw'n hoff iawn o bartïon mawr: "Dydw i ddim yn un am barti mawr a'r peth gwaethaf i fi fydde syrpreis parti - bod chi'n cerdded mewn i ystafell ac yn gweld pawb chi ddim isio gweld," meddai.
"Dwi ddim fel arfer yn dathlu fy mhen-blwydd... Tro diwethaf ges i barti mawr oedd pan o'n i'n 18 oed nol yn Llanelli!"
'Dal i fwynhau'r gwaith'
Er ei fod wedi gweithio i'r BBC am ddegawdau, mae Mr Edwards yn parhau i fod yn "ddarlledwr greddfol" ac yn meddwl am gam nesaf ei yrfa.
"Rwy'n ddarlledwr greddfol felly dwi ddim yn gweld fi'n rhoi gorau i gyflwyno neu ddarlledu," meddai.
"Ond mae'r busnes nosweithiau newyddion ar ôl 20 mlynedd yn gallu bod yn dreth.
"Er mod i'n dal i fwynhau'r gwaith, dwi ddim yn credu bydda i'n gwneud hwnna am gyfnod hir i ddod.
"Yn y lle cyntaf dwi'n meddwl bod o'n deg i'r gwylwyr i gael change, ac yn ail mae 'na gyfeillion i fi yn y gwaith sy'n dalentog iawn felly mae'n rhoi cyfle iddyn nhw hefyd.
"Fi ddim yn diflannu 'fory o Newyddion 10 yn sicr achos dwi dal i fwynhau, ond wrth gwrs mod i'n meddwl am batrwm gwaith y dyfodol a'r gwir yw dwi ddim isio cynnal y patrwm yma am gyfnod maith i ddod achos dwi'm yn meddwl bod o'n gall o gwbl."
Ychwanegodd Edwards fod y ffaith bod ei gyflog yn cael ei gyhoeddi wedi ei "gythruddo" dros y blynyddoedd.
"Mae'n ddiflastod pur ac mae wedi fy nghythruddo i a bod yn onest, a nid oherwydd mod i ag unrhyw embaras o safbwynt cyflog, yn enwedig gan fy mod i wedi cymryd toriad enfawr yn fy nghyflog beth bynnag, a dwi ddim yn disgwyl i neb fod yn d'eud 'O druan ag ef'.
"Ond os chi'n cael toriad enfawr yn eich cyflog, mae'n sicr yn mynd i effeithio arno chi a'ch seicoleg chi a'ch agwedd chi tuag at y gwaith, yn enwedig os chi'n gweld cydweithwyr yn cael codiad mewn cyflog sy'n sylweddol a chi ddim cweit yn deall pam.
"Mae'r holl fusnes am gyflogau wedi bod yn hunllef...
"Mae dyn yn ddiolchgar bod ganddo fe swydd sy'n talu'n dda... Ond mae'n gallu bod yn lletchwith hefyd o safbwynt agwedd personol, hynny ydy fy mhlant fy hunain - fyddwn i ddim yn dweud wrthyn nhw faint o'n i'n ennill."
Gallwch wrando ar fwy o'r sgwrs ar wefan BBC Radio Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2018