'Ailstrwythuro sylweddol' i bêl-droed merched yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Clwb merched Dinas AbertaweFfynhonnell y llun, CBDC/LEWIS MITCHELL
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yw'r wlad gyntaf ym Mhrydain i ddileu'r gair "merched" o enw cynghrair pêl-droed

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio y bydd cyfnod newydd ym myd pêl-droed merched yn dechrau fis Medi yn dilyn "ailstrwythuro sylweddol" o'r cynghreiriau.

Mewn ymgais i sicrhau cydraddoldeb mae'r gymdeithas wedi dileu'r gair "merched" o enw'r gynghrair, gan lansio Cynghreiriau Adran Genero.

Cymru yw'r wlad gyntaf ym Mhrydain i wneud newid o'r fath, a'r drydedd wlad yn Ewrop.

Dywedodd y gymdeithas bod yr enw newydd hefyd yn dangos ymrwymiad i'r Gymraeg, gyda'r defnydd o'r gair "Adran" yn cael ei ddefnyddio yn y fersiwn Saesneg, Genero Adran Leagues.

Mae'r cynghreiriau newydd yn cynnwys wyth tîm yn yr Adran Premier, sef yr haen uchaf; wyth tîm yn Adran y Gogledd ac Adran y De, sef yr ail haen ranbarthol; a 22 o dimau yn Adran y Gogledd ac Adran y De o dan 19 oed, sef cynghrair ranbarthol newydd ar gyfer menywod ifanc.

Roedd chwaraewyr, cefnogwyr a'r cyfryngau yn rhan o waith ailfrandio'r gynghrair, gan gymryd rhan mewn grwpiau ffocws a fforymau i rannu eu profiadau a fu'n sail i'r enw a'r brand newydd.

'Pennod newydd'

Dywedodd Lowri Roberts, pennaeth pêl-droed merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Rydyn ni am i'n chwaraewyr deimlo eu bod wedi'u grymuso bob tro y byddan nhw'n camu ar y cae.

"Mae gan bêl-droed yr un rheolau waeth pa rywedd rydych chi'n ei arddel, pa wlad rydych chi'n dod ohoni na pha iaith rydych chi'n ei siarad.

"Bydd y strwythur newydd yn creu llwybrau cliriach, yn gwella'r ddarpariaeth a rhaglenni'r gemau, ac yn cefnogi chwaraewyr er mwyn caniatáu i ni feithrin ein doniau pêl-droed yn well yng Nghymru.

"Mae hyn yn gosod llwyfan cryfach i'n chwaraewyr i gyflawni eu potensial. Yn ei dro, bydd hyn yn gwasanaethu cynrychiolaeth Cymru yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA ac uchelgais Cymru i ennill lle mewn twrnamaint rhyngwladol."

Bydd Cynghreiriau'r Adran yn cael eu noddi gan Genero, sef asiantaeth gynhyrchu a digwyddiadau creadigol.