Cynlluniau atal llifogydd Traeth Coch ger Benllech

  • Cyhoeddwyd
Traeth Coch

Mae Cyngor Môn wrthi'n ymgynghori ar gynlluniau atal llifogydd yn Nhraeth Coch ger Benllech.

Wyth mlynedd yn ôl cafodd cartrefi a busnesau eu taro gan lifogydd difrifol yn yr ardal, sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr.

Mae pobl leol, fel cynifer o gymunedau arfordirol eraill, yn poeni am effaith cynyddol newid hinsawdd.

Dim ond bagiau tywod achubodd adeilad y Ship Inn rhag y dŵr nôl yn 2013.

Yn dyddio nôl i ganol y 18fed ganrif, roedd yr adeilad wedi'i amgylchynu y tu allan.

Disgrifiad,

Cafodd yr ardal ei tharo gan dywydd gwael a llifogydd yn 2013

Roedd Bethan Williams yn gweithio yno'r bore hwnnw, a gwelodd y cyfan yn digwydd yn gyflym o flaen ei llygaid.

"O'dd hi'n reit beryg a deud y gwir. Doeddech chi ddim yn gallu mynd i mewn nac allan," meddai.

"O'n i'n digwydd bod yma peth cyntaf yn bore oherwydd mod i'n glanhnau. Doedd yna ddim byd tan i'r llanw ddod i mewn.

"Mewn rhyw awr wedyn roedden ni dan ddŵr. Lwcus fuon ni na ddoth i mewn drwy'r drws, a hynny achos bod ni wedi gosod digon o sandbags."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Williams yn hapus gyda'r hyn mae hi wedi'i weld o'r cynlluniau hyd yma

Yn ôl Cyngor Môn mae cyfnodau cynyddol o law trwm iawn a lefelau uchel y môr yn parhau i achosi risg i'r gymuned arfordirol yma.

Bydd llanw uchel yn dod dros y wal fwy neu lai bob blwyddyn, medden nhw, gan adael y ffordd a'r glaswellt dan lifogydd mewn nifer o wahanol rannau.

Dyna'r rheswm dros y cynlluniau a'r ymgynghori, yn ôl y Cynghorydd Bob Parry, deilydd portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff y Cyngor.

"Gyda'r bygythiad cynyddol o newid hinsawdd a digwyddiadau cysylltiedig â'r tywydd, mae'n hanfodol ein bod yn gosod mesurau atal llifogydd er mwyn helpu i amddiffyn ein cymunedau lleol," meddai.

Dan y cynlluniau, gyda nawdd gan Lywodraeth Cymru, fe fyddai uchder y wal fôr bresennol yn cael ei chodi i uchder safonol o 6.06 metr uwchben lefel cymedr y môr ar hyd y ffrynt.

Bydd yn golygu cynnydd, ar gyfartaledd, o 0.9m o uchder ar hyd tua 500 metr o'r wal.

Fe fyddai'r wal newydd, yn ôl Cyngor Môn, yn darparu amddiffyniad rhag digwyddiad un mewn 200 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Awgrym o'r cynlluniau sydd dan sylw Cyngor Ynys Môn

Cafodd bwyty'r Boat House ei daro hefyd wyth mlynedd yn ôl. Mae Edward Griffiths wedi bwrw golwg ar y cynlluniau ac yn eu croesawu'n fawr.

"'Da ni wedi cael blwyddyn ffantastig efo mwy o bobl i lawr yma nag erioed," meddai.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n hollbwysig efo cynhesu byd eang a'r holl dwristiaeth fod ni'n cael y cynlluniau yma i amddiffyn ni rhag llifogydd ac i helpu ni fel busnes."

Nôl yn y Ship mae Bethan Williams yn cytuno ac yn hoff hefyd o'r defnydd o wydr sy'n rhan o'r cynlluniau posib.

"Dwi'n meddwl y bydd o'n syniad ardderchog. Mae pawb isio bod ar lan môr dydi, ac mi neith y wal lawer o wahaniaeth," meddai.

"Dwi wedi sbïo ar y cynlluniau. Mae yna wydr felly mi fyddwch chi'n dal yn gallu gweld yr olygfa trwyddo fo."

Wedi'r ymgynghori, gobaith Cyngor Ynys Môn yw y bydd modd dechrau ar y gwaith cyn Mawrth 2022.