£551m o gyllid i adfer gwasanaethau iechyd wedi Covid
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd dros hanner biliwn o bunnoedd yn cael ei glustnodi i'r GIG er mwyn delio gydag effeithiau'r pandemig.
Mae'r Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £411m ar gyfer costau parhaus delio â'r pandemig hyd at fis Ebrill 2022 a £140m ar gyfer adferiad a mynd i'r afael ag amseroedd aros.
Daeth y cyhoeddiad cyn i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod 624,909 o bobl ar restrau aros ym mis Mehefin - y nifer uchaf ar gofnod.
Cynyddodd nifer y bobl a oedd yn aros hiraf - mwy na naw mis - eto i 233,210.
'Lefelau na welwyd o'r blaen'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod effaith y pandemig ar wasanaethau iechyd a gofal Cymru wedi bod yn "enfawr".
"Mae pandemig Covid wedi cael effaith enfawr ar y GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac maen nhw'n dal i wynebu costau sylweddol wrth iddyn nhw ddelio â'i effaith," meddai.
"Mae sgil-effaith delio â'r pandemig hefyd wedi bod yn enfawr. Mae rhestrau aros wedi cynyddu dros 33% ac maen nhw nawr ar lefelau na welwyd o'r blaen.
"Bydd yn cymryd amser i ddychwelyd i ble roedden ni cyn y pandemig a bydd angen buddsoddi mewn ffyrdd newydd o weithio."
Ychwanegodd: "Bydd £100m yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau adfer byrddau iechyd, gan gynnwys cyflymu triniaeth y rhai sydd wedi bod yn aros yr amser hiraf.
"Bydd £40m ar gael ar gyfer cyfarpar ac addasu ysbytai ac adeiladau eraill i gynyddu capasiti ar gyfer triniaethau rheolaidd, tra'n parhau i gynnal mannau diogel o ran Covid."
Mae'r arian sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau yn ychwanegol i'r £100m o gyllid a gyhoeddwyd ym mis Mai i gefnogi cynllun adfer Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar ôl y pandemig.
Galw am wella recriwtio
Dywedodd Russell George AS, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd: "Mae croeso mawr i'r cyllid yma, ond mae'n hen bryd.
"Rhaid peidio anghofio bod y rhestrau aros hir iawn yma wedi bod yn cronni ers cyn y pandemig, ac mae methiant Llafur i drwsio'r to pan oedd yr haul yn tywynnu wedi arwain at gannoedd o filoedd o gleifion yn talu'r pris.
"Rhaid dechrau hyn gyda chynyddu capasiti, gan ddechrau gyda llenwi 3,000 o swyddi GIG sy'n wag ac arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd sy'n cael ei wario'n flynyddol ar staff dros dro."
Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: "Mae'r 18 mis diwethaf wedi gwneud i ni gyd werthfawrogi ein gwasanaethau iechyd a gofal fel erioed o'r blaen.
"Ond ry'n ni hefyd wedi gweld breuder y gwasanaethau yna ac mae diffyg buddsoddiad gan sawl llywodraeth Lafur cyn y pandemig wedi arwain at orddibyniaeth ar ewyllys da ac ymroddiad staff iechyd a gofal.
"Tra fy mod yn croesawu unrhyw gyllid ychwanegol i'r GIG, a law yn llaw gydag unrhyw gynlluniau tymor byr i ddelio gyda'r sefyllfa wrth i ni fynd am y gaeaf, mae angen cynllun tymor hir i fuddsoddi'n llawn yn ein GIG.
"Mae hynny'n cynnwys cynllun recriwtio, cadw ac ailhyfforddi ein gweithlu i sicrhau bod digon o staff yn ein holl adrannau iechyd, ac ymrwymiad i anrhydeddu'r codiad cyflog gwreiddiol a gyhoeddwyd i'r GIG."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021