Pryderon gofal yn sgil prinder tiwbiau profi gwaed
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon teulu yn dweud eu bod nhw wedi cael cyngor i gyfyngu rhai profion gwaed oherwydd prinder tiwbiau profi.
Daw'r prinder o diwbiau profi - sy'n cael eu defnyddio gan y gwasanaeth iechyd i anfon samplau gwaed i labordai i'w profi - yn sgil problemau byd-eang gyda'r gadwyn gyflenwi.
Yn ôl BD, y cwmni sy'n cynhyrchu'r tiwbiau gwaed yn yr UDA, mae "heriau trafnidiaeth" yn parhau, gan gynnwys diffyg capasiti mewn porthladdoedd a heriau ffiniau'r Deyrnas Unedig.
Mae GIG Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy'n cynnwys cyngor i ohirio profion fitamin D dros dro ac aros yn hirach rhwng pob prawf gwaed rheolaidd pan fo hynny'n ddiogel yn glinigol.
Dywed Diabetes Cymru eu bod nhw'n gobeithio na fydd pobl sydd mewn perygl o ddatblygu'r clefyd yn "cwympo trwy'r craciau oherwydd mater logistaidd".
Gohirio profion gwaed
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi ysgrifennu at feddygon teulu yn dweud wrthyn nhw i haneru'r nifer o brofion gwaed.
"Dydy hyn ddim yn rhywbeth dwi erioed wedi ei weld o'r blaen," medd un meddyg teulu, sydd am aros yn ddi-enw.
Mae ei meddygfa hi wedi gohirio profion gwaed arferol i gleifion sydd â phethau fel pwysedd gwaed uchel a cholesterol uchel.
Bydd y profion yn parhau i gleifion sydd ag angen clinigol i'w cael nhw.
"Tan bod dim mwy o'r poteli yma ar ôl mae'n anodd penderfynu pwy ydy'r cleifion yna," ychwanegodd y meddyg teulu.
"Ac mae hynny, wrth gwrs, yn achosi pryder i'r cleifion yna."
Mae pob meddygfa yng Nghymru wedi cael cyngor i beidio â chadw gormodedd o'r tiwbiau wrth gefn.
Maen nhw hefyd wedi cael cyfarwyddyd i beidio â gwneud profion gwaed yn y feddygfa os ydy cleifion yn cael eu hanfon i'r ysbyty am driniaeth pellach.
Bydd profion gwaed yn cael eu blaenoriaethu i'r cleifion risg uchaf, fel y rheiny sydd â chyflyrau difrifol, lle bydd canlyniadau profion gwaed yn effeithio ar y ffordd y mae'r cyflwr yn cael ei reoli.
Yn Lloegr mae'r gwasanaeth iechyd wedi atal rhai profion eraill gan gynnwys rhai ar gyfer anhwylderau gwaed fel dyslipidaemia yn ogystal â phrofion alergedd a phrofion anffrwythlondeb.
'Heriau trafnidiaeth'
Yn ôl BD, y cwmni sy'n cynhyrchu'r tiwbiau gwaed yn yr Unol Daleithiau, mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y galw amdanyn nhw oherwydd y pandemig a'r angen i gynnal profion ar gleifion Covid-19.
Roedd cynnydd hefyd wrth i brofion gwaed gafodd eu gohirio ailddechrau.
Ond mae'r cwmni'n dweud bod "heriau trafnidiaeth" yn parhau, gan gynnwys diffyg capasiti mewn porthladdoedd a heriau ffiniau'r Deyrnas Unedig.
"Rydym yn gweithio'n galed gyda'r cwmnïau yn ein cadwyn gyflenwi ac asiantaethau trafnidiaeth i atal oedi pellach," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod y gwasanaeth iechyd wedi cyhoeddi canllawiau clinigol newydd er mwyn sicrhau bod digon o brofion ar gael i gleifion sydd eu hangen ar frys.
"Diogelwch cleifion yw'r flaenoriaeth o hyd, ac ni fyddai prawf yn cael ei ohirio oni bai bod y GIG wedi asesu ei bod yn glinigol ddiogel gwneud hynny.
"Dylai pobl sydd angen gofal brys barhau i'w geisio fel arfer."
'Yr un meddyg am weld oedi'
Mae'r corff sy'n cynrychioli meddygon, BMA Cymru, wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd, i greu canllawiau newydd ar sut i arbed y cyflenwad.
Ond mae'r BMA yn poeni am y cydbwysedd rhwng rheoli'r prinder gydag anghenion cleifion, ac mae 'na bryder y bydd gohirio profion yn arwain at ôl-groniad o achosion wedi'r pandemig.
"Rydan ni wedi mynegi'n pryderon am effaith bosib hyn ar brofion iechyd rheolaidd a'n monitro ni o safon gofal yn ogystal ag adolygu meddyginiaeth, mi fydd rhai cleifion wedi mynd heb y rheiny yn ystod y pandemig," meddai Dr David Bailey, Cadeirydd BMA Cymru.
"Does yr un meddyg eisiau gweld canlyniadau'r oedi mewn rhoi diagnosis oherwydd y prinder yma."
Dywedodd Joshua James, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus yn Diabetes Cymru, bod diagnosis cynnar yn "hanfodol er mwyn lleihau'r risg o gymhlethdodau difrifol sy'n gysylltiedig â diabetes".
"Mae'n bwysig iawn bod y rhai a nodwyd yn flaenorol gan eu meddyg teulu fel rhai sydd â risg uchel o ddatblygu diabetes math 2 yn derbyn eu gwiriadau blynyddol - gan gynnwys gwirio eu lefelau glwcos yn y gwaed - ac nad ydyn nhw'n cwympo trwy'r craciau oherwydd mater logistaidd."
Mae GIG Cymru yn dweud eu bod nhw a Llywodraeth Cymru yn cyd-weithio gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig ac yn ceisio datrys y prinder a dod o hyd i gynnyrch eraill addas.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021