Pen-y-cae: Dau ddyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys am y tro cyntaf ar ôl cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad mewn pentref ger Wrecsam.
Cafodd Luke Williams, 24, a David Williams, 52, eu harestio ar 24 Awst mewn cysylltiad â marwolaeth Karl Saffy, 57, yn ardal Cristionydd, Pen-y-cae.
Fe wnaeth y ddau ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug trwy linc fideo o garchar Berwyn fore Mawrth.
Ni chafodd unrhyw bledion eu gwneud a ni chafodd manylion yr achos eu trafod.
Dywedodd y barnwr mai dyddiad cynharaf yr achos llys fydd 7 Mawrth, 2022.
Bydd y ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa tan eu hymddangosiad nesaf ar 19 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2021
- Cyhoeddwyd25 Awst 2021