Ethol degfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu
- Cyhoeddwyd
Bydd Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru yn cael eu cloi yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe o ddydd Mercher hyd at dridiau er mwyn ethol esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu.
Fe ddaeth y swydd yn wag wedi i Archesgob Cymru, John Davies, oedd hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu, ymddeol ym mis Mai.
Yr esgob newydd fydd degfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu.
Bydd gan y Coleg Etholiadol hyd at dridiau i ddod i benderfyniad. Pan fydd enw wedi'i ethol bydd yr Uwch Esgob yn datgloi ac yn agor drws gorllewinol yr eglwys a chyhoeddi enw y darpar esgob yn ffurfiol.
Mae'r Coleg Etholiadol yn cynnwys 47 o bobl sy'n cynrychioli pob un o chwech esgobaeth Cymru - cynrychiolir yr esgobaeth "gartref" gan chwech o leygwyr a chwech o glerigwyr, a'r pump esgobaeth arall gan dri o leygwyr a thri o glerigwyr yr un, ynghyd â'r pump esgob arall.
Bydd y trafodaethau yn gyfrinachol gyda'r coleg yn gyntaf yn enwebu ymgeiswyr ac yna yn eu hystyried cyn pleidleisio'n ddirgel a gall fod nifer o gylchoedd enwebu, trafod a phleidleisio gan bod yn rhaid i ymgeisydd dderbyn dau draean y pleidleisiau.
Os yw'r Coleg Etholiadol yn methu ethol bydd y penderfyniad yn cael ei drosglwyddo i'r Fainc Esgobion.
Pan fydd yr esgob wedi'i ethol bydd ganddo fe neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn neu wrthod y swydd.
Os yw'r esgob yn derbyn y swydd caiff yr etholiad ei gadarnhau'n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Sanctaidd a gynhelir yn fuan.
Wedi i Esgob Abertawe ac Aberhonddu gael ei ethol bydd trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer ethol Archesgob Cymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2021