'Prinder sgiliau ffilm a theledu yn cynnig cyfleoedd'

  • Cyhoeddwyd
Arwen Teagle
Disgrifiad o’r llun,

Mae na bryder ynglŷn â'r prinder sgiliau sydd i gael, a'r galw ar gyfer sgiliau penodol ar yr un pryd

Mae prinder sgiliau yn y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru gan fod nifer y cynyrchiadau sydd wedi eu lleoli yma heb ei debyg o'r blaen.

Yn ôl Cymru Greadigol, asiantaeth sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, y gobaith yw gweld cynyrchiadau'n digwydd gydol y flwyddyn.

Yn barod eleni, fe wariwyd £8m i helpu prosiectau o bob maint.

Defnyddiwyd rhan o'r arian hefyd i greu 55 o swyddi dan hyfforddiant.

'Prysuraf erioed'

Mae Dirprwy Gyfarwyddwyr Cymru Greadigol, Gerwyn Evans, eisiau annog mwy o bobl ifanc i ystyried swydd yn y byd ffilm a theledu.

"Mae'r sector cynhyrchu yng Nghymru yn hynod o brysur ar hyn o bryd.

"Siŵr o fod dyma'r cyfnod prysuraf rydyn ni erioed wedi gweld, sy'n ffantastig, yn enwedig wrth i ni ddod drwy'r pandemig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sector yn tyfu, ac mae 'na gyfleoedd gwaith, meddai Gerwyn Evans

Ond mae na bryder ynglŷn â'r prinder sgiliau sydd i gael, a'r galw ar gyfer sgiliau penodol ar yr un pryd.

"Rydyn ni'n gwybod does 'na ddim digon o bobl i lenwi swyddi trin gwallt a cholur, prinder cyfrifyddion, does dim digon o bobl i weithio ar setiau chwaith.

"Mae angen galw ar bobl a phobl ifanc Cymru a dangos bod hwn yn sector sy'n tyfu a bod yna nifer o gyfleoedd.

"Does dim rhaid i chi fod ar gamera, gallech chi wneud gwallt a cholur, gallech chi fod yn drydanwr neu gynllunio setiau."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ddrama boblogaidd His Dark Materials ei chynhyrchu yng Nghaerdydd

Mae 37 o gynyrchiadau drama teledu a ffilm wedi derbyn cefnogaeth arian cyhoeddus gan Cymru Greadigol yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gynnwys cyfres newydd Netflix, Havoc, cyfres ddiweddaraf His Dark Materials, ac ail gyfres War of the Worlds.

Mae Arwen Teagle yn brentis o Sir Caerffili sy'n gweithio ar War of the Worlds.

Cafodd Arwen, 19 oed, ei hysbrydoli i weithio tu ôl i'r camera yn dilyn cyfnod fel actor ychwanegol ar y gyfres Gwaith Cartref ar S4C.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwen Teagle yn brentis ar gynhyrchiad War of the Worlds

Ar hyn o bryd mae Arwen yn brentis camera yn stiwdio Urban Myth Films yng Nghasnewydd.

Fel rhan o'i phrentisiaeth, sydd wedi ei ariannu gan Cymru Greadigol, mae ei chyfrifoldebau'n cynnwys gosod sgriniau o amgylch y set a sicrhau bod batris camerâu â digon o bŵer.

"Mae'n waith hwylus a mae pawb ar y set yn hyfryd," meddai.

"Pe bawn i wedi dweud wrth fy hun yn y gorffennol y byswn i'n gweithio gyda Urban Myth ar War of the Worlds, byswn i byth wedi credu fy hun.

"Gwyliais i'r gyfres gyntaf a roedd e'n wych a nawr dwi yma yn gweithio ar y drydedd gyfres. Mae'n tipyn o sioc."

Yn ôl cynhyrchydd Havoc, Ed Talfan: "Mae gyda ni brentisiaid yn gweithio ar draws yr holl brosiect, naill ai yn yr adran gelf, yn yr adran gwallt a cholur, creu gwisgoedd neu yn y swyddfa.

"Mae pobl yn dueddol o ddilyn y llwybr sy'n diddori nhw fwyaf.

"Rydyn ni'n ceisio sicrhau eu bod nhw yn yr adran sydd orau iddyn nhw a wedyn mae nhw'n dysgu'r sgiliau priodol gan aelodau profiadol y timau sydd o'u hamgylch.

"Wedyn y tro nesaf mae yna brosiect newydd, bydden nhw'n gallu trio am swydd fel rhywun proffesiynol."

Ffynhonnell y llun, Ffilm Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae tirwedd Cymru wedi denu llawer o gynyrchiadau i ffilmio yma

Er gwaethaf y gallu i ddenu cynyrchiadau mawr, mae rhai wedi dadlau bod cynyrchiadau bach yn colli mas.

Ym mis Gorffennaf, dywedodd yr actor a chynhyrchydd, Matt Hookings, y bu'n rhaid iddo symud ei gynhyrchiad o ffilm Prizefighter: The Life of Jim Blecher i Lithwania oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol.

Ymatebodd Gerwyn Evans o Cymru Greadigol: "Mae angen lefel o ddiwydrwydd dyladwy gyda phob cais ar gyfer cefnogaeth ariannol, ac yn anffodus doedd y gefnogaeth gwnaethon ni gynnig i'r ffilm hwnnw ddim yn siwtio'i hamserlen.

"Rydyn ni wedi buddsoddi llawer mewn cynyrchiadau a nid yn unig cynyrchiadau mawr. Rydyn ni wedi cefnogi sawl cynhyrchiad bach, Cymreig hefyd.

"Mae'n rhaid cael cydbwysedd rhwng rhoi cefnogaeth i gwmnïau cynhyrchu bach er mwyn eu galluogi nhw i ddatblygu, ac edrych am gyfleoedd i ddenu prosiectau mawr i Gymru hefyd er mwyn sicrhau bod gyda ni ddiwydiant cynaliadwy, a dyna'r syniad yn y bôn tu ôl i'r agenda i ddatblygu sgiliau o fewn y sector."

Pynciau cysylltiedig