Tymor newydd: Blaenoriaethu lles disgyblion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ystafell ddosbarth yn Ysgol Maes Garmon

Wedi 18 mis "heriol" mi fydd dechrau'r flwyddyn ysgol newydd yn gyfle i roi "ffocws ar les disgyblion" yn ôl athrawon.

Dros y dyddiau nesaf mi fydd disgyblion yn dychwelyd yn raddol i'r ystafell ddosbarth ar draws Cymru wedi gwyliau'r haf.

Ond wedi blwyddyn heriol oherwydd y pandemig dyw nifer o ddisgyblion Blwyddyn 6 heb gael profiad 'pontio' neu 'trosglwyddo' rhwng eu hysgol gynradd ac uwchradd.

Mae'n rhaid felly canolbwyntio ar sicrhau fod disgyblion sy'n dychwelyd yn gyfforddus, meddai athrawon.

Nerfusrwydd

Yn Ysgol Maes Garmon Yr Wyddgrug mae staff yn edrych ymlaen at groesawu dros 100 o ddisgyblion Blwyddyn 7 newydd, ynghyd â disgyblion y chweched dosbarth fore Gwener.

Tra bod na "nerfusrwydd", a hynny'n naturiol, mae'r pennaeth Bronwen Hughes yn "edrych ymlaen".

Disgrifiad o’r llun,

Bronwen Hughes yw pennaeth Ysgol Maes Garmon

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn ac mae gynom ni blant sy'n edrych ymlaen at gychwyn bywyd ychydig yn fwy normal yn yr ysgol gyda gobaith," meddai.

"Ma'i 'di bod yn 18 mis llawn heriau, gweithdrefnau newydd, prosesau, gorfod gweithio mewn dulliau gwahanol hefyd, ond 'da ni gyd yn edrych ymlaen at gychwyn o'r newydd a gyda gobaith y gallwn ni fod yn fwy normal gyda'n gweithgareddau."

Gydag achosion a chyfraddau Covid-19 yn parhau i gynyddu mae Ms Hughes yn dweud ei bod hi'n "anochel" y bydd achosion Covid-19 mewn ysgolion dros y tymor sydd i ddod.

Er hynny mae hi'n dweud fod yr ysgol bellach wedi trosglwyddo'r gwaith o olrhain achosion i'r cyngor. Mae hynny, felly, yn galluogi i staff Maes Garmon ganolbwyntio ar les y plant a sicrhau eu bod nhw'n teimlo'n hapus yno.

Diwrnod cyntaf allweddol

Yn adran anghenion ychwanegol yr ysgol mae Llinos Ann Cleary yn paratoi'r ystafell ddosbarth ar gyfer disgyblion.

Mae hi hefyd wedi bod yng ngofal trosglwyddiad disgyblion Blwyddyn 6 ysgolion cynradd y dalgylch i'r ysgol uwchradd.

Ond oherwydd y pandemig dyw'r trefniadau arferol heb allu digwydd ac mae hynny'n golygu fod diwrnod cyntaf y tymor yn allweddol.

Disgrifiad o’r llun,

Llinos Ann Cleary yw pennaeth anghenion ychwanegol a throsglwyddo'r ysgol

"Yn amlwg mae 'na am fod lot o blant nerfus ac efallai yn fwy, rhieni nerfus," meddai Ms Cleary.

"Dydi trosglwyddo ddim wedi bod fel yr arfer. Fel arfer fasa 'na drip i Langrannog a fyddai plant yn cael dod yma am ddau ddiwrnod.

"Mae gyno ni griw trochi a fyddai nhw wedi bod yma am wythnos.

"Mae nhw wedi colli allan, do, ond 'da ni wedi cael cyfle i fynd i weld nhw yn eu hysgolion. A mae 'na blant bregus wedi dod rownd yr ysgol i gael rhagflas cyn cyrraedd felly fory - diwrnod hwyl, ymgartrefu, gwneud ffrindiau a dod i adnabod tiwtoriaid."

Yn ôl Ms Cleary mae'r dyddiau nesaf felly yn holl bwysig i ddisgyblion ifanc ac mae'n rhaid rhoi eu lles nhw fel blaenoriaeth wedi 18 mis caled wrth i Covid-19 darfu.

Mae lles "wedi gorfod bod yn ffocws beth bynnag", meddai.

"Os rywbeth, mae o wedi cryfhau a mae hyn rŵan yn gyfle i wneud hynny wyneb yn wyneb."

Wrth i'r ysgol baratoi i agor ei drysau fore Gwener y neges yn Ysgol Maes Garmon yw bod y staff yn barod i gefnogi disgyblion o bob oedran.

Tra bydd Covid yn parhau'n rwystr ac yn her, mae 'na obaith yma y bydd profiadau disgyblion dros y flwyddyn nesaf yn fwy llawn a chynhwysfawr na'r flwyddyn a fu.