Cynllun i droi hen ysgol yn llety gwyliau'n codi cynnen

  • Cyhoeddwyd
ysgol rowen

Mae cynnig i droi hen ysgol yn Sir Conwy yn llety gwyliau wedi gwylltio trigolion lleol.

Mae Ysgol Rowen wedi bod yn wag ers chwe mlynedd ac nawr mae cais i'w addasu'n llety moethus.

Ond mae nifer yn dadlau bod gormod o gartrefi gwyliau yn yr ardal bellach.

Yn ôl y datblygwyr, byddai cais ar gyfer defnydd arall i'r adeilad yn cael ei wrthod o dan Gynllun Datblygu Cyngor Sir Conwy.

Mae Cyngor Cymuned Caerhun ymhlith y rhai sydd wedi gwrthwynebu'n ffurfiol y cais cynllunio.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cadeirydd Jimmy Logan fod "gormod o lawer" o dai haf yn Rowen bellach

Y cadeirydd ydy Jimmy Logan. Dywedodd: "'Dan ni ddim isio fo'n holiday flats 'de. Ei wneud o'n ddau dŷ a rhent go rad, dyna 'dan ni isio.

"Mae 'na ddigon o dai haf yn Rowen - gormod o lawer - so dyna 'dan ni'n trio'i stopio.

"A 'dan ni isio pobl Cymraeg i gadw Cymraeg i fynd. Mae 'na gymaint o bobl Saesneg yn Rowen rŵan, mae Cymraeg yn marw.

"Does 'na ddim plant yn y pentref o gwbl rŵan. Rhyw hanner dwsin. Mae'r plant wedi tyfu i fyny. Mae eu rhieni nhw'n dal yma ond mae'r plant wedi symud i fyw i rywle arall."

Colled economaidd?

Bwriad y datblygwyr ydy troi'r hen ysgol yn llety pedair neu bum seren efo tair llofft.

Mae'r cynllun busnes yn nodi y gallai'r adeilad gael ei osod am hyd at fil o bunnau'r wythnos ym misoedd yr haf.

Mae'r datblygwyr yn sôn am wario dros £180,000 i addasu'r adeilad ac y byddai'r arian hwnnw'n debygol o fynd i gontractwr lleol.

Felly hefyd y gwaith cynnal a glanhau unwaith y byddai'r busnes ar ei draed.

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd Cyngor Conwy ar yr adeilad yn Rowen

Mae'r cais hefyd yn dadlau y byddai troi'r hen ysgol yn gartrefi parhaol yn golled economaidd i'r ardal.

Ond anghytuno mae Elin Hywel, Cadeirydd Pwyllgor Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

"Fysa preswylwyr mewn tai parhaol yn fwy tebygol o fod yn gwario'n lleol trwy gydol y flwyddyn," meddai.

"Yn fwy tebygol o fod yn gweithio'n lleol, yn debygol o fod â phlant fyse'n mynd i ysgol yn lleol ac efo'r potensial o gyfrannu i'r economi leol."

Pan ddaeth oes yr ysgol i ben yn 2011, mi aeth yr adeilad yn ôl i ddwylo perchennog gwreiddiol y tir, sef Ystâd Baron Hill, Biwmares. A'r Barwn heddiw, Syr Richard Williams Bulkeley sydd eisiau datblygu'r adeilad rŵan.

'Parchu barn y gymuned'

Mewn datganiad ar ei ran mae'r asiant, cwmni Owen Devenport, yn dweud eu bod yn "parchu barn a theimladau cryfion y gymuned leol", ond y byddai cais i ddatblygu tai ar y safle'n cael ei "wrthod" o dan Gynllun Datblygu'r cyngor Sir.

"Mae'r Cynllun Datblygu'n mynnu bod adeilad gwag yng nghefn gwlad yn cael ei ystyried yn gyntaf ar gyfer 'defnydd busnes'.

"Byddai cais i ddatblygu tai yma yn cael ei wrthod, oni bai bod modd dangos nad oes modd gwerthu'r adeilad ar gyfer defnydd fyddai'n creu cyflogaeth.

"Blaenoriaeth y perchennog ydy cynnal a rheoli adeilad deniadol sydd o ddiddordeb hanesyddol.

"Rydym yn gweithio gyda'r Cyngor Sir i ganfod defnydd addas iddo."

Mae Cyngor Sir Conwy yn dweud bod y cais i newid defnydd yr hen ysgol yn mynd drwy'r broses gynllunio arferol ar hyn o bryd.

Bydd y cyhoedd yn medru cyflwyno sylwadau tan 24ain o Fedi.

Pynciau cysylltiedig