71 achos o Covid wedi'u cysylltu â Gŵyl y Dyn Gwyrdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gŵyl y Dyn GwyrddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr ŵyl ei chynnal ym Mannau Brycheiniog ym mis Awst

Mae oddeutu 70 achos positif o Covid wedi cael eu cysylltu â Gŵyl y Dyn Gwyrdd - gŵyl gerddorol fwyaf Cymru a gafodd ei chynnal ym Mannau Brycheiniog fis diwethaf am y tro cyntaf ers y pandemig.

Fe ddenodd yr ŵyl dorf o oddeutu 25,000.

Wrth olrhain data dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 71 achos posib yn gysylltiedig â'r ŵyl ond nad oedd yr achosion o reidrwydd wedi cael eu trosglwyddo yn yr ŵyl - gallai rhai fod wedi cael eu trosglwyddo tra'n cymdeithasu ymhlith mynychwyr cyn y digwyddiad neu wrth deithio i neu adref o'r ŵyl.

Dywed y trefnwyr nad oes tystiolaeth gadarn i brofi bod yr achosion wedi'u trosglwyddo yn yr ŵyl.

Wrth gyrraedd safle'r ŵyl roedd hi'n ofynnol i fynychwyr ddangos prawf eu bod wedi'u brechu rhag Covid neu ganlyniad prawf llif unffordd negatif.

Dywed trefnwyr yr ŵyl bod y nifer o achosion yn unol â'r hyn y gellid ei ddisgwyl mewn tref yr un maint a Chrughywel - lleoliad yr ŵyl.

Mewn datganiad dywedodd Fiona Stewart bod holiadur a wnaed wedi'r digwyddiad "yn nodi bod pobl yn fodlon â'r trefniadau o ran Covid a'u bod yn teimlo'n ddiogel".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed trefnwyr yr ŵyl bod pobl yn teimlo'n ddiogel o ran diogelwch rhag Covid

Mae'r niferoedd yn llai na'r niferoedd sydd wedi cael eu cysylltu â gwyliau eraill yn ystod yr haf.

Ddechrau mis diwethaf cafodd 4,700 o achosion eu cysylltu â gŵyl Boardmasters yng Nghernyw - yn eu plith 56 achos gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Roedd 1,000 o achosion positif yn gysylltiedig â gŵyl Latitude yn Suffolk.

Bellach mae cyfradd yr achosion o Covid yng Nghymru yn 415.3 ymhob 100,000 ond mae arwyddion bod y niferoedd yn gostwng.

Mae nifer y rhai sy'n gorfod cael triniaeth ysbyty yng Nghymru ar eu huchaf ers mis Mawrth.