Cartref gofal yn defnyddio staff sydd â Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Ann Bedford yng nghartref gofal CaledoniaFfynhonnell y llun, Mandy Jones

Mae perchennog cartref gofal yng Nghaergybi yn dweud iddi orfod defnyddio staff oedd â Covid-19 oherwydd prinder gweithwyr gofal dros y penwythnos diwethaf.

Mae 12 o bobl yn byw yng nghartref Caledonia, ac roedd coronafeirws gan 11 ohonyn nhw.

Dywedodd y perchennog, Ann Bedford, nad oedd ganddi ddewis wedi i Gyngor Ynys Môn ddweud wrthi nad oedd staff addas ar gael, ac fe wnaeth dau aelod o'r staff arferol oedd wedi profi'n bositif am Covid gytuno i ddod i mewn i weithio ar y shifft nos.

Mae'r cartref yn arbenigo mewn gofal dementia.

Dywedodd Ms Bedford: "Doedd dim staff ar gael i ni. Mae hi'n broblem yn genedlaethol i recriwtio a chadw gofalwyr gofal cymdeithasol."

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones

Ychwanegodd ei bod wedi cysylltu gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Cafodd wybod ganddyn nhw nad oedd staff ganddyn nhw chwaith, ac fe gytunwyd y byddai staff gyda Covid yn gallu dod i mewn os oedden nhw'n teimlo'n ddigon da i wneud.

"Ers y penwythnos, maen nhw i gyd wedi bod i ffwrdd, a bore 'ma mae gen i un aelod o staff i 12 o drigolion," meddai.

"Dydyn ni erioed wedi cael crisis fel hyn o'r blaen... mae hi wastad yn broblem recriwtio, ond rwy'n credu bellach bod staff ar eu gliniau.

"Maen nhw'n ceisio cadw Covid allan o'u cartrefi eu hunain, ac mae'n effeithio ar eu bywyd cartref hefyd felly.

"Ry'n ni'n dibynnu ar asiantaethau. Mae ein trigolion i gyd angen gofal cymdeithasol - mynd i'r tŷ bach, gwisgo a'r math yna o beth - ac maen nhw i gyd wedi cael dau ddos o'r brechlyn.

"Er eu bod yn sâl, does yr un wedi gorfod mynd i'r ysbyty.

"Mae'r hyn ddigwyddodd i mi yn codi ofn ar bawb [perchnogion cartrefi gofal eraill] - fe wnaethon ni frwydro mor galed i gadw Covid allan o'r cartrefi, ond mae llawer o gartrefi wedi ei gael o."

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwybod bod y sector o dan bwysau eithafol ond rydym yn bryderus i glywed bod staff yn cael eu gofyn i weithio er eu bod wedi profi'n bositif am Covid.

"Rydym yn ymchwilio i amgylchiadau'r achos yma.

"Rydym yn parhau i gefnogi'r sector yn ystod y cyfnod anodd yma ac wedi darparu £50m ychwanegol i awdurdodau lleol i helpu delio gyda sialensiau staffio," ychwanegodd.