Cynllun i groesawu'r gymuned yn amlach i'r addoldy
- Cyhoeddwyd
Creu canolfan gymunedol fywiog yn ogystal ag addoldy - dyna fwriad un o gapeli gorllewin Sir Gâr wrth sefydlu prosiect newydd sbon.
Mae Bethlehem Newydd ym mhentref Pwll-trap ger Sanclêr yn un o bump o gylchoedd eglwysig sydd wedi cael arian o gronfa Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr.
Gyda'r arian hwnnw, mae Eglwys Bethlehem Newydd wedi penodi swyddog cymunedol, ac mae Annalyn Davies newydd ddechrau ar ei gwaith.
"Prif bwrpas yr adeilad o hyd fydd addoli," eglura, "ond nawr, ni eisie croesawu'r gymuned i mewn, nid dim ond defnyddio'r adeilad ar y Sul ac ar gyfer oedfaon.
"A hefyd ni eisie ymestyn y gwaith dyngarol, sy' eisoes ar waith yma. Ni eisie ymestyn hynny i weithredu yn y gymuned fel bo' chi'n gallu gweld ffydd ar waith yn ymarferol."
Trawsnewidiad ar y gweill
Ar furiau allanol Capel Bethlehem Newydd, mae'n nodi fod yr adeilad wedi ei adnewyddu yn 1833 ac yna yn 1909. Ymhell dros ganrif yn ddiweddarach, mae gwaith adnewyddu ar y gweill yma eto.
"Un enghraifft yw sefydlu banc bwyd," meddai Annalyn Davies.
"Ni'n rhoi i'r banc bwyd yng Nghaerfyrddin eisoes ond wi'n siŵr fod angen yn lleol fan hyn.
"Enghraifft arall yw bod yn ddementia gyfeillgar - [ni'n] gobeithio sefydlu caffi bach a chael clonc.
"Mae'r tu mewn yn mynd i gael ei drawsnewid, nid yn unig gydag offer technegol, ond tynnu rhai or corau mas a chael seddau cyfforddus yn eu lle."
Mae'r fenter yn cael ei hariannu gan Raglen Arloesi a Buddsoddi, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg sy'n cynnig nawdd o hyd at £10,000 dros gyfnod o bum mlynedd. Mae pedwar cylch eglwysig arall hefyd wedi derbyn nawdd yn y rownd ariannu gyntaf.
Robin Samuel yw Swyddog Cynnal ac Adnoddau De Cymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Dywedodd bod y rhaglen wedi ei lansio ddiwedd 2020 "gyda'r nod o annog eglwysi i fentro mewn ffyrdd newydd ac arloesol o hyrwyddo a chyhoeddi'r Efengyl, ac estyn allan i wasanaethu eu cymunedau.
"O ystyried y cyfyngiadau a fu ar yr eglwysi i ddod at ei gilydd i drafod, bu'r ymateb yn galonogol iawn gyda 11 o eglwysi yn cyflwyno ceisiadau.
"Gwnaeth pump o'r ceisiadau argraff ar y panel. Roedd pedwar ohonynt yn geisiadau i gyflogi gweithiwr i weithio yn y gymuned leol dros gyfnod o bum mlynedd, ac [mae] un eglwys am ddatblygu darn o dir i fod yn yn ardd gymunedol ac ecolegol, sy'n ddementia gyfeillgar."
'Bywiogrwydd newydd'
Yn ôl gweinidog Bethlehem Newydd, y Parchedig Rhodri Glyn Thomas, mae'r ymateb i'r prosiect yn galonogol tu hwnt.
"O sicrhau fod nifer o aelodau yn rhan o'r weithgaredd yma, ry'n ni wedi ffeindio bod 'na fywiogrwydd newydd o fewn y gynulleidfa," meddai.
"Wrth i ni ddychwelyd i addoli wedi'r cyfnod clo, roedden ni'n teimlo bod yn rhaid i ni ymestyn y gweithgareddau.
"A hefyd, mae'n codi o'r ffaith fod cynifer o gynulleidfaoedd nawr yn heneiddio ac yn lleihau, a'u bod yn gorfod canolbwyntio ar gadw drws y capel ar agor.
"Mae'n rhaid canmol eu dyfalbarhad ond mae 'na fwy na hynny i fodolaeth capel o fewn cymuned.
"Roedd capeli yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf yn ganolbwynt gweithgareddau o fewn y gymuned, ond mae'n nhw 'di mynd yn fwy a mwy ynysig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
- Cyhoeddwyd9 Awst 2021
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020