Apêl heddlu ar ôl difrod i gofeb Hedd Wyn, Trawsfynydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n apelio am help y cyhoedd i ddod o hyd i bobl yn gysylltiedig â difrod i gofeb Hedd Wyn ynghanol Trawsfynydd.
Dywedodd y llu eu bod wedi derbyn galwad ar brynhawn Iau, 26 Awst yn dweud fod paent wedi'i daflu ar y gofeb.
Maen nhw bellach wedi wedi cyhoeddi dau lun oddi ar fideo cylch cyfyng (CCTV).
Mae'r heddlu hefyd yn dweud fod y difrod wedi'i achosi yn oriau mân fore Mercher, 25 Awst.
"Os ydych chi'n adnabod y bobl yn y delweddau, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth a allai ein helpu, cysylltwch â'r heddlu gan ddyfynnu cyf z125786," meddai'r llu.
Mae'r gofeb i fardd y gadair ddu wedi'i lleoli ar ffordd Pen y Garreg yng nghanol Trawsfynydd.

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2021
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2018