A-Z Geiriadur Prifysgol Cymru: 100 mlynedd mewn 30 gair
- Cyhoeddwyd
Geiriadur hanesyddol yw Geiriadur Prifysgol Cymru, ac mae'n rhoi darlun gwych i ni o sut mae'r iaith Gymraeg wedi datblygu ar hyd y canrifoedd, o'i dechreuad yn y bumed a'r chweched ganrif pan esblygodd o'r iaith Frythoneg.
Erbyn heddiw mae wedi datblygu'n iaith gadarn a chyhyrog, yn abl i drafod ystod eang o bynciau yn gwbl hyderus.
Fel yn achos pob iaith lwyddiannus, ceir iddi hanes hir o fenthyg, o wrthod, o roi o'r neilltu, ac o ddyfeisio a bathu wrth iddi addasu i heriau'r dydd ar hyd y canrifoedd. Gallwn fod yn hyderus nad unrhyw wendid yn ei geirfa sy'n bygwth dyfodol yr iaith Gymraeg!
Wrth ddathlu Canmlwyddiant Geiriadur Prifysgol Cymru, mae'r Athro Ann Parry Owen, Golygydd Hŷn Geiriadur Prifysgol Cymru wedi rhannu detholiad o 28 gair (hollol ddigyswllt), pob un yn cychwyn â llythyren wahanol o'r wyddor, gyda dau ychwanegol nad ydynt yn perthyn i'r wyddor swyddogol (j a z). Bydd rhai o'r geiriau'n ddigon cyfarwydd i chi, ond bydd eraill yn fwy dieithr.
Hen air am wartheg oedd ALAF. Yng nghymdeithas amaethyddol y gorffennol ystyrid buwch fel arian, ac felly gallai alaf olygu cyfoeth yn syml, fel y gwna cyfalaf heddiw. Does ryfedd felly fod y gair Llydaweg am wartheg, sef saout, wedi tarddu o'r un gair Lladin solidus 'darn arian' ag a roddodd i ninnau'r gair swllt yn y Gymraeg.
bwyllwr, bwyllwrw, dolen allanol
Hen air da o'r Oesoedd Canol, a allai fod yn ddefnyddiol heddiw, yw BWYLLWR neu BWYLLWRW. Ei ystyr yw cyflenwad bwyd ar gyfer llwrw, sef ffordd neu lwybr. Snacs ar gyfer taith, os mynnwch!
Mae'n anodd credu, ond gair a fathwyd gan ysgolhaig yn y 1950au i gyfateb i 'communicate' yw CYFATHREBU. Mae'n fathiad gwych ac yn un a ddefnyddiwyd yn helaeth o'r cychwyn cyntaf. Mae'n seiliedig ar cyfathr- (fel sydd yn y gair cyfathrach) a hebu 'siarad' (fel sydd yn gohebu, a hefyd ebe, a ddefnyddir mewn storïau wrth nodi'r siaradwr).
Mae rhai geiriau sy'n cael eu bathu yn cael eu gwrthod yn llwyr gan siaradwyr yr iaith, er mor ddyfeisgar ydynt. 'Digwyddodd, darfu, megis seren wib' (chwedl R. Williams Parry) fu hanes CHWEGNWYDDWR, gair a fathwyd ar ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg am groser: un sy'n gwerthu nwyddau (nwydd) melys neu ddymunol (chweg).
'Drythyll maen yn llaw eiddil', meddai hen ddihareb a gofnodwyd yn Llyfr Coch Hergest tua 1400. Ansoddair i ddisgrifio rhywbeth gwyllt neu lawn bywyd yw DRYTHYLL (weithiau yn y ffurf trythyll). 'Gwyllt yw carreg yn llaw person eiddil' yw ystyr lythrennol y ddihareb - mewn geiriau eraill, cadwch yn glir o blant bach sy'n taflu cerrig!
Dyma chweched lythyren yr wyddor ond yn anaml y'i ceir hi ar ddechrau gair, ac eithrio fel ffurf dreigledig d. Wedi dweud hynny, mae DDOE yn digwydd yn llawer amlach wedi ei dreiglo nag yn ei ffurf gysefin, doe.
Y diwrnod cyn ddoe yw ECHDOE, gyda'r elfen ech yn hen arddodiad yn golygu 'allan o' (sy'n perthyn yn y pen draw i'r Lladin ex). Mae echdoe, fel trennydd (y diwrnod ar ôl fory), a thradwy (dau ddiwrnod ar ôl fory) yn eiriau bach hynod o ddefnyddiol a llawer mwy cryno na'r ymadroddion cyfatebol yn Saesneg.
Mor ddu â bol buwch, …â huddygl, …â'r fagddu. Mae ystyr y ddau gyntaf yn ddigon amlwg, ond beth yw'r FAGDDU? Afagddu oedd y ffurf wreiddiol, sef llysenw a roddwyd ar y cymeriad chwedlonol Morfran fab Tegid Foel, gan mai ef oedd y dyn hyllaf yn yr holl fyd. Gydag amser daeth afagddu i olygu tywyllwch neu ddüwch eithaf, ac fe drodd afagddu yn y fagddu ar lafar, fel y trodd Abermaw yn Y Bermo.
'Pwy bynnag a fo rhy fras, yfed y FFENIGL, a hynny a'i culha' yw cyngor un o'r testunau meddygol canoloesol a gysylltwn â Meddygon Myddfai. Hynny yw, mae yfed sudd ffenigl 'fennel' yn effeithiol ar gyfer y sawl sy'n rhy dew (bras) ac am golli pwysau (culhau).
Syr Thomas Wiliems o Drefriw oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair GEIRIADUR, a hynny wrth ddisgrifio'i eiriadur Lladin-Cymraeg (a ysgrifennodd yn 1604-7), fel 'Geiriadur cywoethocaf a helaethaf o'r wir ddilediaith Frytanaeg'. Dyma rai geiriau eraill a ddefnyddiwyd gan eiriadurwyr dyfeisgar eraill ar hyd y canrifoedd am eu gwaith: cyneirlyfr, dicsionari, dweudedyn, geirgrawn, geirlyfr, geiriog, ieithiadur.
Yn ei ffurf dreigledig yn unig y ceir ng ar ddechrau gair, fel yn y cyfuniad YNG NGŴYDD, lle mae gŵydd yn golygu 'golwg, wyneb' neu 'bresenoldeb', fel yn yr hen ymadrodd gŵydd yng ngŵydd sy'n golygu 'wyneb yn wyneb'.
Gair tafodieithol o'r de-orllewin yw HWDA, ffurf ar y gair chwydfa a ddefnyddid am yr hyn y mae afon yn ei adael ar ei hôl (yn ei 'chwydu') ar y tir ar ôl iddi orlifo'i glannau'n dilyn glawiad trwm.
Ystyrid dydd IAU yn ddiwrnod ffodus a hapus ers talwm. Benthyciad drwy'r Frythoneg yw Iau o'r Lladin (dies) Jovis, gyda Jovis yn ffurf ar enw'r prif dduw Rhufeinig, Jupiter. Ei enw hefyd a welir yn jeudi, y gair Ffrangeg am ddydd Iau, yn ogystal ag yn y Saesneg jovial.
'Gymri di joe?' fyddai fy nain (o Gapel Garmon) yn gofyn i mi'n ddi-ffael adeg y Nadolig, wrth gynnig ei chyflaith blynyddol. Hyd y cofiaf ni ddefnyddiai'r gair am unrhyw fferan neu losin arall, dim ond am daffi. Rhywbeth i'w gnoi yw JOE, a daw'r gair o ffurf ar y Saesneg chew. Nid yw j yn llythyren swyddogol yn yr wyddor Gymraeg, a byddai'r hen ysgrifwyr yn aml yn cyfleu'r sain â ds neu ts.
Daw LIMPIN o'r Saesneg linch-pin, y pin sy'n dal olwyn yn ei lle ar echel. Felly os ydach chi'n 'colli eich limpin', rydych chi'n gwylltio ac yn colli rheolaeth arnoch eich hun (fel y gwna cerbyd wedi colli olwyn).
Torri oedd un o brif ystyron LLADD ers talwm - lladd eithin, lladd mawn a hyd yn oed lladd coed, yn yr ystyr o'u cwympo neu eu torri i lawr. Dyna pam rydan ni'n parhau i ladd gwair heddiw.
Mae rhai geiriau, fel MIGN, yn fwy cyfarwydd i ni bellach fel elfennau mewn enwau lleoedd nag yn yr iaith lafar. Tir gwlyb neu gorsiog yw mign neu fignen, ac yn y pen draw mae'r gair yn perthyn i'r Lladin mucus 'llysnafedd'. Dyma'r elfen a welir yn y Migneint, y mynydd-dir corsiog ger Ffestiniog ac Ysbyty Ifan, ac yn Llyn y Fignen Felen ychydig i'r gogledd o Frynaman.
Dysgl neu bowlen fas o gryn faint, ac fel arfer o bren, oedd y NOE a ddefnyddid yn helaeth mewn cartrefi ers talwm i wneud menyn, i dylino toes, i halltu cig moch ac ati. Efallai y cofiwch mai 'ar dal noe' yr eisteddai'r ddrudwen fechan a ddaeth yn ffrind i Branwen yn ail gainc y Mabinogi, ac a yrrwyd ganddi dros y môr o Iwerddon i Gymru i hysbysu ei brawd, Brân, am greulondeb ei gŵr, Matholwch, tuag ati.
Er mor fach yw'r arddodiad O, dyma fu un o'r geiriau mwyaf trafferthus yn y Geiriadur, a golygodd fisoedd o waith i'r golygyddion a fu'n gweithio arno. Mae'r erthygl yn cynnwys 76 o adrannau sy'n esbonio'i ystyron gwahanol, gyda channoedd o ddyfyniadau yn enghreifftio'r ystyron hynny. Pan orffennwyd y gwaith, bu'n rhaid dathlu yn y modd mwyaf priodol - gyda mint polo!
'Gwlad' yw ystyr PAU, gair cyfarwydd iawn i ni o'n hanthem genedlaethol: 'Tra môr yn fur i'r bur hoff bau'. Mae'n un o'r nifer o eiriau a fenthyciwyd yn gynnar i'r Frythoneg o'r iaith Ladin, cyn mynd yn rhan o eirfa'r Gymraeg. Yr un gair Lladin pāgus a roddodd pays yn yr iaith Ffrangeg, fel yn Pays de Galles.
Fel arfer daw'r geiriau sy'n cychwyn â ph yn y Gymraeg yn wreiddiol o'r iaith Roeg, ac fe'u benthyciwyd i'r Gymraeg naill ai drwy'r Lladin neu'r Saesneg. Fel PHILISTIAD. Dyma air sy'n digwydd gyntaf ym Meibl William Morgan yn 1588 (gyda Ph fawr) am un o'r bobl a wrthwynebai'r Israeliaid ym Mhalesteina, ond erbyn heddiw, fe'i defnyddiwn (gyda ph fach) am rywun sy'n ddi-hid am ddiwylliant.
Geiriau benthyg o'r Saesneg sydd fel arfer yn cychwyn ag r, fel RWDINS, gair cyffredin am swêds neu weithiau erfin. Daw o'r Saesneg rootings a ddefnyddid am wreiddlysiau a dynnid o'r ddaear. Datblygiad pellach yn y Gymraeg wrth gwrs oedd y ffurf unigol rwdan neu rwden, fel yn y cyfuniad pen rwdan am berson gwirion!
Defnyddiwn RHAD heddiw am rywbeth nad yw'n ddrud, rhywbeth tsiêp; ond ers talwm golygai unrhyw beth a roddid yn 'rhodd' neu 'am ddim'. Felly ysgol rad oedd ysgol elusennol, nad oedd angen talu i'w mynychu, a chinio ysgol rhad yw cinio 'am ddim'. Gall fod gwahaniaeth mawr rhwng 'tsiêp' ac 'am ddim', felly i osgoi unrhyw ansicrwydd dechreuwyd defnyddio'r ymadrodd 'yn rhad ac am ddim' i wneud y sefyllfa'n hollol glir!
Gair a fenthyciwyd o'r Saesneg gibberish yn y ddeunawfed ganrif yw SIPRYS, ac mae'n digwydd yn gyffredin am gymysgedd neu gawdel. Bara siprys yw bara'n cynnwys hadau cymysg (gair da am fara 'multi-grain'!); capel siprys yw un sy'n croesawu aelodau o enwadau amrywiol; a Chymraeg siprys yw bratiaith, Cymraeg sy'n cynnwys ysgeintiad go dda o eiriau Saesneg.
Mae TRYDAN yn un o'r nifer o eiriau llwyddiannus a fathodd y geiriadurwr dyfeisgar William Owen-Pughe ac a welir gyntaf yn ei eiriadur a gyhoeddwyd mewn rhannau rhwng 1793 ac 1803. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am fathu'r geiriau arddull, arlywydd, awyren, diddorol, ffaith, ffrwydro, a llu o eiriau eraill sydd bellach yn rhan naturiol o'n hiaith bob dydd.
Fel gydag ph, geiriau o'r iaith Roeg, wedi eu benthyg fel arfer drwy'r Saesneg, yw nifer fawr o'r geiriau sy'n cychwyn â'r llythyren th yn y Gymraeg, er enghraifft THEATR (Groeg theatron) sy'n digwydd gyntaf yn y Gymraeg ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, a theïstiaeth (Groeg theos 'duw'). Mae eraill yn seiliedig ar enwau personol, fel Thatcheraidd (o'r enw Margaret Thatcher).
Mae'n amlwg fod y rhifolyn UGAIN wedi bod yn bwysig wrth gyfrifo yn y Gymraeg yn y gorffennol, fel y dengys deugain (dau ugain, 40), trigain (tri ugain, 60), pedwar ugain (80), chweugain (120) a hyd yn oed pymtheg ugain (300). Mae un o'm cyd-olygyddion yn y Geiriadur, sy'n enedigol o gyffiniau Tregaron, yn defnyddio whigen ('chweugain') am ddarn 50c, sy'n cyfateb, wrth gwrs, i'r hen 10 swllt neu 120 o hen geiniogau.
'Nifer fawr' yw ystyr WMBRETH, a ddefnyddir yn gyffredin yn y cyfuniad peth wmbreth. Daw, mwy na thebyg, o'r Saesneg umber, ffurf ar number, gyda number wedi yn troi yn an umber weithiau yn yr iaith honno, fel y trodd nadder (sy'n perthyn i'r Gymraeg neidr) yn an adder.
Llety neu loches oedd hen ystyr YSBYTY: tŷ neu lety i ysbyd 'gwesteion' gael lloches dros dro - gydag ysbyd yn dod o'r Lladin hospites. Felly lle i ysbyd gael ysbaid! Dyna'r ystyr yn yr enw lle Ysbyty Ifan, lle cynigiai Marchogion Urdd yr Ysbyty loches i bererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli. Gydag amser daeth ysbyty i'w gysylltu'n fwyfwy â chleifion. Ceir datblygiad ystyr tebyg i'r gair hospital yn Saesneg.
Prin iawn yw'r geiriau sy'n cychwyn â z, gan i'r llythyren droi'n naturiol yn s yng ngenau Cymry (a oedd yn ei chael hi'n anodd i wahaniaethu rhwng y ddwy lythyren), felly aeth zoo yn sŵ. Yr eithriad yw ambell i air sy'n seiliedig ar enw person, fel ZWINGLÏAIDD, y gair olaf un yn y Geiriadur, sy'n ansoddair o'r enw Zwingli, enw diwygiwr crefyddol o'r Swistir, Ulrich Zwingli (1484-1531).