Bachgen dwy oed wedi marw ar ôl cael ei foddi

  • Cyhoeddwyd
Reid SteeleFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Bu farw bachgen dwy oed o Ben-y-bont wedi iddo gael ei ddal o dan ddŵr, clywodd cwest ddydd Gwener.

Cafodd Reid Steele ei ddarganfod yn anymwybodol ar lawr ystafell ymolchi ei gartref ar nos Fercher 11 Awst.

Ni lwyddodd meddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru i'w adfywio.

Mae ei fam Natalie Steele, 31 oed ac o Broadlands, Pen-y-bont, wedi'i chyhuddo o'i lofruddiaeth.

Clywodd y cwest: "Cafodd ei ddarganfod gan ei nain yn anymwybodol ar lawr yr ystafell ymolchi ar ôl cael ei ddal o dan ddŵr y bath."

Cafodd Reid ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ond fu farw yno ar 12 Awst.

Yn ôl archwiliad post-mortem, achosion ei farwolaeth oedd "enseffalopathi hypocsig-isgemig ac ataliad ar y galon".

Wrth agor y cwest, dywedodd y crwner Graeme Hughes: "Mae gen i reswm i gredu bod y farwolaeth yn dreisgar neu'n annaturiol."

Cafodd y cwest ei ohirio tan i'r achos troseddol ddod i ben.