Mwy o gynghorwyr i Ynys Môn yn yr etholiadau lleol nesaf

  • Cyhoeddwyd
Pont Menai a PorthaethwyFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd gan Ynys Môn fwy o gynghorwyr yn dilyn yr etholiadau lleol nesaf, yn ôl cynlluniau sydd nawr wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd dim ond 30 o gynghorwyr sir sydd gan yr ynys - y nifer lleiaf ymhlith awdurdodau lleol Cymru - ond bydd hynny yn cynyddu i 35 y flwyddyn nesaf.

Fe fydd ffiniau rhai o'r wardiau hefyd yn newid, a hynny mewn pryd ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai 2022.

Bydd y map newydd yn cynnwys 14 ward yn hytrach nag 11 - pob un ag unai dau neu dri chynghorydd - gyda'r newidiadau yn effeithio'n bennaf ar ardaloedd yng ngorllewin a chanol yr ynys.

Newid eto

Dyma'r ail waith i fap etholaethol yr ynys newid o fewn degawd, a hynny wedi i gomisiynwyr Lywodraeth Cymru gymryd rheolaeth yn 2013 a lleihau nifer y cynghorwyr o 40.

Bryd hynny roedd yn cael ei weld fel ymgais i geisio ffrwyno cynghorwyr annibynnol oedd wedi bod yn cystadlu am ddylanwad ar yr ynys, gan ffafrio pleidiau gwleidyddol yn lle hynny.

Bydd saith o'r wardiau newydd nawr yn ethol dau gynghorydd, a saith yn ethol tri chynghorydd.

Ymhlith y llefydd fydd yn gweld newidiadau mae Caergybi, fydd yn cael ei rhannu'n ddwy ward o ddau aelod yn hytrach nag un ward o dri.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y map arfaethedig ar gyfer wardiau newydd Cyngor Ynys Môn

Bydd ward newydd hefyd yn dod i fodolaeth yng nghanol yr ynys, gyda Llangefni a Llangristiolus yn cyfuno i greu 'Cefni'.

Fe fydd ward bresennol 'Llifon' hefyd yn cael ei diddymu, gyda wardiau dau-aelod newydd yn cael eu creu - 'Crigyll', fydd yn cynnwys Trewalchmai, Bryngwran a Llanfaelog, a 'Bro'r Llynnoedd' yn cynnwys cymunedau Caergeiliog, Y Fali a Bodedern.

Dywedodd prif weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Shereen Williams y byddai'r newidiadau'n golygu "gwell cydraddoldeb etholiadol ar draws Ynys Môn".

"Rydw i wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn gydag addasiadau bychan yn unig," meddai.