Sefydlu elusen er cof am griw cwch y Nicola Faith

  • Cyhoeddwyd
Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrathFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Diflannodd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath wrth bysgota ym mis Ionawr

Mae teuluoedd tri physgotwr a fu farw pan suddodd eu cwch ger arfordir y gogledd yn bwriadu sefydlu elusen i wella diogelwch ar y môr er cof amdanyn nhw.

Bu farw Ross Ballantine, 39, Alan Minard, 20, a'r capten Carl McGrath, 34, pan suddodd eu cwch - y Nicola Faith - ger Bae Colwyn ym mis Ionawr.

Mae perthnasau'r tri wedi cefnogi ei gilydd ers diflaniad y cwch, ac maen nhw nawr yn dweud eu bod yn ystyried ffyrdd o weithio gyda sefydliadau fel yr RNLI er mwyn sicrhau na fydd trychineb tebyg yn digwydd eto.

Mewn pennod o gyfres deledu am yr RNLI yr wythnos hon, mae criwiau badau achub yn siarad am eu rhwystredigaeth nad oedden nhw wedi medru dod o hyd i'r Nicola Faith na'i chriw pan suddodd i ddechrau.

Roedd hi'n chwe wythnos cyn i'w cyrff ddod i'r lan yng ngogledd-orllewin Lloegr, ac ni chafwyd hyd i'r cwch am rai wythnosau yn rhagor yn gynnar ym mis Ebrill.

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) yn ystyried pam y suddodd y cwch.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i rafft achub y Nicola Faith ddechrau Mawrth oddi ar arfordir Yr Alban

Dywedodd teuluoedd y tri fu farw eu bod am sefydlu elusen er mwyn sicrhau bod unrhyw argymhellion yn yr adroddiad swyddogol i'r digwyddiad yn cael eu gweithredu yn y tymor hir.

Yn ôl Nathania Minard, mam Alan Minard: "Mae'n ddyddiau cynnar... ry'n ni wedi gosod tasg enfawr i'n hunain ac yn cymryd camau bychain tuag at hynny.

"Ry'n ni am chwilio am rywbeth positif i ddod o hyn, nid dim ond er mwyn ein lles ein hunain ond er mwyn i'r cymunedau wella hefyd ac er mwyn ceisio atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd eto.

"Ry'n ni wedi cefnogi'n gilydd o'r dechrau, ac roedd yn teimlo fel y peth iawn i wneud i gario 'mlaen felly.

"I mi'n bersonol, megis dechrau mae'r galaru, a dyna pam mae'n bwysig i ni geisio canfod rhywbeth positif i ganolbwyntio arno."

Ffynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Criw bad achub Y Rhyl oedd un o'r rhai fu'n chwilio am y Nicola Faith

Ym mhennod yr wythnos hon o raglen Saving Lives At Sea mae criwiau badau achub Llandudno a'r Rhyl yn edrych 'nôl ar yr ymgyrch wreiddiol i chwilio am y Nicola Faith, a'u teimladau pan fethon nhw ddod o hyd i'r cwch na'r criw.

Dywedodd Andrew Wilde o griw Y Rhyl: "Pan mae gwylwyr y glannau'n gwneud y penderfyniad i roi'r gorau i chwilio, mae'n anodd iawn derbyn hynny.

"Ry'n ni'n meddwl am y teuluoedd - doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd... doedden ni ddim chwaith.

"Mae'n deimlad ofnadwy bod yna ddim byd mwy y gallwch chi ei wneud."

Bydd Saving Lives at Sea yn cael ei dangos ar BBC Two am 20:00 nos Fawrth, 21 Medi, ac ar BBC Two Wales am 19:00 nos Fercher, 22 Medi.