'Dim rheswm' dros beidio canfod y Nicola Faith yn gynt

  • Cyhoeddwyd
Y Nicola Faith yng nghei Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Methodd y Nicola Faith â dychwelyd i'r cei yng Nghonwy

Cafodd cwch o ogledd Cymru oedd ar goll am dros ddeufis ei ddarganfod 177m o'r lleoliad y gwelwyd ddiwethaf, yn ôl arbenigwr ymchwiliadau morol.

Methodd y cwch a'r tri physgotwr oedd arni - Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath - â dychwelyd i harbwr Conwy ar 27 Ionawr.

Cafodd cyrff y tri eu hadnabod yn ffurfiol wedi iddyn nhw gael eu darganfod oddi ar yr arfordir rhwng Cilgwri a Blackpool ganol Mawrth.

Cadarnhaodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) mai cwch y Nicola Faith oedd wedi cael ei ddarganfod ddydd Mawrth.

Dywedodd yr arbenigwr ymchwiliadau morol David Mearns bod "dim rheswm" pam na fyddai'r cwch wedi gallu cael ei ddarganfod yn gynt wrth ystyried ei leoliad.

Roedd Mr Mearns yn arwain ymchwiliad preifat yn edrych am y cwch, ond yr MAIB ddaeth o hyd iddo yn y diwedd, mewn dyfroedd bas llai na dwy filltir o arfordir Bae Colwyn.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alan Minard yn 20 oed, Ross Ballantine yn 39 a Carl McGrath yn 34

Yn siarad ar BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd Mr Mearns: "Cafodd y cwch ei ganfod ond 177 metr i ffwrdd o'r safle olaf roedden yn gwybod am y cwch.

"Felly roedd dal ble gollon nhw signal, ble dylai pawb wedi gwybod roedd y cwch o'r dechrau.

"Felly, y casgliad terfynol yw, oes, does dim rheswm pam na ddylai'r cwch wedi cael ei ganfod yn gyflymach."

'Dim difrod amlwg'

Ar ôl edrych ar luniau sonar o'r cwch, mae Mr Mearns o'r farn nad oes unrhyw esboniad amlwg am suddiad y cwch.

"Mae corff y cwch yn edrych fel ei fod mewn un rhan, gallwn weld yr ochr dde i gyd, ac o'r lluniau sonar, mae'r cwch yn edrych yn gyflawn, ac mae'r holl brif nodweddion yna," meddai.

"Ar un adeg, roedd pobl yn poeni bod y cwch wedi troi drosodd, felly byddai'r mast sonar wedi cael ei ddifrodi, ond mae'r rheiny yna.

"Galla'i weld dim difrod amlwg, mae'n edrych yn iawn - sy'n codi mwy o gwestiynau - am pam suddodd y cwch, mewn dŵr bas, a ddim yn bell iawn o'r arfordir."

Ffynhonnell y llun, Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB)
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos lle daethpwyd o hyd i'r Nicola Faith wedi suddo

Ymwelodd arolygwyr MAIB â lleoliad y cwch ddydd Mawrth, 1.9 milltir fôr o'r tir agosaf yn Llandrillo-yn-Rhos, i'w adnabod yn ffurfiol.

Roedd aelodau Tîm Chwilio Tanddwr Heddlu Gogledd Cymru yno i'w cynorthwyo, gan gynnal arolwg cynhwysfawr ar eu rhan.

Fel rhan o'r arolwg cafodd tystiolaeth fideo a gwybodaeth eu casglu ar gyfer yr ymchwiliad i ddiflaniad y cwch.

Dywedodd datganiad MAIB: "Wedi adolygiad o'r holl dystiolaeth, gan gynnwys delweddau'r deifwyr, bydd yna benderfyniad ynghylch camau nesaf yr ymchwiliad."

Ychwanegodd Andrew Moll, Prif Arolygydd MAIB ddydd Mawrth: "Rwy'n deall pa mor daer am atebion y mae teulu'r criw, a nawr bod y cwch wedi ei ddarganfod fe all ein hymchwiliad ganolbwyntio ar gadarnhau pam wnaeth y Nicola Faith suddo.

"Mae swmp mawr o dystiolaeth wedi ei gasglu a'i ddadansoddi eisoes, a dylai golwg manwl at ganlyniadau plymiad heddiw gynyddu ein dealltwriaeth o'r ddamwain yma.

"Nes y bydd hynny wedi ei gwblhau, mae'n amhosib dweud a fydd rhaid codi'r dryll llong ar gyfer rhagor o brofion."

Pynciau cysylltiedig