Lleiafrifoedd yn 'llai tebygol o gael cynnig prifysgol'

  • Cyhoeddwyd
myfyrwyr

Gallai cyflwyno cwotâu sicrhau bod mwy o ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig yn cael cynnig llefydd ym mhrifysgolion Cymru, yn ôl academydd.

Mae dadansoddiad gan y BBC wedi canfod bod pobl o leiafrifoedd ethnig sy'n gwneud cais am gwrs israddedig ym mhrifysgolion Cymru yn llai tebygol o gael cynnig lle nag ymgeiswyr gwyn.

Yn ôl Dr Jason Arday o Brifysgol Durham, sy'n astudio hiliaeth mewn addysg, mae yna batrwm penodol.

Dywedodd UCAS, sy'n prosesu cynigion, y gallai addysg uwch wneud mwy i hybu cydraddoldeb.

Beth mae'r data'n ei ddweud?

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod sefydliadau yng Nghymru ar gyfartaledd yn cynnig mwy o lefydd i ymgeiswyr gwyn nag ymgeiswyr du.

Roedd ymgeiswyr o gefndir Asiaidd neu gymysg neu ethnigrwydd 'arall' hefyd yn llai tebygol o gael cynnig lle yn y rhan fwyaf o brifysgolion.

Roedd gan un prifysgol o Gymru - Prifysgol Glyndŵr Wrecsam - gyfradd cynigion uwch i ymgeiswyr Asiaidd na rhai gwyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae myfyrwyr o gefndir ethnig yn llai tebygol o gael lle ar gyrsiau, medd data newydd

Yn ôl Dr Jason Arday, athro cymdeithaseg ym Mhrifysgol Durham, mae'r ffigyrau'n dangos bod yna "anfantais systematig i rai grwpiau lleiafrifol" o fewn addysg uwch.

"Rydyn ni'n gwybod bod tuedd," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod bod y pethau hyn yn gallu digwydd wrth i dimau mynediad wneud penderfyniadau... neu wrth i arweinwyr cyrsiau lunio barn am y mathau o fyfyrwyr y maen nhw eisiau.

"Mae gan fyfyrwyr du a lleiafrifoedd ethnig y graddau ond dy'n nhw ddim yn cael lle ar y cyrsiau hyn.

"Does dim tegwch yn y broses yna."

Er gwaethaf "natur broblematig" systemau cwotâu dywedodd y gallai "gweithredu cadarnhaol" helpu wrth arwain at fwy o amrywiaeth.

Yn ogystal ag ethnigrwydd mae yna wahaniaethau eraill yn y cyfraddau cynigion.

Mae ymgeiswyr o ardaloedd mwy difreintiedig yn llai tebygol o gael gynnig lle prifysgol, o'i gymharu ag ymgeiswyr mwy breintiedig.

Mae'r data hefyd yn dangos bod gan holl brifysgolion Cymru gyfradd cynnig uwch ar gyfer dynion na menywod, er bod mwy o fenywod yn gwneud cais am le mewn prifysgol.

Dydy'r gyfradd is ddim yn golygu bod llai o fenywod yn y brifysgol - roedd 56% o boblogaeth myfyrwyr yng Nghymru yn 2019-20 yn fenywod.

Beth ydy barn disgyblion?

Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon yn teimlo bod "adnoddau yn gallu chwarae rôl enfawr" wrth wneud cais

Mae Manon, 17 yn gwneud cais i astudio meddygaeth ac mae'n dweud y gallai'r broses fod yn ddigon "brawychus" i rai heb gefnogaeth.

Er ei bod yn credu bod y broses o wneud cais i brifysgol wedi ei lunio'n wreiddiol i fod yn "deg", dydy hynny ddim wastad yn wir. Yn aml mae rhai pobl yn talu cwmnïau preifat i helpu gyda chynigion.

"Dwi'n meddwl bod adnoddau yn gallu chwarae rôl enfawr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jada o Ysgol Gyfun Plasmawr bod modelau rôl yn holl bwysig

Mae Jada, disgybl arall yn chweched Ysgol Gyfun Plasmawr yng Nghaerdydd, yn dweud bod cyfrifoldeb ar brifysgolion i hybu cyfartaledd.

"O fewn rhai meysydd o waith yn amlwg mae 'na fylchau o ran ethnigrwydd a phethau.

"Rwy'n credu bod hi'n bwysig bod prifysgolion yn cynnig opsiynau a chyfleoedd i bobl o bob math o ethnigrwydd.

"Rwy'n ystyried bod yn athrawes falle mewn ysgol gynradd ac wrth i fi dyfu fyny doeddwn i ddim wedi gweld unrhyw un oedd yn edrych fel fi - roedd pob athrawes yn wyn."

Mae modelau rôl yn hollbwysig, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pharrell yn cytuno bod diffyg modelau rôl o fewn y byd addysg

Mae Pharrell, sy'n ystyried gweithio am flwyddyn neu ddwy cyn mynd i'r brifysgol, yn cytuno.

"Mae'n broblem dwi'n credu o fewn maes addysg a maes gweithio."

'Bras-olwg o berson'

Ceisio am le ar gyrsiau creadigol fydd Iestyn ac hyd yma dydy e ddim yn gweld bod y broses yn "annheg" yn gyffredinol.

Dim ond "rhyw fras-olwg" o berson yn unig mae'r system yn ei weld, meddai.

"Dydyn nhw ddim really yn dod i nabod ti fel person a rwy'n cymryd bod hynna'n cael rhyw fath o ddylanwad ar eu dewisiadau nhw o bwy sy'n mynd i gael eu derbyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn a Rhiannon o Ysgol Gyfun Plasmawr ymhlith y rhai sy'n dewis prifysgolion ar hyn o bryd

Mae Rhiannon, sydd am astudio gwyddoniaeth yn y brifysgol, yn gweld y broses o wneud ceisiadau yn "eitha overwhelming" ac mae wedi sylwi bod llai o ferched yn astudio rhai o'r gwyddorau

Ond ychwanegodd ei bod hi'n mwynhau'r ymchwil wrth ddechrau'r broses o geisio am lefydd.

"Mae'n gyffrous yn dydy e, i ddechrau prifysgol flwyddyn nesaf," ychwanegodd.

Beth ydy ymateb prifysgolion?

Yn ôl Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru: "Mae gan brifysgolion yng Nghymru hanes hir o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae'r broses cynigion i'r brifysgol yn gymhleth ac mae'r gwahaniaeth yn y cyfraddau yn adrodd rhan o'r stori, rhan sy'n bwysig i ni ddeall.

"Mae nifer o ffactorau yn rhan o'r broses - y mathau o gyrsiau mae unigolion yn ymgeisio amdanyn nhw, dewisiadau Safon Uwch a chymorth cynnar i fyfyrwyr o fewn y system addysg," meddai.

"Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi pobl o bob cefndir i gael mynediad i addysg uwch."

Ychwanegodd bod holl brifysgolion Cymru'n yn ystyried amgylchiadau a chefndiroedd pobl wrth wneud cynigion a bod hyn yn arf pwysig i geisio sicrhau bod y myfyrwyr yn adlewyrchu amrywiaeth lawn cymunedau Cymru.

Ond cyfaddefodd Amanda Wilkinson bod mwy y gellid ei wneud fel sector gan gynnwys gweithio gydag ysgolion a cholegau a chynnig rhaglenni mentora a fyddai'n cefnogi cymwysterau a cheisiadau disgyblion.

"Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pawb sy'n dymuno mynd i addysg uwch yn gallu ac yn cael eu cefnogi i wneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Clare Marchant, prif weithredwr UCAS, bod angen cau'r bwlch rhwng y cynigion i bobl wyn a phobl o gefndiroedd ethnig

Dywedodd Clare Marchant, prif weithredwr UCAS, y gwasanaeth mynediad i brifysgolion, bod cyrhaeddiad menywod yn tueddu i fod yn uwch yn y system addysg a'u bod yn tueddu i wneud cais am gyrsiau a sefydliadau mwy cystadleuol.

Mae hynny'n esbonio'r bwlch mewn cynigion, meddai.

Ychwanegodd bod ymgeiswyr yn dal i geisio am gyrsiau ar sail rolau traddodiadol.

"Addysg, nyrsio - mae mwy o fenywod yn gwneud cais am y cyrsiau hynny.

"Peirianneg, cyrsiau cyfrifiadurol - er ein bod yn gwella o ran denu menywod i'r pynciau STEM hynny, mae'r nifer yn dal i fod yn llai na dynion.

"Rwy'n credu bod rôl gan bobl sy'n gweithio yn addysg uwch, ond hefyd athrawon a rhieni... wrth frwydro yn erbyn rhai o'r stereoteipiau hynny a meithrin uchelgais ar draws ystod eang o gyfleoedd."

Dywedodd Ms Marchant hefyd y gall athrawon, llywodraeth leol, sefydliadau addysg uwch ac UCAS "fod yn gwneud mwy" i gau'r bwlch sydd yna rhwng y cynigion i bobl wyn a phobl o gefndiroedd ethnig.

Y nod meddai yw "meithrin uchelgais ym mhawb, nid dim ond yr elît."

Pynciau cysylltiedig