Tridiau o rybudd cyn rhoi stop ar ofal cartref yn 'annigonol'

  • Cyhoeddwyd
Jenna Kearns a'i mam, Melanie
Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Jenna, Melanie (dde), sy'n gweithio'n llawn amser ym Mryste, wedi bod yn helpu ei merch

Mae dynes anabl o Gasnewydd yn "ddig ac yn ofidus" ar ôl i ddarparwr gofal cartref roi'r gorau i'w gofal gyda dim ond wythnos o rybudd.

Mae gan Jenna Kearns, 30, arthritis gwynegol (rheumatoid) ac arferai gael gofalwyr yn dod i'w thŷ bedair gwaith y dydd i'w helpu i gael meddyginiaeth a gofal personol.

Ond dywedwyd wrthi fod ei phecyn gofal gyda 'Right at Home Caerdydd a Chasnewydd' bellach wedi'i "drosglwyddo" i'w gwasanaethau cymdeithasol lleol oherwydd diffyg staff.

Cafodd y teulu wythnos o rybudd o'r newid ond dywedodd y cwmni wrthyn nhw mai dim ond 72 awr o rybudd oedd yn rhaid iddyn nhw ei roi yn gyfreithiol.

Pwysleisiodd y cwmni na chymerwyd y penderfyniad "yn ysgafn".

'Tridiau heb ofal'

Dywedodd Cyngor Casnewydd fod tri chwmni wedi rhoi pecynnau gofal yn ôl yn ystod y dyddiau diwethaf, gyda'r sefyllfa'n "ddigynsail", yn ôl yr awdurdod.

Dywedodd Ms Kearns ei bod wedi "mynd i banig" pan ddywedwyd wrthi a'i bod wedi treulio tridiau heb ofal.

"Fe wnes i grio - allwn i ddim hyd yn oed godi o'r gwely," meddai. "Ar ddiwedd y dydd, maen nhw'n gwneud llawer i mi.

"Yna es i trwy gyfnod o fod yn ddig iawn oherwydd roeddwn i fel, 'aros funud, sut ydych chi'n disgwyl imi ymdopi? Sut ydych chi'n disgwyl imi ymdopi o ddydd i ddydd?'"

Ffynhonnell y llun, Jenna Kearns
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jenna bellach wedi cychwyn deiseb yn galw am newid yn y drefn

Mae'n golygu bod teulu a ffrindiau Jenna yn camu i'r adwy ond gyda'i mam, Melanie, yn gweithio'n llawn amser ac ym Mryste, mae'n "straen".

"Nid ydych chi am roi baich ar unrhyw un arall ond mae'n achos na allwn ymdopi ar ein pennau ein hunain," meddai Mel.

"Rwy'n poeni a yw Jenna yn iawn. Nid yw'n ymwneud â'r gofal yn unig, mae'n ymwneud â chi yn cael cwmni hefyd."

Mae Jenna bellach wedi cychwyn deiseb yn galw ar gwmnïau i orfod rhoi o leiaf pedair wythnos o rybudd cyn iddyn nhw dynnu gofal yn ôl.

"Mae pecyn gofal pawb mor wahanol ac mae rhai yn llawer mwy cymhleth na f'un i. Sut allwch chi adael pobl yn y tywyllwch fel yna?"

Dywedodd Right at Home Caerdydd a Chasnewydd ei bod yn "cydymdeimlo â'r unigolion yr effeithiwyd arnynt".

"Mae gennym bolisïau trosglwyddo cadarn ar waith ar gyfer sefyllfaoedd fel y rhain - dilynwyd pob un ohonynt i'r lythyren," meddai.

Ychwanegodd eu bod wedi rhoi "dwywaith cymaint o rybudd ag sy'n ofynnol fel bod digon o gyfle i ddarparwr newydd gael ei osod".

"Oherwydd yr heriau recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol cyfan, a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar ein lefelau staffio ein hunain, gwnaethom y penderfyniad anodd i ofyn i'r awdurdod lleol i gymryd gofal o nifer fach o'n cleientiaid.

"Ni chymerwyd y penderfyniad hwn yn ysgafn ond yn anffodus roedd ei angen fel y gallai ein holl gleientiaid barhau i dderbyn y gofal diogel o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu a'i ddisgwyl."

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Casnewydd eu bod wedi dod o hyd i "atebion amgen" i'r mwyafrif o bobl, gan ychwanegu "mae ein staff yn gweithio'n ddiflino ond mae hyn yn profi'n anhygoel o anodd o ystyried yr argyfwng presennol".