Byw efo Dystonia a breuddwydio am 'baradwys' Enlli

  • Cyhoeddwyd
Dylan Fôn ThomasFfynhonnell y llun, S4C

"Pan dwi'n cael fy episodes dwi'n dychmygu bod fi'n mynd i rhywle a bob tro Ynys Enlli sy'n dod i'n meddwl i. Mae Enlli'n hudol."

Mae Dylan Fôn Thomas, o Chwilog, yn disgrifio ei fywyd gyda chyflwr Dystonia fel 'cyfnod clo ddiddiwedd'.

Mae'r cyflwr niwrolegol yn effeithio ar asgwrn cefn Dylan, sy'n golygu ei fod yn cael trafferth cerdded ac yn dioddef gwingiadau (spasms) dwys sy'n effeithio ar ei gorff cyfan.

Ond un lle sy'n 'baradwys' iddo ddianc yn ei ben pan mae'n dioddef un o'i bylau yw Ynys Enlli ac mae wedi bod yn freuddwyd iddo gael mynd yno.

Mewn rhaglen ar S4C, DRYCH: Dylan a Titw i Ben Draw'r Byd, cawn weld Dylan yn gwireddu'r freuddwyd yma.

Ac mae'n taflu goleuni ar y berthynas arbennig rhwng Dylan a'i ofalwr Graham Thomas, sy'n adnabyddus yn yr ardal fel Titw.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dylan a Titw: "Dwi'm yn gwybod be' sa'n i'n neud heb Titw"

Gyda diffyg gofalwyr yn broblem dyrys, mae Titw wedi cynnig cefnogaeth gwerthfawr i Dylan ac i'w rieni, Sandra a Gwilym, ers i Dystonia daro Dylan yn sydyn tua wyth mlynedd yn ôl.

Dywedodd Dylan, sy'n 40 oed: "I fod yn onest, dwi'm yn gwybod be' sa'n i'n neud heb Titw.

"Pam gychwynodd hyn i gyd, o'n i'n trio bod yn gryf, ond rhai dyddiau o'n i'n jyst torri lawr.

"Yn y dechrau yn enwedig, roedd yna gyfnod o bron dwy flynedd o fod yn gaeth i'r gwely. Pam dwi'n cloi fyny, mae'n drwm ofnadwy i Mam a Dad, mae'n 24/7.

"Dwi 'di bod yn lwcus fod Titw wedi dod i'r drws.

"Mae o'n gyfeillgar, mae o'n fy neall i, mae'n gwybod pryd dwi isho llonydd a distawrwydd, mae'n parchu fy annibyniaeth - os 'da ni isho mynd i rhywle, dim problem. Mae'n licio cacen siocled!

"Mae cael person yna i siarad am rhywbeth 'da chi ddim isho siarad efo'ch rhieni - fel mae o'n dweud yn y rhaglen mae o fel brawd i fi.

"Dwi rhan fwya' o'r amser yn fy ngwely - dwi ddim yn gallu cerdded weithiau. Mae'n hawdd i rhywun ddweud wrtho ti 'cei di fynd i gadair olwyn' - ond mae'n nghefn i'n gallu mynd fel planc a dwi ddim yn gallu eistedd mewn cadair am hir.

"Fy nghorff i sy' ddim isho gadael fi wneud pethau. Wythnos diwethaf o'n i'n gaeth i'r gwely am wythnos gyfan, fel temporary paralysis. Mae'n newid - wythnos yma dwi'n gallu mynd eto."

Ffynhonnell y llun, S4c

Byw efo Dystonia

Mae Dylan yn un o tua phum mil o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda Dystonia, cyflwr niwrolegol sy'n effeithio symudiadau.

Meddai: "Dwi isho pobl i ddod i ddeall am y cyflwr Dystonia - mae'r cyflwr sy' gyda fi yn unigryw i fi ac mae'n gallu bod yn unigryw i bob person sy' efo Dystonia.

"Mae 'na gannoedd allan yna efo Dystonia sy' ond yn effeithio arnynt rhyw ychydig ac wedyn mae rhai pobl wedi eu effeithio'n ddrwg iawn.

"Y peth efo Dystonia, mae'n gallu cuddio fel cyflwr arall."

Neges am ofalwyr

Mae Titw yn treulio 30 awr bob wythnos yn gofalu am Dylan.

Dywedodd Dylan: "Mae'n wasanaeth anhygoel ond i fi 'di gofalwyr ddim yn cael eu cydnabod nac yn cael eu trin yn dda.

"Mae'r ffordd maen nhw'n cael eu trin gan gwmnïau neu hyd yn oed cynghorau lleol yn warthus weithiau.

"Maen nhw'n gorfod neud oriau gwirion. Mae'r ffaith fod cynghorau yn gorfod rhoi gwaith allan i gwmnïau preifat i neud y gwaith gofal - dylsa gofal yn y cartref fod yn gyfrifoldeb yr awdurdodau lleol a'r bwrdd iechyd.

"I fi dwi'm yn gweld gwahaniaeth rhwng rhywun sy'n auxillary nurse o fewn ysbyty a gofalwr yn y cartref.

"Maen nhw'n neud yr un math o beth. Y rheswm mae lot yn mynd nôl i weithio yn yr ysbyty ydy mae'r cyflog a'r oriau yn well.

"Mae awdurdodau lleol dan bwysedd - 'di Covid ddim wedi helpu.

"Dwi'n meddwl fod y cyfryngau wedi neud hw-ha o'r syniad fod gofalwyr yn gallu bod yn groes i beth ydan nhw. Dyna sy' 'di 'neud o'n waeth - mae prinder o ofalwyr oherwydd y stigma.

"Mae 'na bobl arbennig iawn allan yna."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dylan a Titw'n pwyntio at Enlli

Gwireddu breuddwyd

Ac mae Dylan yn ddiolchgar iawn i Titw am ei helpu i wireddu ei freuddwyd o ymweld â Enlli, siwrne heriol iawn iddo: "Hyd oes, mae 'na rhywbeth yn denu fi at yr ynys, rhywbeth hudol am y lle.

"Falle bod o'n gwaed rhywun o'r pen yma. Ynys ydi hi 'de, lle ti'n cael llonydd - paradwys efallai. Lle i ddianc o be' sy'n trwblu fi.

"Dwi'n byw ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd ac mae ochr fy nhad o ochrau Pen Llŷn ac wedyn mae gynno ni garafán yn Aberdaron.

"Gan bod fi mewn i hanes Cymru a hanes traddodiadau, y Mabinogi a hen chwedlau a phethau fel 'na, does 'na ddim 'nunlle tebyg i ynys efo chwedlau i rhywun sy' â dychymyg."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na rhywbeth yn denu fi at yr ynys, rhywbeth hudol am y lle"

Gwyliwch DRYCH: Dylan a Titw i Ben Draw'r Byd ar BBC iPlayer.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig