Euro dan-21 2023: Yr Iseldiroedd 5-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Paul BodinFfynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae gobeithion tim Paul Bodin o gyrraedd Euro 2023 dan-21 wedi diflannu fwy neu lai.

Mae gobeithion tîm dan-21 Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Euro 2023 yn rhacs ar ôl cweir go-iawn gan Yr Iseldiroedd yn Nijmegen nos Fawrth.

Daeth y golled ddyddiau yn unig ar ôl canlyniad siomedig i dîm Paul Bodin pan gollon nhw 1-0 yn Moldofa.

Aeth Yr Iseldiroedd ar y blaen wedi dim ond saith munud, ac ychwanegwyd ail gôl tua 10 munud cyn yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Football Association of Wales
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd cefnwr de Cymru, Fin Stevens, gôl ar y noson - ond drwy ei rwyd ei hun yn anffodus

Gyda'r sgôr yn 2-0 ar yr hanner, roedd gobaith y gallai'r Cymry ifanc daro'n ôl - ond chwalwyd y freuddwyd honno yn chwilfriw gyda thair gôl sydyn gan y tîm cartref ar ddechrau'r ail hanner.

Cefnwr de Cymru, Fin Stevens sgoriodd y gyntaf wrth rwydo i'w gôl ei hun wedi 48 munud.

Ddau funud yn ddiweddarach roedd hi'n 4-0, a dri munud wedi hynny fe aeth hi o ddrwg i waeth, pan sgoriodd y chwaraewr canol cae, Jurgen Ekkelenkamp ei ail gôl o'r noson.

Llwyddodd Cymru i gadw'r gwrthwynebwyr allan am weddill y gêm, ond doedd hynny fawr o gysur, gyda'u gobeithion o fynd i'r rowndiau terfynol yn ?, ar ben fwy neu lai.