Dyn yn wynebu colli ei goesau 'oherwydd ad-drefnu gwallus'

  • Cyhoeddwyd
Pete ac Esyllt CalleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pete Calley yn aros am lawdriniaeth i dorri ei goes i ffwrdd - mae eisoes wedi colli un

Mae dynes o'r gogledd yn dweud bod ei gŵr yn wynebu colli ei goesau o ganlyniad i ad-drefnu gwasanaethau gwallus gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Cafodd gwasanaethau fasgwlar y bwrdd eu canoli yn ysbyty Glan Clwyd ym mis Ebrill 2019, ond roedd yn benderfyniad dadleuol.

Fe wnaeth sawl aelod o staff ymddiswyddo oherwydd pryder am y cynlluniau.

Yn gynharach eleni, fe alwodd Aelod Senedd Cymru dros Arfon am wyrdroi'r cynllun yn gyfan gwbl.

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher, mae Sian Gwenllian bellach wedi honni mai "penderfyniad gwleidyddol" oedd symud y gwasanaethau i'r dwyrain, ac wedi galw am ymchwiliad.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn datganiad: "Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth fasgwlaidd sefydlog, o ansawdd uchel ar gyfer Gogledd Cymru."

Ar raglen Wales Live nos Fercher, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan y byddai'n pwyso ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i sicrhau canlyniadau gwell.

Mae Esyllt Calley o Lanllyfni yn mynnu bod tynnu gwasanaethau o'i hysbyty lleol ym Mangor wedi achosi niwed i gleifion fel ei gŵr.

Ar hyn o bryd, mae Pete Calley, sydd yn 51 oed, yn Ysbyty Gwynedd ac yn aros am lawdriniaeth i dorri ei goes i ffwrdd.

Mae eisoes wedi colli un goes oherwydd cymhlethdodau yn deillio o glefyd siwgr.

Disgrifiad,

Beirniadu gwasanaethau fasgwlar Betsi

Dywedodd Mrs Calley wrth raglen Newyddion S4C bod ei gŵr wedi byw gyda chlefyd siwgr ers 22 o flynyddoedd.

Chwe blynedd yn ôl, bu'n rhaid iddo gael tynnu dau o'i fysedd troed mewn llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.

Yn ôl Mrs Calley, doedd y driniaeth ddim yn llwyddiannus gan i waeledd gael ei adael yn y droed, oedd yn golygu bod angen llawdriniaeth arall ar ei gwr, yn ogystal â chyfnod hir o adferiad.

18 mis yn ôl, bu'n rhaid i Mr Calley ddychwelyd i Ysbyty Glan Clwyd, y tro hwn er mwyn torri ei goes i ffwrdd.

Dywedodd ei wraig y bu'n rhaid iddo gael tair llawdriniaeth o fewn wythnos ar ôl i gamgymeriadau gael eu gwneud.

'Wedi colli'r dyn nes i briodi'

Flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae'n wynebu llawdriniaeth arall i dorri ei ail goes ymaith. Ond yn ôl ei wraig, mae'n byw mewn ofn ar ôl yr holl lawdriniaethau yng Nglan Clwyd, ac mae'n gwrthod dychwelyd yno am driniaeth pellach.

"Mae o wedi ei effeithio gymaint. Mae dweud yr enw 'Glan Clwyd' yn ddigon i'w yrru o i panic attack," meddai Mrs Calley.

"Dwi'n teimlo 'mod i wedi colli'r dyn nes i briodi. Dwi'n caru 'ngŵr i gymaint, ond mae o wedi newid."

Bellach, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi talu i'w anfon i ysbyty yn Lerpwl am driniaeth.

Er ei bod hi'n falch y bydd ei gwr yn derbyn y driniaeth y mae o ei angen, mae'n rhwystredig nad yw'r driniaeth honno ar gael yn Ysbyty Gwynedd.

"Fysa fo ddim yn rhatach i wneud y llawdriniaeth ym Mangor, yn yr ardal mae o'n byw? Yn lle gyrru fo i rywle arall a rhoi'r broblem ar fwrdd iechyd arall?

"Mae'n siŵr fod y gost yn mynd i fod yn uchel iawn. Dwi ddim 'isho meddwl be ydy'r gost. Mae'n ypsetio fi gormod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwasanaethau fasgwlar y gogledd wedi eu canoli yn Ysbyty Glan Clwyd ers 2019

Mae Mrs Calley yn disgwyl ail blentyn gyda'i gŵr yn y flwyddyn newydd.

Mae hi o'r farn bod ail-strwythuro'r gwasanaeth fasgwlar yn bendant wedi effeithio ar iechyd ei gŵr.

"Dwi'n gwybod y bysa Pete yn dal hefo'i goes heblaw am Glan Clwyd. A bysa fo bendant ddim yn double amputee.

"Be 'da ni'n ffeindio'n od ydy o fewn dwy flynedd o gael yr uned fasgwlar yng Nglan Clwyd, mae'n mynd i fod yn double amputee. Chwe blynedd dan ofal Professor Dean Williams [yn Ysbyty Gwynedd] a gollodd o ddim byd mwy na dau fodyn."

Ymddiswyddodd yr Athro Dean Williams o'i rôl fel cyfarwyddwr gwasanaeth fasgwlar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn haf 2019.

Yn gynharach eleni, cafodd achos diswyddiad deongliadol ganddo fo yn erbyn y bwrdd iechyd ei setlo tu allan i'r llys.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Athro Dean Williams wedi galw am adolygiad wedi'r ad-drefnu

Dywedodd yr Athro Williams wrth Newyddion S4C iddo helpu datblygu adran arbed coesau a breichiau yn Ysbyty Gwynedd oedd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac iddo gael sicrwydd gan swyddogion o fewn i'r bwrdd iechyd y byddai gwasanaethau pwysig yn parhau ym Mangor er gwaetha'r cynlluniau canoli.

"Pan bwriwyd ati gyda'r canoli, cafodd gwasanaethau brys a llawdriniaethau mawr fasgwlar eu cymryd o Fangor," meddai.

"Gofynnais am adolygiad wedi'r ad-drefnu, gan fod problemau yn cael eu codi gennyf i a nifer o'm cydweithwyr - ddigwyddodd hynny ddim.

"Roedd gweld gwasanaeth cystal yn cael ei ddymchwel a'r canlyniadau oedd wedi eu darogan yn cael eu gwireddu yn anodd ac mae'n dal i fod yn anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Bethan Russell-Williams, mae'r pryderon oedd ganddi am y cynlluniau ad-drefnu wedi dod yn wir

Yn ôl Bethan Russell-Williams, oedd yn aelod annibynnol o fwrdd gweithredol Betsi Cadwaladr, ond a ymddiswyddodd oherwydd y cynlluniau ad-drefnu, dydi hi ddim yn difaru ei phenderfyniad.

"Mae bron i ddwy flynedd ers i fi ymddiswyddo. Mae'n gas gen i ddweud ac mae'n dorcalonnus i ddweud bod yr hyn nes i ragweld ar y pryd yn dod yn wir erbyn hyn," meddai.

"Mae'r canlyniadau i gleifion yn llawer salach nag oedden nhw pan oedd 'na wasanaeth yn Ysbyty Gwynedd.

"Mae mwy o gleifion yn cael lower limb amputation ac mae mwy o gleifion yn marw ar ôl cael major lower limb amputation.

"Ym mis Mawrth eleni, cafodd mortality action plan ei roi mewn lle. Mae'n amlwg felly bod 'na bryder am nifer y cleifion fasgwlar sydd yn marw yn ardal y bwrdd iechyd."

Adolygiad ffafriol

Wrth ymateb i'r honiadau, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mae ein gwaith i gryfhau'r safleoedd lloeren yn Ysbyty Gwynedd a Maelor Wrecsam, yn ogystal â gwaith tîm drwy'r rhwydwaith fasgwlaidd, yn parhau.

"Rydym wedi buddsoddi yn y theatr hybrid fodern £2.3m yn Ysbyty Glan Clwyd, y safle hwb ar gyfer y gwasanaeth, i ddarparu'r gwasanaeth gorau ar gyfer yr achosion mwyaf cymhleth.

"Y llynedd, gwahoddodd y Bwrdd Iechyd arbenigwyr o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS) i adolygu'r gwasanaeth newydd. Nododd hwn fod gan y gwasanaeth drefniant ar alwad llawfeddygol cadarn a llwybrau priodol ar gyfer ymyriad fasgwlaidd brys a chymhleth.

"Nododd yr RCS yr ymrwymiad gan bawb sy'n gysylltiedig i wella'r gwasanaeth a bod 'sail ardderchog' yn ei le i barhau i ddatblygu a gwella'r gwasanaeth fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru.

"Rydym mewn cysylltiad â Mr Calley ac yn dymuno'n dda iddo gyda'i lawfeddygaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sian Gwenllian mai nawr yw'r amser i adolygu'r drefn bresennol

Galw am ymchwiliad

Roedd ymateb Sian Gwenllian, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Arfon yn chwyrn.

Ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru fore Mercher, galwodd am ymchwiliad i'r mater.

Dywedodd: "Mae angen i'r bwrdd iechyd ymddiheuro yn llawn ac yn ddiffuant am y llanast yma, ac mae angen iddyn nhw symud ar frys i adfer y sefyllfa, ac i edrych o ddifrif ynglŷn ag ail-sefydlu'r gwasanaeth ym Mangor.

"Mi oedd 'na uned wych ym Mangor, roedd yr arbenigedd i gyd ym Mangor, doedd 'na ddim traddodiad o wasanaethau fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd. Felly os oedd angen symud o gael gwasanaeth llawn mewn tri man, pam yn y byd symud i Glan Clwyd?

"Ma' 'na benderfyniadau gwleidyddol yn digwydd yn fan hyn, mae 'na symud gwasanaethau i'r dwyrain wedi bod yn digwydd yn hanesyddol a hynny er mwyn cynnal cefnogaeth y Blaid Lafur draw yn y seddau ymylol. Mae o'n gyhuddiad difrifol ond dwi ddim yn ei wneud o ar chwarae bach. Pa reswm arall sy' 'na dros ddatgymalu gwasanaethau?

"Dydi Glan Clwyd ddim yn y canol... dydi canoli gwasanaethau i bobl sy'n byw awr a hanner, dwy awr i ffwrdd... dim canoli ydi hynny. Symud gwasanaethau i'r dwyrain sydd wedi digwydd yn fan hyn.

"Dwi'n meddwl bod angen i'r bwrdd ymddiheuro am y gwallau anferth sydd wedi digwydd efo'r gwasanaethau fasgwlar. Mae pobl fel Pete Calley wedi cael eu dal yng nghanol hyn, mae gen i enghreifftiau o bobl eraill sydd wedi dioddef yn sgil yr ad-drefnu gwallus yma... Ymddiheuriad, ad-drefnu a chyfaddefiad llawn bod hyn wedi bod yn gam gwbl niweidiol."

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y pryderon ar raglen Wales Live, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Rwyf wedi siarad gyda phobl sy'n siomedig iawn ynghylch yr ad-drefnu a ddigwyddodd yng ngogledd Cymru ac rwyf wedi siarad gyda'r bwrdd iechyd ynghylch yr ad-drefnu ac rydym yn disgwyl gwell ganlyniadau."