Bond... Jâms Bond?
- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi fod taid yr actor Daniel Craig yn dod o Fae Colwyn a'i nain yn dod o Landudno?
Rhedeg siop oedd ei daid o Fae Colwyn, William John Gartland Craig, a roedd ei nain, Rosalinde Craig yn dod o Landudno. Magwyd tad Daniel mewn bwthyn yn Gronant ger Prestatyn.
 Daniel Craig wedi dod i ddiwedd ei gyfnod yn serennu fel y sbei James Bond yn y ffilm Bond ddiweddaraf No Time To Die, oes gynnon ni wir hawl i alw Jâms ar James Bond?
Bond o'r Bae...
Dyma'r agosaf i Gymru ddod at gael dweud fod 'na un ohonon ni wedi chwarae James Bond.
Cafodd yr actor Timothy Dalton, a chwaraeodd ran Bond yn ffilmiau The Living Daylights a Licence To Kill yn 1987 a 1989 ei eni ym Mae Colwyn.
Wnawn ni anwybyddu'r ffaith fod ei dad yn Sais, ei fam yn Americanes o dras Gwyddelig a'i fod wedi symud i fyw yn Lloegr cyn ei fod yn bedair oed.
Cymro oedd Bond mewn dwy ffilm, a dyna'r diwedd arni!
Shwt mae hwn yn gweithio 'te?
Cymro hefyd oedd yn gyfrifol am holl declynnau lliwgar Bond yn y dyddiau cynnar, ac yn wir tan yn gymharol ddiweddar.
Ond er gwaetha'r ffaith fod e'n medru esbonio teclynnau cymhleth a lliwgar MI6 i James Bond, yn ôl mab yr actor Desmond Llewelyn, doedd e ddim yn gallu gweithio ei beiriant fideo hyd yn oed.
Ganwyd yr actor yng Nghasnewydd yn 1914 ac ef oedd yn chwarae rhan Q yn nifer o'r ffilmiau Bond cynnar. Ei ffilm olaf oedd The World Is Not Enough yn 1999 pan oedd Pierce Brosnan y chwarae Bond.
Fe gafodd e ran Q gan ei fod wedi gweithio gyda chyfarwyddwr cyntaf Bond, Terence Young, mewn ffilm arall, a'r bwriad yn wreiddiol oedd i Q siarad gydag acen Gymreig. Ond doedd Llewelyn ddim yn credu y byddai gan y cymeriad hygrededd ymhlith y gwylwyr, felly gwas sifil Seisnig gyda chefndir ysgol fonedd oedd y dyn oedd yn cyflenwi Bond gyda'r holl gajets defnyddiol.
Aberporth a... Pyongyang?
Mae perthynas Cymru gyda lleoliadau ffilmio James Bond yn un cymysg a dryslyd iawn.
Mi gafodd rhannau o'r ffilm Die Another Day ei ffilmio ar draeth Penbryn, ger Aberporth, Ceredigion (oherwydd ei debygrwydd anhygoel i Ogledd Corea mae'n debyg).
Ond yn ôl chwedl leol, roedd yn rhaid i'r stiwdio ail-saethu'r golygfeydd oherwydd fod ffermwr lleol i'w weld yn glir yn y cefndir ar ei dractor mawr sgleiniog, oedd yn bendant ddim yn adlewyrchu Gogledd Corea.
Mae rhyw 10 eiliad o'r ffilm The Spy Who Loved Me wedi ei ffilmio yng nghronfa ddŵr Nant Ddu, ger Merthyr Tudful yn ystod haf sych 1976. (Edrychwch am ddau bysgotwr yn sownd ar gwch rhwyfo yng nghanol llyn heb ddŵr.)
Ac wrth gwrs, gwell i ni beidio sôn am y Cynulliad yn gwrthod caniatâd i'r stiwdio ddefnyddio Siambr y Senedd fel pencadlys mudiad Spectre yn y ffilm Spectre a ryddhawyd yn 2015.
Dyn drwg o Sir y Fflint
Cymro o Sir y Fflint oedd dyn drwg y ffilm Tomorrow Never Dies. Jonathan Pryce oedd yn chwarae rhan Elliot Carver, y dihiryn oedd yn ceisio dinistrio'r byd. Cafodd ei eni yng Ngharmel a chael ei addysg yn Ysgol Rhuthun cyn cael llwyddiant mawr yn y diwydiant ffilm. Ond yn anffodus doedd yna ddim llwyddiant mawr i amcanion Carver yn y ffilm hon. (Wps! Sori, os nad y'ch chi wedi ei gweld hi!)
Dahl ati...
Er yn fwy adnabyddus fel awdur plant, Roald Dahl, gafodd ei eni a'i fagu yng ngogledd Caerdydd, oedd yn gyfrifol am sgript y ffilm Bond, You Only Live Twice.
Roedd yn hen gyfaill i awdur llyfrau gwreiddiol James Bond, Ian Fleming. Daeth y ddau i nabod ei gilydd tra roedden nhw yng ngwasanaeth cudd y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mi wnaeth Dahl addasu un arall o lyfrau Ian Fleming ar gyfer ffilm, sef Chitty Chitty Bang Bang.
Y cantorion
Mae rhai o'r caneuon sy'n gysylltiedig â Bond bron mor eiconig â'r ffilmiau eu hunain. Mae Cymru'n medru dal ei phen yn uchel yn y maes gan fod dwy o themâu'r ffilmiau Bond gorau erioed, wedi'u perfformio gan ddau o gantorion mwyaf eiconig Cymru.
Y Fonesig Shirley Bassey wnaeth ganu Goldfinger yn 1964, ac yna'r flwyddyn ganlynol fe gafodd Syr Tom Jones ei gyfle yntau i recordio baled bwerus ar gyfer Thunderball.
Jâms neu James Bond? Penderfynwch chi.
Hefyd o ddiddordeb:
Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol ym mis Mai 2017.