'Siawns gwell na rhesymol' am orsaf newydd Wylfa

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gorsaf Bŵer WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ansicrwydd yn parhau am beth fydd dyfodol safle Wylfa yng ngogledd Môn

Mae 'na "siawns gwell na rhesymol" y bydd safle Wylfa ar Ynys Môn yn cael gorsaf bŵer niwclear newydd, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Simon Hart y byddai'r cynllun yn "trawsnewid" economi gogledd Cymru ac yn creu miloedd o swyddi pe bai'n mynd yn ei flaen.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cronfa gwerth £120m er mwyn cefnogi cwmnïau sydd eisiau adeiladu adweithyddion modiwlar bychan.

Mae'r llywodraeth eisoes wedi cynnal trafodaethau cychwynnol gyda chwmnïau sy'n awyddus i ddefnyddio'r safle.

'Rhaid cyflwyno cais cryf'

Ond dywedodd adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU fis diwethaf fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda chwmni peirianneg Bechtel o'r Unol Daleithiau, sy'n cynnig adeiladu gorsaf bŵer niwclear Westinghouse.

"Mae hi lan i Westinghouse nawr," meddai Mr Hart ddydd Mawrth.

"Maen nhw'n dweud eu bod eisiau cyfraniad o £20m i £25m ac mae'n rhaid iddyn nhw nawr gyflwyno cais cryf. Rydyn ni eisiau eu helpu nhw i'r gorau o'n gallu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Hart y byddai gwireddu cynllun o'r fath yn "trawsnewid bywydau pawb sy'n byw ar yr ynys"

Fis Ionawr fe wnaeth cwmni Horizon dynnu 'nôl o gynlluniau i adeiladu Wylfa Newydd, gan nodi diffyg cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU fel un o'r rhesymau.

Fe ddaeth hynny wedi i Hitachi, sy'n berchen ar Horizon, dynnu eu cefnogaeth i'r cynllun gwerth £20bn ym Medi 2020.

Yn ôl adroddiadau, y rheswm dros hynny oedd nad oedd gweinidogion wedi gallu dod i gytundeb â'r cwmnïau am faint o arian fyddai'n cael ei dalu am yr ynni fyddai wedi cael ei gynhyrchu ar y safle.

'Trawsnewid bywydau'

Mae Wylfa yn cael ei grybwyll ddwywaith fel safle posib ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn strategaeth net-sero Llywodraeth y DU, gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

"Dydw i ddim yn credu y bydden ni'n crybwyll enw Wylfa ddwywaith os na fyddai siawns gwell na rhesymol fod hwn yn rhywbeth allwn ni ei wireddu," meddai Mr Hart.

"Os ydyn ni'n llwyddo i wneud hynny, byddai'n trawsnewid bywydau pawb sy'n byw ar yr ynys ac ar draws gogledd Cymru."

Y gred yw y byddai unrhyw brosiect yn cymryd tua 15 mlynedd i gael ei gwblhau.