Cynlluniau gwyrdd £1.7bn ar gyfer morlyn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr yn arwain cynlluniau i sefydlu prosiect ynni adnewyddadwy gwerth £1.7bn ar lannau Bae Abertawe.
Fe fyddai'r prosiect yn creu miloedd o swyddi.
Mae cynllun Eden Las (Blue Eden), sy'n cael ei gyllido'n breifat, yn cynnwys morlyn llanw a phaneli solar sy'n arnofio.
Mae hefyd yn cynnwys ffatri cynhyrchu batris a chanolfan data anferth a fyddai'n defnyddio ynni adnewyddadwy.
'Llawer o fuddion'
Mae'r consortiwm rhyngwladol yn cael ei arwain gan DST Innovations sy'n cynhyrchu batris diwydiannol yn yr Unol Daleithiau.
Dyma'r trydydd cynnig i ddatblygu morlyn llanw ym Mae Abertawe.
Fe fyddai tri cham i'r cynllun - camau a fyddai'n cael eu datblygu dros gyfnod o 12 mlynedd gan gychwyn yn 2023.
Y cam cyntaf fyddai creu 1,000 o swyddi i gynhyrchu batris uwch-dechnoleg ar gyfer storio ynni.
Yna'r bwriad fyddai codi fferm ynni solar arnofiol yn ardal y dociau a chanolfan data enfawr a fyddai'n cael ei phweru gan ynni adnewyddadwy yn ddi-dor - dyma'r datblygiad cyntaf o'i fath yn y DU.
Fe fyddai'r gwres a fyddai'n cael ei gynhyrchu gan y gweinyddion cyfrifiadurol yn y ganolfan yn cynhesu tai eco newydd ar hyd y glannau.
Fe fyddai yna hefyd ganolfan ymchwil newid hinsawdd a chefnforol a thai arnofiol - tebyg i rai yn Yr Iseldiroedd.
Mae'r prosiect yn gobeithio creu 16,000 o swyddi ym Mae Abertawe yn y tymor hir.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: "Rwy'n falch bod consortiwm rhyngwladol, sy'n cael ei arwain gan gwmni Cymreig, wedi datblygu ein gweledigaeth.
"Fe fydd llawer o fuddion yn dod o'r cynllun - un ohonynt yw uchelgais y cyngor i fod yn sero net erbyn 2050.
"Bydd Eden Las yn golygu bod Abertawe a Chymru yn arloesi ym maes ynni adnewyddadwy ac yn creu miloedd o swyddi a fydd yn talu'n dda.
"Fe fydd yn lleihau ein ôl-troed carbon yn sylweddol ac yn codi proffil rhyngwladol Abertawe fel dinas i fuddsoddi ynddi."
Dywedodd cyd-sefydlydd cwmni DST a'r prif weithredwr Tony Miles: "Mae'r prosiect yn gyfle i greu patrwm ar gyfer y byd cyfan - gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy, technoleg newydd hyd ei eithaf a datblygu lle nid yn unig i fyw a gweithio ond i ffynnu hefyd."
Mae'r cwmni yn ychwanegu nad yw angen arian naill ai gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru, na chwaith pris gwarantedig am y trydan, gan y bydd y trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio o fewn datblygiad yr Eden Las.
Cymdeithas Porthladdoedd Prydain biau'r tir yn Noc Tywysog Cymru yn SA1 - ac mae nhw a Cyngor Abertawe yn cefnogi'r datblygiad.
Dywedodd y Seneddwr Joe Manchin, o Orllewin Virginia yn yr UDA - lle mae cwmni DST eisoes yn cynhyrchu batris diwydiannol - bod y prosiect yn "enghraifft wych" o gydweithio ar raddfa fyd eang.
"Fe fyddai yn gwneud cyfraniad aruthrol i'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac yn cadw swyddi yn ein cymunedau."
Mae yna hefyd gobaith gall y cynllun arwain y ffordd i brosiectau tebyg yn yr ardal leol - yn enwedig wrth i gwmni dur Tata galw am "llwybr clir" ar sut i gynhyrchu llai o garbon.
Dywedodd Aled Vaughan Owen, aelod o gyngor Sir Caerfyrddin ac sydd hefyd yn rhedeg cwmni Ynni Da sy'n cefnogi ysgolion trwy ddarparu gweithdai ynni, ei fod yn gobeithio gall y morlyn ysbrydoli mwy o brosiectau tebyg.
"Yn bellach i'r Gorllewin yn Sir Gar lle fi'n dod mae'r infrastructure dim digon cryf er mwyn datblygu prosiectau mawr ynni a hwnna'n eitha rwystredig i ni fel sir," meddai.
"Y gobaith yw trwy ddatblygu prosiect fel hyn bydd yr isadeiledd 'na yn cael eu uwchraddio er mwyn bod fwy a fwy o brosiectau yn gallu dysgu o be sy'n digwydd yn Abertawe."
"Be sy'n bwysig ydy ni'n dysgu'n gyflym os ydy ni'n ffeindio rhwystredigaethau yma yn Abertawe bod ni'n dysgu ohoni trwy ddatblygu prosiectau tebyg ar draws y wlad achos dyna beth sydd angen arna ni er mwyn cyrraedd targedau," ychwanegodd.
Ond er bod cefnogaeth gref am y cynllun mae yna rhai sydd yn cwestiynu a yw'r prosiect yn werth yr arian.
Wrth drafod gyda rhaglen Dros Frecwast, dywedodd Dr Robert Bowen, darlithydd busnes ym Mhrifysgol Abertawe, serch buddion y morlyn bydd rhai yn cwestiynu ei gost.
"Lot o'r cwestiynu oedd wedi digwydd y tro diwethaf oedd o gwmpas effeithlonrwydd arian," meddai.
"Oedd y cynllun yna yn mynd i gynhyrchu digon o egni mewn ffordd effeithlon yn enwedig y pris am bob uned?
"Felly bydd yn ddiddorol i weld beth sydd 'di newid ar yr ochr yna.
"Bydd na phobl yn cwestiynu ydy hyn yn werth arian a hefyd yn werth y gost am bob uned sy'n cael eu cynhyrchu oherwydd mae yna gost fawr," dywedodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020