Menyw 'eisiau bod yn rhan o'r newid' a chael eraill i fyd peirianneg
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o dde Cymru sydd ar fin lansio crib newydd ar gyfer gwallt affro yn dweud bod angen mwy o fenywod o gefndiroedd du ac ethnig i fentro i'r byd peirianneg.
Mae Youmna Mouhamad o Abertawe, sydd wedi cael cefnogaeth Prifysgol De Cymru wrth lansio'r grib arbenigol, eisiau defnyddio'i phrofiad i annog eraill.
Ar hyn o bryd mae llai na 2% o beirianwyr Prydain yn fenywod o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol.
"Byddwn i, yn ifanc, wedi bod wrth fy modd yn cael menyw ddu yn fy nysgu i," meddai.
"Dwi eisiau bod yn rhan o'r newid fel bod y person ifanc sy'n dod ar fy ôl i yn teimlo eu bod nhw'n cael eu clywed yn well a'u derbyn yn haws."
Roedd Youmna Mouhamad yn astudio gradd PhD mewn Ffiseg pan gafodd hi'r syniad ar gyfer y Nyfasi Deluxe Detangler - crib sydd wedi ei dylunio ar gyfer gwallt cyrliog affro naturiol.
Er mwyn ariannu ei hastudiaethau roedd hi'n gofalu am ferch fach oedd yn cael trafferth wrth olchi a chribo ei gwallt affro, ac oddi yno y daeth y syniad am y teclyn.
"Fe symudais i wedyn i astudio peirianneg gan fy mod i wrth fy modd gyda'r broses o fynd â syniad a chreu rhywbeth."
Fe enillodd y peiriannydd wobr mentergarwch yr Academi Beirianneg Frenhinol er mwyn datblygu'r grib.
Wrth lansio'r teclyn, mae Youmna wedi bod yn cael ei mentora gan yr Athro Dylan Jones-Evans, sy'n ddarlithydd Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae yntau'n dweud bod prinder menywod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig o fewn y byd peirianyddol.
"Mae'n anodd darganfod pobl eraill fel Youmna sydd yn medru bod yn esiampl i bobl i gymryd y cam cyntaf i ddechrau busnes," meddai.
"A beth fydd yn bwysig yw nid beth mae Youmna yn ei wneud rŵan ond be' fydd hi'n 'neud fel esiampl i bobl eraill o'i chefndir hi i fynd ymlaen i ddechrau busnes a chreu swyddi a chyfoeth yma yng Nghymru."
'Os all hi, fe alla i'
Wrth ddatblygu'r teclyn, mae Youmna wedi bod yn ei dreialu ar grwpiau o fenywod â gwallt affro - ymhlith y gwirfoddolwyr roedd Lenient sy'n fam i dair o ferched.
"Mae'r broses o olchi'r gwallt yn boenus iddyn nhw, yn enwedig y cribo. Ond y tro cyntaf ddefnyddiais i'r grib yma, roedd e'n rhwydd iawn."
Roedd ei merch, Goodness, yn cytuno a dywedodd: "Roedd y grib yn ei gwneud hi'n rhwydd iawn datod y clymau. Gyda chrib arferol mae'n teimlo fel petai rhywun yn tynnu fy ngwallt i, a phan fod clymau mae'n gwneud dolur."
Yn ogystal â helpu pobl â gwallt affro, mae Youmna yn dweud fod y grib yn gweithio i unrhyw un sydd â gwallt cyrliog neu hyd yn oed farf sylweddol.
Ond yr hyn mae'n teimlo'n "angerddol" amdano, meddai, yw helpu pobl eraill o'r un cefndir â hi i fynd mewn i fyd busnes a pheirianneg - taith a fu'n un anodd iddi hi ar brydiau.
"Pan ro'n i'n mynd drwyddi, ro'n i'n meddwl mai fi oedd ar fai, yn hytrach na'r amgylchiadau. Ond o siarad â myfyrwyr du eraill, wnes i sylweddoli 'O! Nid fi yw e!'
"Dydw i erioed wedi cael yr un athro du, a mae hynny yn beth mawr - oherwydd mae'n dweud stori: os all hi gyrraedd yna, fe alla i."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020