'Colli ymddiriedaeth' wedi ymgais recriwtio heddlu cudd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchydd gyda Black Lives Matter (BLM) yn dweud iddi golli pob ymddiriedaeth wedi i'r heddlu cudd geisio'i recriwtio fel hysbyswr (informant).
Dywedodd Lowri Davies, myfyriwr y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, iddi gael caniad ym mis Mawrth gan fenyw oedd yn dweud ei bod yn gweithio'n gudd i Heddlu De Cymru.
Roedd e'n "ddryslyd" i gael cais i gyflenwi gwybodaeth am ymgyrchwyr asgell dde eithafol oedd wedi bod yn rhan o brotestiadau BLM, meddai.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod cwyn wedi ei dderbyn yn ymwneud â chysylltiad gyda swyddog cudd, a bod adran safonau proffesiynol y llu yn ystyried y gŵyn.
'Dim gwybodaeth'
Cafodd Ms Davies alwad ffôn un bore Mawrth ym mis Mawrth eleni.
"Dywedodd ei bod gyda'r heddlu cudd ac yn gweithio gyda hysbyswyr - fel arfer mewn achosion cyffuriau a lladrata - ac yn fy achos i, y protestiadau," meddai Ms Davies.
"Dywedodd bod ganddi ddiddordeb mewn grwpiau eraill oedd yn dod i'n protestiadau ni ac yn achosi trwbwl... pobl oedd ddim yn ein grŵp ni.
"Ond i fod yn onest ro'n i'n gwybod mai cast oedd hynny, oherwydd beth fyddwn i'n ei wybod am y grwpiau eraill? Does gen i ddim gwybodaeth am hynny - rwy'n rhan o BLM Abertawe - dyw'r 'alt-right' ddim yn rhywbeth dwi'n ymwybodol ohono."
Ychwanegodd Ms Davies ei bod wedi trefnu i gwrdd gyda'r swyddog y diwrnod canlynol.
"Roedd gen i gymaint o ofn," meddai.
Fe dreuliodd awr a hanner gyda'r swyddog a chael ei holi am ei theulu, BLM a'r asgell dde eithafol.
'Cwestiynu fy hun'
Ni wnaeth ymateb i alwadau pellach gan y swyddog.
"Mae e wedi 'neud i fi gwestiynu fy hun, yn enwedig pan mae pobl newydd yn dod i mewn i 'mywyd i... bron fy mod i'n eu barnu nhw yn fy mhen.
"Mae ymddiried yn eithaf anodd i fi nawr i fod yn onest. Mae gen i berthynas dda gyda'r heddlu o safbwynt protestio, ac iddyn nhw droi rownd nawr gyda'r peth 'good cop, bad cop' yma bron - mae e wedi dinistrio beth oeddwn i'n meddwl oedd yn digwydd."
Mae Tim Brain yn gyn-Brif Gwnstabl gyda Heddlu Sir Gaerloyw ac yn ysgrifennu ar faterion plismona, a dywedodd bod y defnydd o hysbyswyr yn "faes sy'n cael ei reoli'n dynn iawn".
"Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu recriwtio o dan drefn llym iawn lle mae swyddog awdurdodi a rheolwr, felly mae llawer o reoleiddio am y recriwtio a'r ffordd y mae hysbyswyr yn gweithio.
"Anghofiwch y ffordd yr oedd y broses yn ymddangos ar deledu'r 70au neu hyd yn oed 80au - mae recriwtio a rheoli ffynhonnell wybodaeth gudd nawr yn waith arbenigol gan uned arbenigol o fewn llu heddlu," meddai.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu De Cymru nad oedden nhw "yn cadarnhau nac yn gwadu unrhyw fanylion ynghylch y mater yma".
"Mae cwyn wedi ei dderbyn sy'n cyfeirio at gysylltiad a wnaed gan swyddog cudd. Mae hyn yn cael ei ystyried gan Adran Safonau Proffesiynol y llu, ac felly ni fyddai'n briodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.
"Mae'r defnydd o hysbyswyr yn dacteg sydd wedi'i sefydlu a'i rheoli'n llym gan heddluoedd ar draws y wlad i warchod y cyhoedd. Mae eu defnydd yn cael ei reoli o fewn paramedrau cyfreithiol llym gan staff arbenigol, ac mae atebolrwydd a gwarchod yr hysbyswr a'r cyhoedd yn holl-bwysig.
"Mae gan drefnwyr protestiadau ddyletswydd i siarad gyda heddluoedd, ac mae gan Heddlu'r De record dda o weithio gyda threfnwyr i hwyluso protestio cyfreithiol tra'n lleihau tramgwyddo ar y cyhoedd yn ehangach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2021
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021