Ymgyrch i osgoi clybiau nos yn dilyn achosion o sbeicio

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"'Dyn ni jyst methu mwynhau noson allan rhagor. 'Dyn ni'n paranoid iawn," meddai Cerys Davage

Cafodd protest ei chynnal y tu allan i glwb nos yn Aberystwyth nos Fawrth fel rhan o gyfres o brotestiadau gwrth-sbeicio ar hyd y DU.

Fe gafodd protestiadau 'Girls Night In' eu trefnu yn dilyn nifer o achosion diweddar o sbeicio, gan gynnwys honiadau o sbeicio drwy nodwydd.

Gyda phryderon fod sbeicio ar gynnydd, fe fydd pobl yn boicotio clybiau nos a bariau yr wythnos hon.

Yn ôl y fyfyrwraig Cerys Davage mae sbeicio yn destun gofid iddi hi a'i ffrindiau: "'Dyn ni jyst methu mwynhau noson allan rhagor. 'Dyn ni'n paranoid iawn."

Mae cannoedd o adroddiadau o sbeicio diodydd a sbeicio drwy nodwydd wedi bod ledled Prydain dros y misoedd diwethaf, yn ôl Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.

O ganlyniad mae nifer o brotestiadau ar draws Cymru a'r DU wedi cael eu cynllunio dros yr wythnos hon, yn cynnwys yr un yn Aberystwyth nos Fawrth.

Dywedodd Cerys - 20, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth - iddi gymryd rhan yn y brotest nos Fawrth er mwyn ceisio "cael sylw'r clybiau nos i greu newid a sicrhau mwy o ddiogelwch i bobl yn y clybiau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Mercher, dywedodd: "'Dyn ni jyst methu mwynhau noson allan gymaint ag oeddwn ni cwpl o flynyddoedd yn ôl cyn Covid jyst oherwydd rydyn ni falle'n edrych o gwmpas am unrhyw un alle fod yn rhy agos atom ni, a'n sbeicio ni," meddai.

"'Dyn ni wastad yn 'neud siŵr bod ni gyd gyda'n gilydd... Hyd yn oed i fynd i'r toiled neu i fynd i nôl diod, mae'n rhaid wastad neud yn siŵr bod mwy nag un ohonom ni a gyd 'neud yn siŵr bod neb ar ben ei hunan."

'Dim ond hyn a hyn gallwn ni 'neud'

Dywedodd Cerys fod hi a'i ffrindiau wedi ceisio bod yn ofalus ar nosweithiau allan yn dilyn yr adroddiadau o bobl yn cael eu sbeicio.

"Oeddem ni'n ofalus iawn gyda'n diodydd ni, oedden ni'n cadw ein diodydd gyda ni am yr holl amser, cadw ein llaw ar ben hi, yna 'naeth rhai clybiau gyflwyno stoppers - fatha caeadau bach i roi ar ben diodydd i roi gwellt trwyddyn nhw - er mwyn sicrhau bod neb yn gallu... sneakio rhywbeth mewn i'r diodydd.

"Ond wedyn fe ddaeth y nodwyddau yma wedyn, a phobl yn dweud, 'Wel os 'dych chi'n gwisgo dillad sy'n eich covero chi wedyn mae'n iawn,' ond wedyn 'naethon ni glywed achosion o bobl yn cael eu sbeicio trwy jîns er enghraifft, felly mae 'na ddim ond hyn a hyn gallwn ni 'neud.

"Mae'n anodd iawn gallu osgoi rhywbeth fel nodwydd trwy unrhyw ddilledyn rili."

Ffynhonnell y llun, Cerys Davage
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cerys Davage fod angen sicrhau mwy o ddiogelwch i bobl mewn clybiau nos

Yn ôl arbenigwyr, mae'n annhebygol fod sbeicio drwy nodwydd yn digwydd ar raddfa eang.

Ond mae Cerys yn galw ar glybiau nos i wneud mwy.

"Dwi dal yn meddwl bod mwy o ddyletswydd arnyn nhw i sicrhau hynny oherwydd mae 'na ddim ond hyn a hyn all pobl fel ni sy'n mynd allan 'neud."

Mae boicot o glybiau yng Nghaerdydd wedi ei gynllunio ar gyfer 29 Hydref.

Beth ddylwn i wneud os yw fy ffrind wedi'i sbeicio?

Mae symptomau sbeicio yn aml yn debyg i fod yn feddw, megis siarad yn aneglur, teimlo'n sâl, yn flinedig neu wedi drysu, a cholli ymwybyddiaeth.

Os ydych chi'n meddwl bod eich ffrind wedi cael ei sbeicio, cyngor Drinkaware, dolen allanol yw i aros gyda nhw, galw am ambiwlans os yw eu cyflwr yn gwaethygu, a'u hannog i beidio yfed mwy o alcohol.

Pynciau cysylltiedig